Hafan Digwyddiadau bywyd Angladdau Canllaw i gynllunio gwasanaeth angladd

Canllaw i gynllunio gwasanaeth angladd

Mewn angladd Cristnogol rydyn ni’n canolbwyntio ar nifer o bethau sydd wedi’u cysylltu’n agos:

  • rydyn ni’n cofio gyda diolchgarwch farwolaeth ac atgyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, gan gyflwyno’r ymadawedig i ras tragwyddol Duw.
    • Mae pobl yn aml yn ystyried mai’r gladdedigaeth wrth lan y bedd neu’r cysegru yn yr amlosgfa yw diwedd angladd. Mae Cristnogion yn credu’n wahanol. I Gristnogion, bydd yr angladd yn cloi mewn gwirionedd pan fydd teulu, ffrindiau ac Eglwys yr ymadawedig yn ei gyflwyno mewn ffydd i ofal tragwyddol Duw.
  • rydyn ni’n dathlu popeth oedd yn dda yn eu bywyd ar y ddaear,
  • rydyn ni’n mynegi’n synnwyr naturiol o alar a cholled,
  • cawn ein hatgoffa o’n meidroldeb ein hunain.

Mae angladdau Cristnogol yn ceisio cydbwyso’r amcanion amrywiol hyn a’u cynnwys nhw mewn addoliad sy’n adlewyrchu ein ffydd, ein profiad a’n teimladau. Rydyn ni’n mynegi’n ffydd yn y Crist atgyfodedig, yn cofio’r ymadawedig, yn darllen o’r Beibl ac yn adrodd gweddïau priodol. Gellir cynnwys emynau priodol neu gerddoriaeth arall, er nad oes rhaid eu cynnwys.

Mae’r camau defodol yn cynnwys hebrwng yr arch i’r eglwys neu le arall a ddewiswyd ar gyfer yr angladd, y dewis o osod symbolau priodol (mae’r gannwyll Basg, arwydd yr Eglwys o olau’r Crist atgyfodedig, o arwyddocâd arbennig) ger yr arch neu hyd yn oed ar yr arch, a chladdu gweddillion yr ymadawedig. Mae mwy o wybodaeth isod i ddarganfod mwy am gladdu gweddillion a amlosgwyd.

Gellir gwneud darpariaethau arbennig hefyd i gynorthwyo’r rhai sydd mewn galar i fyfyrio ac i ymroi i ddefosiwn: gartref cyn yr angladd, yn yr eglwys ar y noson cyn yr angladd, gartref ar ôl yr angladd. Pan fydd plentyn neu unigolyn ifanc yn marw, mae naws wahanol i’r angladd a bydd y darlleniadau a’r emynau’n adlewyrchu hyn.

Gan fod pob angladd yn wahanol, mae’r Eglwys yng Nghymru’n cynnwys amrywiaeth eang iawn o wasanaethau. Gwahoddir y teulu i ddewis yr un sy’n fwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion nhw.

Er enghraifft:

  • gwasanaeth yn yr eglwys a chladdu wrth y bedd neu draddodi yn yr amlosgfa,
  • hebrwng yr arch i’r eglwys y noson cyn yr angladd cyn claddu wrth y bedd neu draddodi yn yr amlosgfa,
  • gweddïau yn y cartref ac yna gwasanaeth yn yr eglwys a chladdu wrth y bedd neu draddodi yn yr amlosgfa,
  • cynnal yr holl wasanaeth a’r gladdedigaeth/traddodi mewn amlosgfa neu wrth lan y bedd,
  • claddu neu amlosgi preifat ac yna gwasanaeth coffa,
  • claddu gweddillion a amlosgwyd mewn mynwent ar ôl eu hamlosgi,
  • gweddïau yn y cartref ar ôl yr angladd, neu ar ddyddiad i nodi’r farwolaeth,
  • gweinyddiad arbennig o’r Cymun Bendigaid (Offeren y Meirw) cyn, yn ystod neu rywdro ar ôl yr angladd.