English

Mae Adran Eiddo'r Eglwys yng Nghymru wedi'i lleoli yn Swyddfeydd y Dalaith yn 2 Sgwâr Callaghan, Caerdydd CF10 5BT ac mae'n gyfrifol am brynu, gwerthu a rheoli persondai, adeiladau eglwysi, neuaddau eglwys a darnau eraill o dir. O'r fan hon gallwch gael gafael ar wybodaeth, nodiadau canllaw a ffurflenni i'ch helpu i reoli a chynnal eich adeiladau.

Mae'r Adran Eiddo hefyd yn gyfrifol am ddarparu cyngor i blwyfi ar ofalu am eu hadeiladau eglwysig a'u mynwentydd, yn enwedig lle mae hynny'n gofyn am gydymffurfio â deddfwriaeth (fel y Ddeddf Cydraddoldeb a gofynion Iechyd a Diogelwch).

Nodiadau Canllaw

Comisiwn Cadeirlannau ac Eglwysi

Corff annibynnol o fewn yr Eglwys yng Nghymru yw’r Comisiwn Cadeirlannau ac Eglwysi. Mae ganddo gylch gwaith eang (gweler isod), er mai ei brif rôl yw cynghori Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru, Cangellorion Esgobaethau a Phwyllgorau Ymgynghorol yr Esgobaethau ar waith i gadeirlannau ac eglwysi rhestredig bwys cenedlaethol. Mae ei aelodau’n gymysgedd o weithwyr proffesiynol sy’n ymarfer ac sydd wedi ymddeol ac mae ganddynt gyfoeth o brofiad ym maes adeiladau hanesyddol, pensaernïaeth, cadwraeth adeiladau, archaeoleg a hanes celf. Prif ddyletswyddau’r Comisiwn yw:

  • Cynghori Cangellorion Esgobaethau, Cofrestryddion neu Bwyllgorau Ymgynghorol yr Esgobaethau ar geisiadau hawleb sy’n ymwneud â chadeirlannau ac eglwysi.
  • Cynghori unrhyw aelod neu gorff o aelodau o fewn yr Eglwys yng Nghymru ar ofal, cadwraeth, cynnal, trwsio a datblygu eglwys gadeiriol neu eglwys.
  • Monitro gweithrediad y system hawlebau gan gynnwys gwaith Pwyllgorau Ymgynghorol yr Esgobaethau, gweithdrefnau hawlebau a’r broses Eithriadau Eglwysig.
  • Cynghori Corff y Cynrychiolwyr ar ei dreftadaeth adeiledig.
  • Cynghori ar y posibilrwydd o waredu trysorau eglwysig gyda chymorth ymgynghorwyr proffesiynol.
Aelodau’r Comisiwn Cadeirlannau ac Eglwysi

Thomas Lloyd, OBE, MA, FSA - Cadeirydd a Hanesydd Pensaern

Bob Silvester, BA, PhD, FSA - Arbenigwr Archaeoleg a Threftadaeth

Julian Orbach, BA - Hanesydd Pensaernïol

Wyn Evans, DD, FRHistS, FSA - Esgob Tyddewi Ymddeoledig; Hanesydd Eglwysig; Cynghorydd Taleithiol ar Archifau

Peter Welford, BA, Dip. Cons., RCA - Hanesydd Celf ac Ymgynghorydd Adeiladau Hanesyddol

Judith Leigh, BA, Dip Arch Cons., IHBC, FSA - Cynghorydd Cadwraeth

Methu dod o hyd i'r hyn rydych chi'n chwilio amdano? Gofynnwch i ni'n uniongyrchol: