English

Pwy yn yr Eglwys yng Nghymru fydd yn gweld fy ngwybodaeth bersonol?

Datganiad preifatrwydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Mae Corff y Cynrychiolwyr a sefydliadau eraill yr Eglwys yng Nghymru wedi ymrwymo'n llwyr i gydymffurfio â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data . Bydd yr egwyddorion canlynol yn berthnasol pan fyddwn yn ymdrin â’ch gwybodaeth bersonol:

  • dim ond gwybodaeth sy'n ofynnol mewn gwirionedd sy'n cael ei chasglu a'i phrosesu.
  • dim ond y rhai sydd ei hangen i wneud eu gwaith fydd yn gweld eich gwybodaeth bersonol.
  • bydd gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw cyhyd ag sy'n ofynnol yn unig.
  • gwneir penderfyniadau sy'n effeithio arnoch ar sail gwybodaeth ddibynadwy a chyfredol.
  • mae eich gwybodaeth yn cael ei diogelu rhag datgeliad anawdurdodedig neu ddamweiniol.
  • byddwch yn cael copi o'r wybodaeth a gedwir amdanoch, ar gais.
  • bydd unrhyw wybodaeth y canfyddir ei bod yn anghywir yn cael ei hymchwilio a'i chywiro/diwygio lle bo hynny'n berthnasol.
  • ni chaiff eich gwybodaeth bersonol mewn perthynas â’r gwasanaeth datgelu ei phrosesu yn ddiarwybod i chi.

Mae'r egwyddorion hyn yn berthnasol p'un a yw'r wybodaeth yn cael ei chadw mewn fformatau papur neu electronig. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwynion am y ffordd yr ymdriniwyd â'ch gwybodaeth bersonol, cysylltwch ag Adran Gyfreithiol Corff y Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru ar legal@churchinwales.org.uk

Gallwch ddarllen sut y bydd y DBS yn prosesu eich data personol a'r opsiynau sydd ar gael i chi wrth gyflwyno cais yn www.gov.uk/government/publications/dbs-privacy-policy