English

Ynglŷn â Gofal ein Gwinllan

Cyfres o seminarau yn Gymraeg yw ‘Gofal ein Gwinllan’, yn olrhain sut y bu’r Eglwys yng Nghymru yn rhan o’r gwaith o ddatblygu’r Gymraeg, ei llên a’i diwylliant. Cynhaliwyd y gyfres gyntaf yn ystod Gwanwyn 2021, yn canolbwyntio ar yr ail ganrif ar bymtheg. Ystyriwyd gweddill yr hanes yn y cyfresi olynol, hyd at ddiwedd yr ugeinfed ganrif.

Bwriedir dod â’r fenter gyfan i ben yn ystod 2027. Er mwyn cael gwybodaeth ynglŷn â’r seminarau sydd i’w cynnal yn ystod Hydref 2026 a Gwanwyn 2026, cysylltwch ag Angharad Gaylard ar: Angharad.Gaylard@stpadarns.ac.uk