English

Newydd: Llithiadur Digidol

Llithiadur Blwyddyn A - 2025 - 2026

Mae Llithiadur newydd yr Eglwys yng Nghymru ar gael i'w archebu ar-lein gan ein cyhoeddwr, Y Lolfa:

Archebwch lyfrau a thystysgrifau ar-lein

Cliciwch yma am PDF o'r Llithiadur

Fersiwn ar-lein

Llithiadur Blwyddyn A:
2025-2026

Gofal ein Gwinllan crynodebau printiedig - Cyfrol 3

Y llyfr hwn yw ail gyfrol casgliad o ysgrifau o ysgrifau yw’r gyfrol hon sy’n cloriannu cyfraniad yr Eglwys yng Nghymru i lên, hanes a diwylliant Cymru.

Mae’r awduron yn ysgolheigion clodfawr yn eu meysydd penodol a seilir eu traethodau ar sgyrsiau a draddodwyd mewn cyfres boblogaidd o seminarau ar-lein a drefnwyd gan Athrofa Padarn Sant. Er mai canolbwynt y traethodau yw ffigyrau o’r Eglwys yng Nghymru, mae ystod yr astudiaeth yn eang a bydd y gyfrol o ddiddordeb i bawb sy’n trysori treftadaeth ddiwylliannol a ieithyddol y genedl.

Cliciwch ar y llun o'r llyfr:

£12.00 yn cynnwys postio a phacio (Cyhoeddwyd yn Gymraeg).

Mae’r llyfr hwn ar gael gan y cyhoeddwr: Y Lolfa.

Dilynwch eu cyfarwyddiadau archebu ar-lein. Bydd angen i chi dalu am y llyfr ar-lein a dylech ei dderbyn o fewn 5 diwrnod gwaith.

NEWYDD: Amserau a Thymhorau

Mae’r testun cyflawn (rhannau 1, 2, 3 a 4) bellach ar gael fel llyfr digidol dwyieithog i chi ei lawrlwytho a’i ddefnyddio.

Ffeil PDF yw’r llyfr sydd â dolenni o dudalen y cynnwys i’r gwahanol benodau ac yna i’r penawdau o fewn y bennod honno.

Mae gan y rhannau isod ddolenni i'r llyfr newydd neu cliciwch ar glawr y llyfr i fynd yn syth i'r llyfr digidol newydd.

Am y defnydd mwyaf effeithiol, lawrlwythwch y llyfr a'i gadw ar eich cyfrifiadur.

Beunydd gyda Duw

Mae ‘Beunydd gyda Duw’ yn rhoi ichi’r cyfle i ffurfio patrwm o weddïo sy’n addas i chi. Ynddo ceir rhai o weddïau mwyaf a ffefrynnau Cristnogion drwy’r oesoedd. Cewch graidd o weddïau i’w harfer yn ddyddiol wrth ddod gerbron gorsedd gras Duw, ynghyd â gweddïau ar gyfer achlysur neu gyfle arbennig.

Tudalennau enghreifftiol

Cliciwch ar y llun o'r llyfr:

£12.99 yn cynnwys postio a phacio (Ddwyieithog).

Calendr Newydd Diwygiedig a'r Colectau Cyfoes

Mae'r Calendr Newydd Diwygiedig a'r Colectau Cyfoes yn fersiwn wedi'i diweddaru o lyfr 2003, Y Calendr Newydd a'r Colectau.

Yr un yw'r litwrgi o fewn y llyfr ac eithrio ychydig fân wallau o fewn y testun, testunau ychwanegol sydd wedi'u hychwanegu ers cyhoeddi'r llyfr gwreiddiol a newidiadau a wnaed i ddyddiadau dathlu. Newid arall yw ei fod yn dangos y Colect Cyfoes yn unig. Mae Buchedd rhai o'r Seintiau wedi'i diweddaru i helpu i roi gwell dealltwriaeth o'r Sant.

Mae tystysgrifau’r Eglwys yng Nghymru bellach ar gael i'w prynu ar-lein

Cysylltwch

Ritchie Craven
Rheolwr Cyhoeddiadau