English

Darlleniadau

1 Corinthiaid 13. 1-7

Os llefaraf â thafodau meidrolion ac angylion, a heb fod gennyf gariad, efydd swnllyd ydwyf, neu symbal aflafar. Ac os oes gennyf ddawn proffwydo, ac os wyf yn gwybod y dirgelion i gyd, a phob gwybodaeth, ac os oes gennyf gymaint o ffydd nes gallu symud mynyddoedd, a heb fod gennyf gariad, nid wyf ddim. Ac os rhof fy holl feddiannau i borthi eraill, ac os rhof fy nghorff yn aberth, a hynny er mwyn ymffrostio, a heb fod gennyf gariad, ni wna hyn ddim lles imi.

Y mae cariad yn amyneddgar; y mae cariad yn gymwynasgar; nid yw cariad yn cenfigennu, nid yw'n ymffrostio, nid yw'n ymchwyddo. Nid yw'n gwneud dim sy'n anweddus, nid yw'n ceisio ei ddibenion ei hun, nid yw'n gwylltio, nid yw'n cadw cyfrif o gam; nid yw'n cael llawenydd mewn anghyfiawnder, ond y mae'n cydlawenhau â'r gwirionedd.

Colosiaid 3. 12-17

Am hynny, fel etholedigion Duw, sanctaidd ac annwyl, gwisgwch amdanoch dynerwch calon, caredigrwydd, gostyngeiddrwydd, addfwynder ac amynedd. Goddefwch eich gilydd, a maddeuwch i'ch gilydd os bydd gan rywun gŵyn yn erbyn rhywun arall; fel y maddeuodd yr Arglwydd i chwi, felly gwnewch chwithau. Tros y rhain i gyd gwisgwch gariad, sy'n rhwymyn perffeithrwydd. Bydded i air Crist breswylio ynoch yn ei gyfoeth. Dysgwch a rhybuddiwch eich gilydd gyda phob doethineb. Â chalonnau diolchgar canwch i Dduw salmau ac emynau a chaniadau ysbrydol. Beth bynnag yr ydych yn ei wneud, ar air neu ar weithred, gwnewch bopeth yn enw yr Arglwydd Iesu, gan roi diolch i Dduw, y Tad, drwyddo ef.

Mathew 19.4-6

Atebodd yntau gan ofyn, “Onid ydych wedi darllen mai yn wryw a benyw y gwnaeth y Creawdwr hwy o'r dechreuad?” A dywedodd, “Dyna pam y bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam ac yn glynu wrth ei wraig, a bydd y ddau yn un cnawd. Gan hynny nid dau mohonynt mwyach, ond un cnawd. Felly, yr hyn a gysylltodd Duw, ni ddylai neb ei wahanu.”

Ioan 15. 9-12

Fel y mae'r Tad wedi fy ngharu i, yr wyf finnau wedi eich caru chwi. Arhoswch yn fy nghariad i. Os cadwch fy ngorchmynion fe arhoswch yn fy nghariad, yn union fel yr wyf fi wedi cadw gorchmynion fy Nhad, ac yr wyf yn aros yn ei gariad ef. Yr wyf wedi dweud hyn wrthych er mwyn i'm llawenydd i fod ynoch, ac i'ch llawenydd chwi fod yn gyflawn.

Dyma fy ngorchymyn i: carwch eich gilydd fel y cerais i chwi.

Cerddoriaeth

Mae’r emynau a’r gerddoriaeth ganlynol ymhlith y rhai a ddewisir amlaf, er mae croeso i chi ddewis cerddoriaeth ac emynau eraill os ydych chi’n dymuno. Cofiwch, os byddwch chi’n cynnwys geiriau neu gerddoriaeth mewn trefn gwasanaeth sy’n cael ei argraffu, mae’n rhaid i chi gydymffurfio â’r hawlfraint. Cewch gyngor gan eich gweinidog.

Cerddoriaeth Orymdeithiol pan fydd y Briodferch yn cyrraedd ac ar gyfer diwedd y gwasanaeth
  • The Bridal March (Wagner)
  • The Wedding March (Mendelssohn)
  • Canon (Pachelbel)
  • Jesu, Joy of Man’s Desiring (Bach)
  • Arrival of the Queen of Sheba (Handel)
  • Toccata (Widor)
  • Trumpet Tune (Purcell)
  • Trumpet Voluntary (Clarke)
  • Air from the Water Music (Handel)
  • Hornpipe from the Water Music (Handel)

Emynau

  • Arglwydd pob gobaith ac Arglwydd pob hoen
  • Clyma ni’n un, O Dduw
  • Deisyfwn am dy fendith fawr
  • Dyro gân dan fy mron, gad im foli
  • Dduw Dad, bendithia’r mab a’r ferch
  • F’enaid, mola Dduw’r gogoniant
  • Iôr, gwna fi’n offeryn dy hedd
  • O Arglwydd Dduw pob hyfryd ddawn
  • O Arglwydd nef a daear
  • Ti yr hwn sy’n fôr o gariad
  • Tra bo adduned dau
  • Tyrd, Ysbryd cariad mawr