‘Bygythiad’ i ysgolion eglwys yn sir ein Nawddsant
Mae addysg eglwysig yn sir enedigol Nawddsant Cymru dan fygythiad gan gyfres o weithredoedd gan y cyngor lleol y mae'r Eglwys yng Nghymru yn rhybuddio y gallai cael ei ystyried yn wahaniaethu crefyddol.
Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi cyhoeddi hysbysiad ffurfiol y bydd yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn Cyngor Sir Penfro os yw'n bwrw ymlaen â chynlluniau i ddiddymu statws eglwysig Ysgol Gynradd Cilgerran.
Ar Fai 14eg pleidleisiodd y cyngor o blaid dileu statws Gwirfoddol Rheoledig yr ysgol wledig Gymraeg ffyniannus hon er gwaetha’r ffaith bod 97% o'r ymatebion i'r ymgynghoriad wedi gwrthwynebu'r newid cwbl ddiangen hwn.
Mae llythyr bellach wedi'i anfon at swyddogion y cyngor ar ran Esgobaeth Tyddewi a'r Eglwys yng Nghymru yn ei gwneud yn glir, os bydd y cyngor yn parhau â'r cwrs hwn, y bydd yr Eglwys yn cymryd camau cyfreithiol ar sail:
- Camliwio cyhoeddus a honiadau cyfreithiol anghyflawn a wnaed gan swyddogion Cyngor Sir Penfro.
- Gwahaniaethu yn erbyn addysg ffydd
Mae'r llythyr hefyd yn ei gwneud hi'n glir, yn groes i'r wybodaeth a roddwyd i gynghorwyr yn y cyfarfod, os bydd PCC yn dileu statws eglwysig o'r ysgol, ni fydd yr Eglwys yn gwneud y safle ar gael ar gyfer ysgol olynol. Mae hyn yn gwneud yr achos y mae'r dileu arfaethedig o statws eglwysig yn seiliedig arno yn anghynaladwy.
Mae'r neges yn dilyn penderfyniad Cyngor Sir Penfro ar Fehefin 15fed i gau Ysgol Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru Maenorbŷr, a gafodd ei difrodi gan dân yn 2022, ac sydd, er gwaethaf sicrwydd dro ar ôl tro gan Aelodau'r Cabinet ac uwch swyddogion y byddai'n cael ei hailadeiladu, wedi sefyll yn wag tra bod nifer y plant, a orfodwyd am flynyddoedd i ddysgu mewn lleoliad dros-dro, wedi lleihau.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Eglwys yng Nghymru: "Mae ymddygiad Cyngor Sir Penfro yn achos Ysgol Maenorbŷr wedi bod yn gwbl afresymol. Mae'r Cyngor wedi llywyddu dros litani o oedi, aneffeithiolrwydd, a thor-addewid sydd - yn llythrennol - wedi dinistrio ysgol ffyniannus oedd wedi gwasanaethu ei chymuned am fwy na 150 mlynedd.
"Ynghyd â'r ymosodiad difrifol a diangen ar statws eglwysig Ysgol Cilgerran, dyma batrwm o ymddygiad sy’n fwriadol dargedu’r addysg Gristnogol gynhwysol y mae ysgolion yr Eglwys yng Nghymru wedi'i darparu i'w cymunedau ers cenedlaethau.
"Yn y sir sy'n grud i Gristnogaeth yng Nghymru, ac sy'n ymfalchïo mewn bod yn fan geni a chysegrfa Nawddsant ein cenedl, mae’n eironi chwerw bod y cyngor yn ymddwyn mewn modd a allai fod yn wahaniaethol yn erbyn ysgolion yr Eglwys. Nid ydym yn barod i ganiatáu i hyn ddigwydd. Rydym yn ddiolchgar i’r cynghorwyr sydd wedi amddiffyn ein hysgolion, ac rydym yn apelio yn awr i drwch cynrychiolwyr etholedig y sir i atal y gweithredoedd dinistriol hyn."
Mae copi o'r llythyr cyfreithiol a anfonwyd at Gyngor Sir Penfro ynghlwm. Letter to Pembrokeshire County Council