Mae yna adegau penodol ym mywydau pob un ohonom a fydd ag arwyddocâd arbennig i ni: dathlu priodas; bedyddio plentyn; neu angladd i ddynodi a diolch am fywyd un o’n hanwyliaid.
Byddai’r Eglwys yng Nghymru’n hoffi eich helpu a’ch cefnogi drwy’r adegau allweddol hyn, neu ‘Ddigwyddiadau Bywyd’ fel rydym ni’n eu galw nhw. Mae gennym brofiad helaeth o dywys a chefnogi pobl drwy rai o’r adegau hapusaf, ac weithiau anoddaf, yn eu bywydau.
Waeth a ydych chi’n dathlu rhywbeth hyfryd, neu’n cael trafferth i ymdopi â cholled neu siom, byddai’r Eglwys yng Nghymru’n hoffi eich helpu. Rydym yma i chi bob cam o’ch taith mewn bywyd.
Mae’r tudalennau canlynol yn darparu llawer o wybodaeth fuddiol am briodasau, bedyddiadau ac angladdau, ond mae croeso i chi gysylltu ag un o’n heglwysi hefyd a fydd yn gallu siarad â chi am ffyrdd y gallwn ni eich helpu yn y cyfnod hwn.

Rydyn ni'n credu mai rhodd gan Dduw yw priodas, a bod priodi yn ymrwymiad hardd, personol ac ysbrydol. …

Mae’r Eglwys yng Nghymru’n credu bod plant yn rhodd werthfawr gan Dduw. Mae eich plentyn yn arbennig, a …

Mae’r Eglwys yng Nghymru yma i’ch helpu a’ch cefnogi chi, nid yn unig wrth gynllunio gwasanaeth yr angladd …
I gael manylion eich eglwys leol a gwybod sut i gysylltu â’ch ficer lleol:


