Hafan Digwyddiadau bywyd Angladdau Faint mae angladd yr Eglwys yng Nghymru yn ei gostio?

Faint mae angladd yr Eglwys yng Nghymru yn ei gostio?

Tabl Ffioedd
(o 1 Ionawr 2024)

Ffi
Ffi’r Weinidogaeth (yn daladwy i’r gweinidog sy’n gweinyddu) £104
Claddu/Traddodi* (yn daladwy i’r gweinidog sy’n gweinyddu) £26
Ffi’r Eglwys (yn daladwy i’r Cyngor Plwyf) £130
Ffi am Gladdu mewn Claddfa sy’n perthyn i’r Eglwys yng Nghymru (yn daladwy i’r Cyngor Plwyf ar gyfer Cronfa Cynnal a Chadw’r Fynwent)
- Corff £581
- Gweddillion amlosgi £194
Ffi’r Gofeb (yn daladwy i’r Cyngor Plwyf ar gyfer Cronfa Cynnal a Chadw’r Fynwent)
- Croes bren blaen £29
- Carreg goffa £220
- Llechen gweddillion amlosgi £117
- Arysgrif Ychwanegol £52
Archwilio Cofrestri Claddu (yn daladwy i’r Cyngor Plwyf) £26 yr awr (neu fesul rhan)

* Os yw’r claddu/traddodi yn dilyn gwasanaeth angladdol ar wahân yn rhywle arall, lle’r oedd gweinidog arall yn gweinyddu.

Nodiadau

Ni fydd tâl am gladdu baban marw-anedig neu blentyn dan 18 oed nac, yn gysylltiedig â hynny, am wasanaeth y Periglor neu Weinidog arall sy’n gwasanaethu mewn claddedigaeth, nac am gofrestru’r gladdedigaeth.

Mae Ffi’r Weinidogaeth yn talu am bresenoldeb y gweinidog sy’n gweinyddu mewn i) gwasanaeth angladdol, neu ii) mewn gwasanaeth angladdol gyda chladdu i ddilyn, neu iii) mewn gwasanaeth angladdol gydag amlosgi i ddilyn a chladdu’r gweddillion maes o law. Mae hyn yn berthnasol os cynhelir y gwasanaeth yn un o eglwysi’r Eglwys yng Nghymru neu mewn man arall. Mae Ffi’r Weinidogaeth hefyd yn cynnwys llofnodi’r Ffurflen Werdd gan y gweinidog sy’n gweinyddu. Gall y gweinidog sy’n gweinyddu godi ffioedd ychwanegol am gostau teithio y tu hwnt i ffiniau’r plwyf neu ardal y weinidogaeth.

Mae Ffi’r Eglwys yn talu am ddefnyddio’r eglwys ar gyfer gwasanaeth angladdol neu wasanaeth coffa. Gellir codi tâl ychwanegol am organydd, côr, torrwr beddi a chost resymol am wresogi ychwanegol.

Mae Ffi’r Gladdedigaeth yn talu am gladdu corff neu weddillion amlosgi yn y bedd dynodedig neu’r llain ar gyfer gweddillion amlosgi. Codir tâl ychwanegol, sy’n cael ei bennu’n lleol, am dorri bedd. Mae’r ffi yn berthnasol hefyd am gladdedigaeth neu gladdu mewn llain neu fedd sy’n bodoli’n barod.

Mae’r Ffi Coffa am yr hawl i godi cofeb ar fedd yn unol â’r Rheoliadau Mynwentydd. Ni fydd gostyngiad am adnewyddu cofeb yn llwyr a chodir tâl pro-rata am ei hadnewyddu’n rhannol. Mae cynnal a chadw’r gofeb yn parhau’n gyfrifoldeb ar y teulu a’i cododd.