English

Mae'r Adran Gyfreithiol yn cyflawni rôl Cwnsler mewnol cyffredinol ac mae'n gyfrifol am roi cyngor i Fainc yr Esgobion, y Corff Llywodraethol, Corff y Cynrychiolwyr a'u holl Bwyllgorau perthnasol. Mae'r Adran hefyd yn ymateb cyn belled ag y bo modd i geisiadau am gyngor cyfreithiol o fannau eraill yn yr Eglwys yng Nghymru lle gellir gwneud hyn heb wrthdaro buddiannau plwyfol neu esgobaethol.

Dyma’r meysydd pwnc sy'n ffurfio'r rhan fwyaf o waith yr Adran:

  • Y fframwaith ymddiriedolaethau elusennol y mae'n ofynnol i Gorff y Cynrychiolwyr, fel elusen gofrestredig, weithredu ynddo. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu â'r Comisiwn Elusennau ar ystod eang o faterion.
  • Goruchwylio'r nifer fawr o "Ymddiriedolaethau Arbennig" (h.y. Ymddiriedolaethau er budd plwyf neu grŵp penodol o bobl) y mae Corff y Cynrychiolwyr yn Ymddiriedolwr iddynt
  • Cyngor i'r gwahanol gyrff ac unigolion eraill a grybwyllir uchod mewn perthynas â Chyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru
  • Paratoi diwygiadau drafft i'r Cyfansoddiad pan ofynnir amdanynt gan y Fainc, y Corff Llywodraethol neu Gorff y Cynrychiolwyr i'w hystyried gan Is-bwyllgor Drafftio Pwyllgor Sefydlog y Corff Llywodraethol
  • Goruchwylio cyfreithwyr panel sy'n ymdrin â phrynu, gwerthu a phrydlesu eglwysi, neuaddau eglwys, ficerdai ac eiddo buddsoddi
  • Ymdrin ag achosion dadleuol, boed yn ymwneud ag eiddo, cyflogaeth neu faterion eraill
  • Gweinyddu Tribiwnlys Disgyblu'r Eglwys yng Nghymru y mae Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol Cymru yn Gofrestrydd arno
  • Cyngor ar agweddau cyfreithiol ar faterion diogelu
  • Cymorth cyfreithiol i holl adrannau Corff y Cynrychiolwyr

Croesewir pob ymholiad. Deellir nad yw'n hawdd dweud a oes gan set benodol o amgylchiadau oblygiad cyfreithiol bob amser. Mae'n aml yn wir y gellir ymdrin â sefyllfa’n llawer haws o ofyn am gyngor cyfreithiol yn gynharach yn hytrach nag yn hwyrach. Mae pob aelod o'r Adran yn hapus i ymdrin ag ymholiad cychwynnol beth bynnag fo'r pwnc manwl. Yna gellir gwneud trefniadau i'r person priodol ymdrin ag ef.

Ymholiadau cyfreithiol

E-bost: legal@churchinwales.org.uk

Ffôn: 029 2034 8200