Pobl ifanc Conwy yn codi £2,000 i adfer tŵr Eglwys y Santes Fair

Mae dau berson ifanc o Gonwy wedi codi bron i £2,000 ar gyfer adfer tŵr Eglwys y Santes Fair ar ôl trefnu a chynnal cyfres o ddigwyddiadau codi arian cymunedol.
Trefnodd Oliver Groves a Macauley Knight, a sefydlodd O&M Community Events, Ffair Pasg a gododd £875. O’i gyfuno â digwyddiad Nadolig y llynedd, mae’r cyfanswm bellach ychydig o dan £2,000.
Mae’r ddau, sy’n 15 oed, wedi arwain y gwaith o ddod â phobl leol ynghyd, gan gynllunio a chynnal y digwyddiadau eu hunain. Mae eu gwaith wedi denu stondinwyr, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr, gan helpu i feithrin cefnogaeth ehangach i’r prosiect.
Fe drefnon nhw Ffair Nadolig yn Neuadd Ni ym mis Rhagfyr. Roedd y digwyddiad yn cynnwys 15 o stondinwyr yn gwerthu crefftau, celf, mêl a chacennau, ynghyd â rafflau a thombola, gan godi £881.57.
Dywedodd Chris Roberts BEM, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth ym Mro Celynnin: “Rydym yn ddiolchgar am frwdfrydedd ac ymrwymiad y ddau berson ifanc hyn.”
Dywedodd Lynne Jones, sylfaenydd banc bwyd Bags of Love: “Fel eglwys, rydym yn falch o’r ddau berson ifanc hyn sydd wedi codi proffil y gronfa adfer i genhedlaeth newydd.”
Mae’r Tŵr Gorllewinol, sy’n fwy na 800 oed, mewn cyflwr gwael, gyda difrod dŵr, cerrig wedi treulio a llystyfiant yn tyfu y tu mewn iddo. Yn wreiddiol yn rhan o fynachlog Sistersaidd a sefydlwyd ym 1186, mae’n parhau i fod yn un o strwythurau hanesyddol hynaf Conwy.
Cofnododd Eglwys y Santes Fair fwy na 21,000 o ymwelwyr y llynedd, gan ei gwneud yn un o’r safleoedd yr ymwelir â hwy fwyaf yng Nghonwy.
Disgwylir i waith i wneud y tŵr yn ddiogel ac yn ddiddos ddechrau’n fuan, gyda chymorth grant o £60,000 gan y National Churches Trust.
Dywedodd Oliver: “Rydym wedi mwynhau trefnu’r digwyddiadau hyn ar gyfer apêl adfer y tŵr, a dyna pam y sefydlon ni O&M Events. Rydym nawr yn paratoi ar gyfer ffair haf.”
Ychwanegodd Macauley: “Hoffem wneud mwy o ddigwyddiadau cymunedol ac rydym ar hyn o bryd yn cynllunio gŵyl gynhaeaf a ffair Nadolig.”
Darllenwch y stori newyddion lawn ar wefan Esgobaeth Bangor:
Esgobaeth Bangor - Y Newyddion Diweddaraf