English

Mae Corff y Cynrychiolwyr wedi cytuno i dalu costau yswiriant eglwysi cadeiriol, eglwysi a neuaddau eglwys a reolir, o dan y Cyfansoddiad, gan bob Cyngor Ardal Gweinidogaeth/Cenhadaeth (MAC) neu Gabidwl Eglwys Gadeiriol.

O dan y Cyfansoddiad, mae pob MAC a Chabidwl yn gyfrifol am dalu premiwm yswiriant adeiladau o'r fath yn seiliedig ar amodau a thelerau polisi a sefydlwyd gan Gorff y Cynrychiolwyr. (Rheoliadau Adeiladwaith Eglwysig, Cymal 5).

Er mwyn cynyddu cymorth ariannol i Ardaloedd Gweinidogaeth a lleihau beichiau gweinyddol, mae Corff y Cynrychiolwyr wedi penderfynu talu cost y premiymau hyn o 1 Ionawr 2027.

Mae'r nodyn hwn yn ceisio esbonio'r goblygiadau a'r trefniadau ar gyfer gweithredu'r penderfyniad hwn trwy gyfres o Gwestiynau Cyffredin.

DS: Er symlrwydd, cyfeirir at bob Cyngor Ardal Gweinidogaeth/Cenhadaeth neu Gabidwl Eglwys Gadeiriol, fel ymddiriedolwyr lleol, fel MAC.

Cwestiynau Cyffredin

Pryd fyddwch chi'n dechrau talu'r premiwm?
  • Bydd Corff y Cynrychiolwyr yn dechrau talu'r premiwm ar gyfer blwyddyn premiwm 2027, ar gyfer polisïau sy'n cael eu hadnewyddu ar 1 Ionawr 2027.
  • Mae papurau adnewyddu yn cael eu cyhoeddi gan gwmni Ecclesiastical rai wythnosau cyn y dyddiad adnewyddu.
  • Disgwylir i MACs dalu unrhyw bremiwm ar gyfer blwyddyn premiwm 2026 yn uniongyrchol i Ecclesiastical.
Sut fyddwch chi'n trefnu’r taliad premiwm gyda'r cwmni yswiriant?
  • Mae Corff y Cynrychiolwyr yn trefnu talu'r premiwm ar gyfer yr holl bolisïau MAC sy'n cwmpasu eglwysi, eglwysi cadeiriol a neuaddau eglwys yn uniongyrchol i Ecclesiastical.
  • Bydd cyfanswm y premiwm a delir yn cael ei gyfrifo gan gyfanswm y premiymau ar gyfer pob Ardal Gweinidogaeth a'i heglwysi a neuaddau eglwys cyfansoddol. Bydd y premiwm ar gyfer pob Ardal Gweinidogaeth yn parhau i gael ei gyfrifo a bydd yn ymddangos ar bapurau adnewyddu, felly bydd gwerth y cymorth hwn i bob MAC yn dryloyw.
A fydd MAC yn dal i gael ei yswirio?
  • Bydd. Bydd pob polisi MAC presennol sy'n cwmpasu eglwysi, eglwysi cadeiriol a neuaddau eglwys yn parhau ar waith fel nawr, gan gynnwys yswiriant atebolrwydd.
  • Mae Corff y Cynrychiolwyr wedi'i yswirio ar y cyd ar bob polisi MAC nawr, a bydd hynny'n parhau.
  • Does dim newidiadau i sicrwydd yswiriant y polisi. Mae pwyllgorau eglwys lleol, gwirfoddolwyr a staff y MAC/Cabidwl wedi'u hyswirio dan bolisïau MAC presennol, a bydd hynny'n parhau.
Sut fyddwch chi'n trefnu i adnewyddu’r polisi blynyddol?
  • Bob blwyddyn yn yr hydref, mae Corff y Cynrychiolwyr yn cytuno ar y telerau cyffredinol ar gyfer adnewyddu'r polisïau. Yna, mae'r telerau hyn yn cael eu trosi i'r telerau penodol ar gyfer pob polisi MAC.
  • Yna, bydd yr holl adnewyddiadau polisi MAC penodol yn cael eu cyflwyno i bob cyswllt yn y MAC/Cabidwl cyn y dyddiad adnewyddu (1 Ionawr).
  • Ar ôl cael eu dogfennau adnewyddu, dylai MACs barhau i wirio'r manylion, gan gynnwys bod pob eglwys a neuadd eglwys yn y MAC wedi'u cynnwys. Gall papurau adnewyddu gynnwys ceisiadau am wybodaeth gan yr yswirwyr a dylai MACs ddarparu'r rhain yn y ffordd arferol.
  • Dylai MACs sicrhau bod unrhyw ddebydau uniongyrchol i Ecclesiastical ar waith tan ddyddiad adnewyddu eu polisi e.e. 1 Ionawr 2027.
  • Mae gan ambell bolisi ddyddiad adnewyddu gwahanol i 1 Ionawr, a bydd y rhain yn cael eu nodi wrth eu hadnewyddu.
Pa ofynion gweinyddol fydd ar Gynghorau Ardal Gweinidogaeth/ Cenhadaeth yn sgil y newid hwn?
  • Yr unig beth fydd yn newid yw na fydd yn rhaid i'r MAC wneud taliad adnewyddu i Ecclesiastical na threfnu i ailgodi costau i eglwysi cyfansoddol. Dylai MACs weinyddu'r polisi yswiriant fel y gwnaethant erioed, heblaw am dalu'r premiwm adnewyddu.
  • Bydd Ecclesiastical yn parhau i anfon pecyn adnewyddu atoch yn y ffordd arferol. Bydd y pecyn hwn yn arddangos y premiwm ac yn gofyn am daliad, ond ni fydd angen i'r MAC dalu'r premiwm.
  • Mae'n hanfodol bod y MAC/Cabidwl yn parhau i fonitro ei bolisi, yn deall y telerau ac yn cydymffurfio yn unol â hynny. Dylid darparu unrhyw newidiadau ac unrhyw wybodaeth y mae'r yswiriwr yn gofyn amdani yn brydlon.
  • Y MAC/Cabidwl yw'r parti yswiriedig o hyd, felly rhaid iddo gydymffurfio â gofynion yswiriant yn unol â hynny.
Ai dim ond agwedd adeiladau y polisi yswiriant y mae taliad premiwm Corff y Cynrychiolwyr yn ei hyswirio
  • Nage. Gall polisïau gynnwys amrywiaeth eang o yswiriant fel difrod i eiddo, yswiriant cyflogwyr ac atebolrwydd cyhoeddus a buddion eraill. Bydd y premiwm polisi yn adlewyrchu'r holl sicrwydd yswiriant a bydd cyfanswm y premiwm hwnnw nawr yn cael ei dalu gan Gorff y Cynrychiolwyr.
A yw adeiladau eraill y MAC/Cabidwl wedi'u cynnwys yn y cynllun talu?
  • Nac ydyn. Bydd Corff y Cynrychiolwyr yn talu'r premiwm am brif bolisïau eglwysi, eglwysi cadeiriol a neuaddau eglwys. Os yw'r MAC yn rheoli ac yn yswirio adeiladau eraill fel tŷ'r plwyf, yna dylai'r MAC barhau i drefnu'r yswiriant a thalu'r premiwm yn uniongyrchol i Ecclesiastical.
  • Mae Corff y Cynrychiolwyr wedi ymrwymo i dalu'r premiwm ar gyfer eglwysi, neuaddau eglwys ac eglwysi cadeiriol. Mae'r teitl i Neuaddau Eglwys yn cael ei ddal gan Gorff y Cynrychiolwyr, Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth, Ymddiriedolaeth yr Esgobaeth neu'r Ardal Gweinidogaeth (os yw'n CIO).
  • Os nad yw Neuadd yr Eglwys wedi'i hyswirio gydag yswiriwr enwebedig Corff y Cynrychiolwyr, ni fydd Corff y Cynrychiolwyr yn ad-dalu unrhyw bremiwm.
Sut fydd hawliadau'n cael eu trin?
  • Nid oes unrhyw newid i'r trefniadau presennol. Dylai MACs wneud hawliadau yn uniongyrchol i Ecclesiastical yn y ffordd arferol.
I bwy ddylai Cyngor Ardal Gweinidogaeth/Cenhadaeth roi gwybod am unrhyw ddiweddariadau neu newidiadau?
  • Os oes angen i'r MAC drefnu yswiriant ychwanegol, er enghraifft, ar gyfer digwyddiad arbennig neu i dalu am waith adeiladu, dylai gysylltu ag Ecclesiastical a fydd yn paratoi anfoneb ar wahân am unrhyw bremiwm ychwanegol. Y MAC/Cabidwl ddylai dalu'r costau hyn ac ni fyddant yn cael eu had-dalu gan Gorff y Cynrychiolwyr.
  • Bydd angen i'r MAC dalu'r costau hyn yn llawn adeg y newid ac ni fydd unrhyw drefniant debyd uniongyrchol ar gael.
  • Os yw MAC yn dymuno ymestyn sicrwydd yswiriant y tu hwnt i'r yswiriant safonol y cytunwyd arno'n genedlaethol, y MAC fyddai’n talu'r costau ychwanegol.
Sut fydd polisïau yswiriant yn cael eu trefnu yn y dyfodol?
  • Fel nawr, bydd Corff y Cynrychiolwyr yn trefnu telerau cyffredinol yr yswiriant ac yn penderfynu pa yswiriwr ddylai ddarparu yswiriant.
  • Ar hyn o bryd, mae eglwysi yn destun ymrwymiad hirdymor sy'n golygu y bydd yr adolygiad mawr nesaf o delerau'r polisi a'r darparwr yswiriant ar 1 Ionawr 2029
  • Lle nad yw Neuaddau Eglwys yn eiddo i Gorff y Cynrychiolwyr, cytunir ar bolisïau yn y dyfodol gyda'r perchnogion priodol.
Sut mae hyn yn cael ei ariannu gan Gorff y Cynrychiolwyr ac a yw'n gynaliadwy?
  • Mae’r cymorth hwn yn costio dros £2.9m y flwyddyn i Gorff y Cynrychiolwyr
  • Mae Corff y Cynrychiolwyr yn talu'r gost hon o'i asedau buddsoddi ac mae’n credu y bydd y cymorth yn gynaliadwy yn y dyfodol rhagweladwy. Mae Corff y Cynrychiolwyr yn adolygu ei drefniadau cyllido o bryd i'w gilydd.