English

Y Gymraeg yn yr Eglwys yng Nghymru

Fel nifer o wledydd eraill ble mae dwyieithrwydd (neu amlieithrwydd) yn agwedd bwysig o fywyd dyddiol ac o’r hunaniaeth genedlaethol, mae gan Gymru drysorau ieithyddol a diwylliannol arbennig ac, fel Eglwys, ymfalchïwn yn y fath gyfoeth.

Mae’r iaith Gymraeg yn fyw ac yn iach yn yr Eglwys yng Nghymru wrth i Gristnogion ledled y wlad addoli, tystio a gwasanaethu Duw a’u cymunedau. Ledled Cymru cynhelir bedyddiadau, priodasau ac angladdau drwy gyfrwng y Gymraeg, y Saesneg ac yn ddwyieithog. Gallwch ddysgu mwy am y  'digwyddiadau bywyd' hyn yma.

Ein gobaith ydy parhau i ddatblygu ein darpariaeth fel y bydd ein cenhadaeth a’n gweinidogaeth yn y Gymraeg – fel yn y Saesneg – yn cryfhau ac yn cael cyfleoedd newydd i ffynnu.

Adnoddau Eraill

Cyhoeddir holl litwrgïau yr Eglwys yng Nghymru yn ddwyieithog a cheir llu o adnoddau eraill, nifer ohonynt wedi eu cyhoeddi gan y Cyngor Ysgolion Sul. Yn ogystal â phrif wefan y Cyngor ceir hefyd:

  • gair.cymru sy’n cynnig llu o adnoddau Cristnogol Cymraeg i’w lawrlwytho am ddim;
  • beibl.net, sef y Beibl cyfan mewn Cymraeg lafar syml;
  • gobaith.cymru, sy’n cyflwyno nifer fawr o emynau a chaneuon mawl i’w lawrlwytho am ddim;
  • Cristnogaeth.cymru, sy’n cynnig llawer o wybodaeth am y ffydd a llu o gysylltiadau difyr a defnyddiol.

Rhan o'r hanes

Ers cyfieithiad William Salesbury o’r Testament Newydd yn 1567 a chyfieithiad enwog yr Esgob William Morgan o’r Beibl cyfan yn 1588 rhoddwyd cyfle i bobl y wlad hon i ddarllen Gair Duw yn Gymraeg. Ar ben hynny, ers cyfieithiad Salesbury o’r Llyfr Gweddi Gyffredin (hefyd yn 1567) darparwyd litwrgïau swyddogol yn Gymraeg i fynegi ffydd a mawl y Cymry. Gydol y canrifoedd wedyn, bu’r Gymraeg yn rhan annatod o fywyd yr Eglwys a chenedlaethau wedi addoli, tystio ac arfer eu ffydd drwy eu mamiaith. Erbyn hyn, bydd nifer fach o eglwysi o fewn yr Eglwys yng Nghymru yn gweithredu’n gyfan gwbl drwy’r Gymraeg tra bo llawer o rai eraill yn ddwyieithog a nifer hefyd yn uniaith Saesneg. Mae newid o ran patrymau siarad yr iaith a chynnydd o ran addysg cyfrwng Cymraeg yn rhoi cyfleoedd a heriau newydd i’n gwlad ac mae’r Eglwys yng Nghymru am gymryd lle blaenllaw wrth sicrhau ffyniant y Gymraeg. Ein gobaith ydy gweld eglwys sy’n tystio’n ffyddlon, llawen a hyderus yn y ddwy iaith fel bod pawb yn medru “clywed ... yn eu hieithoedd nhw am fawrion weithredoedd Duw” (cf. Actau 2:11).