English
Cyfarwyddiadau ar gyfer Gwasanaeth y Cymun Bendigaid pan nad yw yn rhan o’r Ewcharist - Mawrth 2018

Bwriedir mai mewn amgylchiadau eithriadol yn unig, a hynny dan gyfarwyddyd yr Esgob, y gellir defnyddio’r ‘Drefn ar gyfer Cymun Bendigaid heb fod yn rhan o’r Ewcharist.’

Gellir cael gwybodaeth am y protocol lleol gan Swyddfa’r Esgob.

Diben y ‘Drefn’ yw rhoi cyfle i bobl gyfranogi o’r Cymun Bendigaid pan nad oes offeiriad yn bresennol i lywyddu yn yr Ewcharist.

Ym mhob gwasanaeth o’r fath dylid arfer y ‘Drefn’ benodol a awdurdodwyd, sef ‘Trefn ar gyfer Cymun Bendigaid heb fod yn rhan o’r Ewcharist.’ (Gweler isod)

Rhaid i’r gweinidog fod yn ddiacon neu’n berson lleyg a awdurdodwyd gan yr esgob at y pwrpas.

Dylai Diaconiaid a Darllenwyr Lleyg ymwisgo yn null gweinidogion yr Eglwys yng Nghymru ond yn unol, hefyd, â thraddodiad yr eglwys leol. Gall gweinidogion lleyg eraill wisgo alb, neu gasog a gwenwisg, neu ddillad cyffredin addas.

Gall pobl leyg gymryd rhan drwy ddarllen llithiau ac arwain ymbiliau.

Gall Diacon neu Ddarllenydd Lleyg bregethu; neu unrhyw berson lleyg a chanddo awdurdod yr Esgob i bregethu.

Pryd bynnag fo’n bosibl dylid cludo’r bara a’r gwin cysegredig, mewn llestri a wnaed at y pwrpas, yn ddi-oed o weinyddiad yr Ewcharist i’r eglwys lle y maent i’w gweinyddu. Neu, gellir defnyddio bara a gwin cysegredig o’r Sagrafen Gadw.

Ni ddylid ar un cyfrif ddefnyddio bara a gwin heb eu cysegru. Ni ddylid dweud unrhyw ran o’r Weddi Ewcharistaidd o’r ‘Drefn ar Gyfer y Cymun Bendigaid.’

Rhoddir y bara a’r gwin cysegredig ar yr allor/ fwrdd y cymun cyn dechrau’r gwasanaeth mewn llestri addas sydd wedi eu neilltuo at y pwrpas hwnnw.

Dylai’r gweinidog arwain y gwasanaeth o’r ddesg neu’r ddarllenfa, ac ni ddylai symud at yr allor ond yn union cyn gweinyddu’r sacrament, gan symud yn ôl yn union wedyn.

Bydd y gweinidog yn bwyta ac yn yfed, yn ddefosiynol, unrhyw weddillion o’r elfennau cysegredig nad oes angen eu cadw ar gyfer Cymundeb.

Trosglwyddo:


cyf: 1895