Ethol Esgob Bangor Newydd yn Llandudno

Bydd cynrychiolwyr o bob rhan o’r Eglwys yng Nghymru yn ymgynnull yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Llandudno, ym mis Mehefin i ethol Esgob nesaf Bangor.
Bydd Coleg Etholiadol o 46 aelod yn cyfarfod i weddïo, myfyrio, a dirnad pwy y mae Duw yn ei alw i wasanaethu fel yr esgob nesaf. Byddant yn ystyried rhestr gyfrinachol o ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer.
Mae’r Coleg, sy’n dechrau ar 16 Mehefin, yn dilyn ymddeoliad y Gwir Barchedig Andrew John ym mis Awst 2025.
Yr esgob newydd fydd yr 82ain i ddwyn teitl Esgob Bangor, ac fe fydd yn gwasanaethu esgobaeth sydd â chysylltiad cyfoethog â phererindod a gweddi, yn ymestyn o Ynys Môn i Benrhyn Llŷn.
Mae’r Coleg Etholiadol yn cynnwys cynrychiolwyr clerigol a lleyg o bob un o chwe esgobaeth yr Eglwys yng Nghymru, ynghyd â holl esgobion yr esgobaethau. Mae pob trafodaeth yn gyfrinachol. Bydd ymgeiswyr yn cael eu cyfweld wyneb yn wyneb yn ystod y cyfarfod, eu trafod, ac yna pleidleisir arnynt drwy bleidlais gudd. Caiff unrhyw ymgeisydd sy’n derbyn cefnogaeth dwy ran o dair o’r rhai sy’n bresennol ac yn pleidleisio ei ddatgan yn esgob-ethol. Os na fydd unrhyw ymgeisydd yn cyrraedd y trothwy hwn, bydd y Coleg yn dychwelyd at y cam enwebu, a bydd y broses yn parhau. Gall y Coleg eistedd am hyd at dri diwrnod yn olynol.
Unwaith y bydd penderfyniad wedi’i wneud, bydd cyhoeddiad yn cael ei wneud wrth ddrws Eglwys y Drindod Sanctaidd.
Yn dilyn yr etholiad, bydd gan yr esgob-ethol hyd at 28 diwrnod i dderbyn y swydd. Os bydd yn gwneud hynny, bydd yr etholiad yn cael ei gadarnhau’n ffurfiol mewn cyfarfod o’r esgobion mewn Synod Sanctaidd.
Bydd y Coleg Etholiadol yn dechrau ar 16 Mehefin gyda dathliad o’r Cymun Bendigaid am 9.30yb, ac mae croeso cynnes i bawb fod yn bresennol. Ar ôl y gwasanaeth hwn, bydd yr eglwys ar gau drwy gydol y broses benderfynu.