Archesgob Cymru yn annog gweddi a chymorth ymarferol i Feneswela

Mae Archesgob Cymru yn annog pobl i gefnogi'r rhai sydd wedi'u heffeithio gan y daeargrynfeydd dinistriol yn Venezuela trwy gymorth ymarferol a gweddi.
Mae mwy na 1,700 o bobl wedi cael eu lladd, ac mae miloedd lawer wedi eu hanafu a'u dadleoli gan y daeargrynfeydd a darodd ar Fehefin 24ain.
Mae Cymorth Cristnogol. partner elusennol yr Eglwys yng Nghymru, eisoes yn helpu'r ymdrech i helpu’r dioddefwyr.
Dywedodd Mari Tutesigensi, Pennaeth Cymorth Cristnogol yng Nghymru:
"Mae angen mawr am bethau sylfaenol fel blancedi, tyweli, citiau hylendid, dŵr, bwyd, a chymorth seicolegol. Mae pobl yn delio â cholled fawr, wedi colli anwyliaid, cartrefi, pob dim o fewn eiliadau... Nid ydych yn bell oddi wrthym. Mae’r byd hwn yn perthyn i bob un ohonom. Dyma’r amser i roi ein dinasyddiaeth fyd-eang ar waith. Rwy’n annog pobl Cymru, fel yr wyf yn annog pobl ym mhobman, i weithredu fel dinasyddion y byd heddiw wrth i ni gofio ein brodyr a’n chwiorydd yn Venezuela."
“Mae ein partneriaid ffydd yn Venezuela eisoes yn yr ardaloedd a gafodd eu taro gwaethaf. Rydym yn rhyddhau cyllid brys fel eu bod yn gallu darparu dŵr glân, bwyd, pecynnau iechyd a lloches i deuluoedd sydd wedi colli popeth. Ac rydym yn apelio am gefnogaeth bellach i rymuso eu hymateb dros y dyddiau ac wythnosau nesaf a chefnogi teuluoedd sydd wedi colli popeth.”
Dywedodd Archesgob Cymru, y Parchedicaf Cherry Vann:
"Ni allai neb beidio â brawychu wrth weld y dioddefaint trasig a achoswyd gan y daeargrynfeydd dinistriol yn Venezuela.
“Mae ein calonnau yn brifo dros y dioddefwyr a'u teuluoedd, ac rydym yn cadw cenedl Venezuela yn ein gweddïau, gan ofyn i Dduw nerthu breichiau’r achubwyr a'r gweithwyr cymorth a chysuro a gwarchod y dioddefwyr. Fel rhan o'n cenhadaeth fel Cristnogion, rydym hefyd yn annog cefnogaeth ymarferol ac ariannol i'n hasiantaethau fel Cymorth Cristnogol sy'n gweithio i helpu pawb sydd wedi'u heffeithio gan y trychineb. Prin y gallai eu gwaith i ddod â gobaith i bobl yn yr amgylchiadau mwyaf torcalonnus fod yn fwy hanfodol."
Anogodd yr Archesgob Cherry eglwysi i gefnogi'r apêl ddydd Sul ac i wahodd pobl i weddïo'r weddi arbennig a ddarperir gan Christian Aid:
Dduw cariad.
Wrth i’r ddaear ysgwyd a chartrefi ddymchwel yn llwch, cydia yn ein calonnau, Arglwydd.
Wrth i ôl-gryniadau achosi i’r ofn barhau, cydia yn ein calonnau, Arglwydd.
Wrth i alar ysgwyd teuluoedd i’r byw, cydia yn ein calonnau, Arglwydd.
Anfon ein dwylo a'n traed i gynorthwyo mewn unrhyw ffordd wrth i’n brodyr a’n chwiorydd fyw drwy hyn yn Venezuela.
Boed inni Arglwydd ymateb mewn ffordd sy’n cydweddu â’th ras a’th gariad di. Amen.
Apêl Brys Venezuela:
Cyfrannwch nawr