English

Swydd: Periglor

Diben: Cefnogi’r Esgob fel y Pen Bugail, Bugail a Gweinidog yr Esgobaeth, fel arwydd gweladwy o undod yr Eglwys a’i pharhad yn ei bywyd, ei chenhadaeth a’i gweinidogaeth apostolaidd.

Cyfrifoldeb: Yn gyfrifol am y canlynol ar y cyd a gyda chydweithrediad llawn yr eglwys leol yn yr Esgobaeth a’r Plwyf:

  • Pobl
  • Cenhadaeth
  • Dysgeidiaeth
  • Pregethu
  • Cyllid
  • Adeiladau ac eiddo

Prif dasgau a dyletswyddau (ar y cyd a gyda chydweithrediad eraill)

Pregethu a Dysgeidiaeth
  1. Pregethu’r Gair
  2. Gweinyddu’r Sacramentau
  3. Arwain pobl i foli a diolch i Dduw drwy drefnu addoliad parchus, rheolaidd, gofalus ac ysbrydoledig
  4. Arwain pobl ym meysydd cenhadaeth ac efengylu
  5. Dysgu’r Ffydd
  6. Cyflwyno aelodau newydd i’r Eglwys drwy Fedydd gan gynnwys paratoi ymgeiswyr, rhieni a rhieni bedydd yn briodol
  7. Paratoi a chyflwyno ymgeiswyr ar gyfer conffyrmasiwn
  8. Paratoi pobl ar gyfer glân briodas a gweinyddu yn y gwasanaeth.
Gofal bugeiliol
  1. Gweinidogaethu i’r sawl sy’n sâl ac yn marw
  2. Gweinyddu mewn angladdau
  3. Gweinidogaethu i’r sawl sydd mewn profedigaeth
  4. Cynnig gweinidogaeth fugeiliol i bawb sy’n byw yn y Plwyf
  5. Rhannu gwasanaeth Cristnogol ag eraill
  6. Gweinidogaethu i bawb sydd angen cymorth a chyngor ysbrydol
  7. Cyhoeddi cyfiawnder, trugaredd a maddeuant Duw i’r rhai sydd mewn trallod
  8. Ceisio’r rhai sydd wedi crwydro
  9. Rhyddhau a meithrin pobl Duw er budd pawb a gogoniant Duw.
Gweinyddiaeth
  1. Annog a galluogi’r Cyngor Plwyf Eglwysig i ystyried a diffinio polisi cenhadaeth ar gyfer yr eglwys, gan ystyried:
    1. galwad Duw
    2. anghenion y gymuned leol
    3. anghenion y Plwyf, yr Esgobaeth a’r Dalaith
    4. anghenion yr eglwys ehangach
    5. anghenion y gynulleidfa
    6. hyrwyddo pob agwedd ar Stiwardiaeth Gristnogol
  2. Cydymffurfio â chyfraith gwlad a rheoliadau’r eglwys mewn perthynas â’r canlynol:
    1. priodasau a marwolaethau
    2. amddiffyn plant
    3. atebolrwydd ariannol
    4. iechyd a diogelwch
  3. Rhannu’r gwaith o weinyddu’r Plwyf mewn ffordd effeithiol, gymwys a chwrtais
  4. Ymgynghori a chydweithio â wardeniaid eglwys a’r Cyngor Plwyf Eglwysig ar faterion pwysig a materion sy’n peri pryder yn y Plwyf
  5. Cadw’r cofnodion perthnasol ar gyfer gwasanaethau bedydd, conffyrmasiwn, priodas, claddu a gwasanaethau eraill (lle bo hynny’n berthnasol)
  6. Cefnogi gwaith Swyddog y Gofrestr Etholwyr
  7. Hyrwyddo, cefnogi a chyfranogi yng ngwaith gweinyddol y Cyngor Plwyf Eglwysig, gan gynnwys:
    1. apwyntiadau
    2. trefnu cyfarfodydd
    3. cadw cyfrifon
    4. stocrestr o ddodrefn, ffitiadau ac arteffactau
    5. gofalu am adeiladau’r eglwys
  8. Sicrhau bod cyd-weinidogaeth a rennir yn cydymffurfio â gofynion statudol y gyfraith, y gwasanaethau a’r gweithdrefnau a gymeradwywyd gan yr Eglwys yng Nghymru.
Yr Eglwys a’r gymuned
  1. Hyrwyddo cysylltiadau da a chwrtais gydag aelodau Eglwysi a chymunedau Ffydd eraill.
  2. Cefnogi gweithgareddau cymdeithasol, bugeiliol a chodi arian lleygion sy’n hybu cenhadaeth yr Eglwys yn y gymuned leol a’r gymuned ehangach.
Apwyntiadau yn y Plwyf

Bydd anghenion a chyfleoedd lleol hefyd yn berthnasol, er enghraifft:

  • galluogi ac annog aelodau’r Eglwys i ddatblygu eu bywydau gweddi a’u haddoliad
  • annog aelodau’r Eglwys i fod yn genhadon i Grist
  • cryfhau’r cysylltiadau rhwng y Plwyf ac ysgolion lleol
  • datblygu cysylltiadau cryf â grwpiau cymunedol a hyrwyddo eu cyfranogiad yn addoliad a bywyd y plwyf.