Emynau, cerddoriaeth, darlleniadau a gweddïau
Darlleniadau
Pan welodd Iesu y tyrfaoedd, aeth i fyny’r mynydd, ac wedi iddo eistedd i lawr daeth ei ddisgyblion ato. Dechreuodd eu hannerch a’u dysgu fel hyn:
‘Gwyn eu byd y rhai sy’n dlodion yn yr ysbryd, oherwydd eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd.
‘Gwyn eu byd y rhai sy’n galaru, canys cânt hwy eu cysuro.
‘Gwyn eu byd y rhai addfwyn, oherwydd cânt hwy etifeddu y ddaear.
‘Gwyn eu byd y rhai sy’n newynu a sychedu am gyfiawnder, oherwydd cânt hwy eu digon.
‘Gwyn eu byd y rhai trugaredd oherwydd cânt hwy dderbyn trugaredd.
‘Gwyn eu byd y rhai pur eu calon, oherwydd cânt hwy weld Duw.
‘Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, oherwydd cânt hwy eu galw’n blant i Dduw.
Gwyn eu byd y rhai a erlidiwyd yn achos cyfiawnder, oherwydd eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd.
‘Gwyn eich byd pan fydd pobl yn eich gwaradwyddo a’ch erlid, ac yn dweud pob math o ddrygair celwyddog yn eich erbyn, o’m hachos i. Llawenhewch a gorfoleddwch, oherwydd y mae eich gwobr yn fawr yn y nefoedd; felly yr erlidiwyd y proffwydi oedd o’ch blaen chwi.
‘Yn wir, yn wir, rwy’n dweud wrthych fod y sawl sy’n gwrando ar fy ngair i, ac yn credu’r hwn a’m hanfonodd i, yn meddu ar fywyd tragwyddol. Nid yw’n dod dan gondemniad; i’r gwrthwyneb, y mae wedi croesi o farwolaeth i fywyd.
‘Yn wir, yn wir, rwy’n dweud wrthych fod amser yn dod, yn wir y mae yma eisoes, pan fydd y meirw yn clywed llais Mab Duw, a’r rhai sy’n clywed yn cael bywyd. Oherwydd fel y mae gan y Tad fywyd ynddo ef ei hun, felly hefyd y rhoddodd i’r Mab gael bywyd ynddo ef ei hun. Rhoddodd iddo hefyd awdurdod i weinyddu barn, am mai Mab y Dyn yw ef. Peidiwch â rhyfeddu at hyn, oherwydd y mae amser yn dod pan fydd pawb sydd yn eu beddau yn clywed ei lais ef ac yn dod allan; bydd y rhai a wnaeth ddaioni yn codi i fywyd, a’r rhai a wnaeth ddrygioni yn codi i gael eu barnu.
‘Bydd pob un y mae’r Tad yn ei roi i mi yn dod ataf fi, ac ni fwriaf i allan byth y sawl sy’n dod ataf fi. Oherwydd yr wyf wedi disgyn o’r nef nid i wneud fy ewyllys fy hun ond ewyllys yr hwn a’m hanfonodd i. Ac ewyllys yr hwn a’m hanfonodd i yw hyn: fod pob un sy’n gweld y Mab ac yn credu ynddo i gael bywyd tragwyddol. A byddaf fi’n ei atgyfodi yn y dydd olaf.’
Dywedodd Martha wrth Iesu, “Pe buasit ti yma, syr, ni buasai fy mrawd wedi marw. A hyd yn oed yn awr, mi wn y rhydd Duw i ti beth bynnag a ofynni ganddo.” Dywedodd Iesu wrthi, “Fe atgyfoda dy frawd.” “Mi wn,” meddai Martha wrtho, “y bydd yn atgyfodi yn yr atgyfodiad ar y dydd olaf.” Dywedodd Iesu wrthi, “Myfi yw’r atgyfodiad a’r bywyd. Pwy bynnag sy’n credu ynof fi, er iddo farw, fe fydd byw, a phob un sy’n byw ac yn credu ynof fi, ni bydd marw byth. A wyt ti’n credu Hyn?” “Ydwyf, Arglwydd,” atebodd hithau, “yr wyf yn credu mai tydi yw’r Meseia, Mab Duw, yr Un sy’n dod i’r byd.”
Cariad Duw yng Nghrist Iesu
O ystyried hyn oll, beth a ddywedwn? Os yw Duw trosom, pwy sydd yn ein herbyn? Nid arbedodd Duw ei Fab ei hun, ond ei draddodi i farwolaeth trosom ni oll. Ac os rhoddodd ei Fab, sut y gall beidio â rhoi pob peth i ni gydag ef? Pwy sydd i ddwyn cyhuddiad yn erbyn etholedigion Duw? Duw yw'r un sy'n dyfarnu'n gyfiawn. Pwy sydd yn ein collfarnu? Crist Iesu yw'r un a fu farw, yn hytrach a gyfodwyd, yr un hefyd sydd ar ddeheulaw Duw, yr un sydd yn ymbil trosom. Pwy a'n gwahana ni oddi wrth gariad Crist? Ai gorthrymder, neu ing, neu erlid, neu newyn, neu noethni, neu berygl, neu gleddyf? Hyn yn wir yw ein rhan, fel y mae'n ysgrifenedig:
“Er dy fwyn di fe'n rhoddir i farwolaeth drwy'r dydd,
fe'n cyfrifir fel defaid i'w lladd.”
Ond yn y pethau hyn i gyd y mae gennym fuddugoliaeth lwyr trwy'r hwn a'n carodd ni. Yr wyf yn gwbl sicr na all nac angau nac einioes, nac angylion na thywysogaethau, na'r presennol na'r dyfodol, na grymusterau nac uchelderau na dyfnderau, na dim arall a grëwyd, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
Ond y gwir yw fod Crist wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw, yn flaenffrwyth y rhai sydd wedi huno. Gan mai trwy ddyn y daeth marwolaeth, trwy ddyn hefyd y daeth atgyfodiad y meirw. Oherwydd fel y mae pawb yn marw yn Adda, felly hefyd y gwneir pawb yn fyw yng Nghrist. Ond pob un yn ei briod drefn: Crist y blaenffrwyth, ac yna, ar ei ddyfodiad ef, y rhai sy'n eiddo Crist. Yna daw'r diwedd, pan fydd Crist yn traddodi'r deyrnas i Dduw'r Tad, ar ôl iddo ddileu pob tywysogaeth, a phob awdurdod a gallu. Oherwydd y mae'n rhaid iddo ef ddal i deyrnasu nes iddo osod ei holl elynion dan ei draed. Y gelyn olaf a ddilëir yw angau.
Y Corff Atgyfodedig
Ond bydd rhywun yn dweud: “Pa fodd y mae'r meirw'n cael eu cyfodi? Â pha fath gorff y byddant yn dod?” Y ffŵl! Beth am yr had yr wyt ti yn ei hau? Ni roddir bywyd iddo heb iddo farw yn gyntaf. A'r hyn yr wyt yn ei hau, nid y corff a fydd ydyw, ond gronyn noeth, o wenith efallai, neu o ryw rawn arall. Ond Duw, yn ôl ei ewyllys ei hun, sydd yn rhoi corff iddo, i bob un o'r hadau ei gorff ei hun. Oherwydd nid yr un cnawd yw pob cnawd, ond un peth yw cnawd dynion, peth arall yw cnawd anifeiliaid, peth arall yw cnawd adar, a pheth arall yw cnawd pysgod. Y mae hefyd gyrff nefol a chyrff daearol, ond un peth yw gogoniant y rhai nefol, a pheth gwahanol yw gogoniant y rhai daearol. Un peth yw gogoniant yr haul, a pheth arall yw gogoniant y lloer, a pheth arall yw gogoniant y sêr. Yn wir, y mae rhagor rhwng seren a seren mewn gogoniant.
Felly hefyd y bydd gyda golwg ar atgyfodiad y meirw. Heuir mewn llygredigaeth, cyfodir mewn anllygredigaeth. Heuir mewn gwaradwydd, cyfodir mewn gogoniant. Heuir mewn gwendid, cyfodir mewn nerth. Yn gorff anianol yr heuir ef, yn gorff ysbrydol y cyfodir ef. Os oes corff anianol, y mae hefyd gorff ysbrydol. Felly, yn wir, y mae'n ysgrifenedig: “Daeth y dyn cyntaf, Adda, yn fod byw.” Ond daeth yr Adda diwethaf yn ysbryd sydd yn rhoi bywyd. Eithr nid yr ysbrydol sy'n dod gyntaf, ond yr anianol, ac yna'r ysbrydol. Y dyn cyntaf, o'r ddaear y mae, a llwch ydyw; ond yr ail ddyn, o'r nef y mae. Y mae'r rhai sydd o'r llwch yn debyg i'r dyn o'r llwch, ac y mae'r rhai sydd o'r nef yn debyg i'r dyn o'r nef. Ac fel y bu delw'r dyn o'r llwch arnom, felly hefyd y bydd delw'r dyn o'r nef arnom.
Hyn yr wyf yn ei olygu, gyfeillion: ni all cig a gwaed etifeddu teyrnas Dduw, ac ni all llygredigaeth etifeddu anllygredigaeth. Clywch! Yr wyf yn mynegi dirgelwch ichwi: nid ydym i gyd i huno, ond yr ydym i gyd i gael ein newid, mewn eiliad, ar drawiad amrant, ar ganiad yr utgorn diwethaf. Oherwydd bydd yr utgorn yn seinio, y meirw'n cael eu cyfodi yn anllygredig, a ninnau'n cael ein newid. Oherwydd rhaid i'r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth, ac i'r marwol hwn wisgo anfarwoldeb. A phan fydd y llygradwy hwn wedi gwisgo anllygredigaeth, a'r marwol hwn wedi gwisgo anfarwoldeb, yna bydd y geiriau hyn sydd yn ysgrifenedig yn dod yn wir:
“Llyncwyd angau mewn buddugoliaeth.
O angau, ble mae dy fuddugoliaeth?
O angau, ble mae dy golyn?”
Colyn angau yw pechod, a grym pechod yw'r Gyfraith. Ond i Dduw y bo'r diolch, yr hwn sy'n rhoi'r fuddugoliaeth i ni trwy ein Harglwydd Iesu Grist. Felly, fy nghyfeillion annwyl, byddwch yn gadarn a diysgog, yn helaeth bob amser yng ngwaith yr Arglwydd, gan eich bod yn gwybod nad yw eich llafur yn yr Arglwydd yn ofer.
Y Dyrfa o Bob Cenedl
Ar ôl hyn edrychais, ac wele dyrfa fawr na allai neb ei rhifo, o bob cenedl a'r holl lwythau a phobloedd ac ieithoedd, yn sefyll o flaen yr orsedd ac o flaen yr Oen, wedi eu gwisgo â mentyll gwyn, a phalmwydd yn eu dwylo. 10Yr oeddent yn gweiddi â llais uchel:
“I'n Duw ni, sy'n eistedd ar yr orsedd, ac i'r Oen y perthyn y waredigaeth!”
Yr oedd yr holl angylion yn sefyll o amgylch yr orsedd a'r henuriaid a'r pedwar creadur byw, a syrthiasant ar eu hwynebau gerbron yr orsedd ac addoli Duw gan ddweud:
“Amen. I'n Duw ni y bo'r mawl
a'r gogoniant a'r doethineb a'r diolch
a'r anrhydedd a'r gallu a'r nerth
byth bythoedd! Amen.”
Gofynnodd un o'r henuriaid imi, “Y rhai hyn sydd wedi eu gwisgo â mentyll gwyn, pwy ydynt ac o ble y daethant?” Dywedais wrtho, “Ti sy'n gwybod, f'arglwydd.” Meddai yntau wrthyf, “Dyma'r rhai sy'n dod allan o'r gorthrymder mawr; y maent wedi golchi eu mentyll a'u cannu yng ngwaed yr Oen.
“Am hynny, y maent o flaen gorsedd Duw,
ac yn ei wasanaethu ddydd a nos yn ei deml,
a bydd yr hwn sy'n eistedd ar yr orsedd yn lloches iddynt.
Ni newynant mwy ac ni sychedant mwy,
ni ddaw ar eu gwarthaf na'r haul
na dim gwres,
oherwydd bydd yr Oen sydd yng nghanol yr orsedd yn eu bugeilio hwy,
ac yn eu harwain i ffynhonnau dyfroedd bywyd,
a bydd Duw yn sychu pob deigryn o'u llygaid hwy.”
Newyddion Da Rhyddid i’r Caethion
Y mae ysbryd yr Arglwydd DDUW arnaf,
oherwydd i'r ARGLWYDD fy eneinio
i gyhoeddi newyddion da i'r tlodion,
a chysuro'r toredig o galon;
i gyhoeddi rhyddid i'r caethion,
a rhoi gollyngdod i'r carcharorion;
i gyhoeddi blwyddyn ffafr yr ARGLWYDD
a dydd dial ein Duw ni;
i ddiddanu pawb sy'n galaru,
a gofalu am alarwyr Seion;
a rhoi iddynt goron yn lle lludw,
olew llawenydd yn lle galar,
mantell moliant yn lle digalondid.
Gelwir hwy yn brennau cyfiawnder
wedi eu plannu gan yr ARGLWYDD i'w ogoniant.
Tynged y Cyfiawn
Ond y mae eneidiau'r cyfiawn yn llaw Duw,
ac ni ddaw poenedigaeth byth i'w rhan.
Yn llygaid y rhai ynfyd, y maent fel pe baent wedi marw;
ystyriwyd eu hymadawiad yn drychineb,
a'u mynediad oddi wrthym yn ddistryw;
ond y maent mewn hedd.
Oherwydd er i gosb ddod arnynt yng ngolwg pobl,
digoll yw eu gobaith am anfarwoldeb;
ac er eu disgyblu ychydig, mawr fydd eu hennill,
am fod Duw wedi eu profi
a'u cael yn deilwng ohono ef ei hun.
Fel aur mewn tawddlestr y profodd hwy,
ac fel poethoffrwm yr aberth y derbyniodd hwy.
Pan ddaw Duw i ymweld â hwy cyneuant yn wenfflam;
fel gwreichion mewn sofl fe redant drwy'r byd.
Cânt lywodraethu ar genhedloedd a rheoli ar bobloedd,
a'r Arglwydd fydd eu brenin am byth.
Bydd y rhai sy'n ymddiried ynddo ef yn deall y gwir,
a'r ffyddloniaid yn gweini arno mewn cariad,
oherwydd gras a thrugaredd yw rhan ei etholedigion.
Emynau
Mae llawer o emynau addas. Dyma ddetholiad bach.
- Ar fôr tymhestlog teithio’r wyf
- Arglwydd, gad im dawel orffwys
- Cyduned seintiau daear lawr
- Dal fi’n agos at yr Iesu
- Mae ’nghyfeillion adre’n myned
- Mae ffrydiau ’ngorfoledd yn tarddu
- Mae’n hyfryd meddwl ambell dro
- Mi glywaf dyner lais
- Nac wyled teulu Duw
- Trwy ddirgel ffyrdd mae’r uchel Iôr