English
Annog rhodd barhaol

Yn ystod 2010, cafodd gwerth bron i £2.5miliwn o gymynroddion eu derbyn ar draws yr Eglwys yng Nghymru. Mae bod â pholisi clir yn ei le yn rhoi arwydd clir i roddwyr bod croeso i roddion o’r fath, bydd yn codi cyfleoedd i drafod ac yn rhoi sicrwydd iddynt y bydd eu rhodd yn cael ei defnyddio’n ddoeth.

Mae gwneud Ewyllys yn sicrhau bod yr hyn rydych yn ei adael yn mynd i’r bobl y dymunwch iddo fynd iddynt, ac yn sicrhau bod eich rhodd yn eu cyrraedd yn gynt – ac eto mae llawer o aelodau eglwysig heb wneud Ewyllys hyd yn hyn.

Yn ystod y flwyddyn bydd eich eglwys yn:

  • Annog pob aelod i wneud neu i adolygu eu Hewyllys.
  • Yn gofyn i’r Cynghorau Plwyf Eglwysig gytuno ar bolisi ynglŷn â chymynroddion.
  • Defnyddio’r adnoddau sydd ar gael gyda’r gynulleidfa.
Adnoddau sydd ar gael
  • Sesiwn addysgu am faterion diwinyddol ac eglwysig sy’n cwmpasu cymynroddion
  • Awgrymiadau ar sut i fynd ati i gyflwyno rhaglen yn trafod ymwybyddiaeth o gymynroddion – a sut i beidio â mynd ati!
  • Arweiniad cam wrth-= gam ar sut i ddefnyddio’r deunyddiau:
  • Taflen Cynghorau Plwyf Eglwysig
  • Taflen i iGynulleidfaoedd
  • Adnoddau pregethu a gweddïo
  • Pytiau ar gyfer cylchgrawn y plwyf
  • Nodau tudalen
  • Posteri

Adnoddau pellach sydd ar gael: Adnoddau Cymynroddion y Plwyf, Cymynrodd Eglwysig