English

Teitl y Swydd: Cyfarwyddwr Ffurfiant ar gyfer y Weinidogaeth
Cyflog : Gradd G38 - £56,183 y flwyddyn
Lleoliad:
Athrofa Padarn Sant, Caerdydd
Math o Gontract:
Parhaol
Yn adrodd i’r:
Pennaeth
Oriau Gwaith:
Llawn amser (34.75 awr yr wythnos)

Mae Athrofa Padarn Sant yn chwilio am arweinydd profiadol ac ysbrydoledig i ymuno â’r Uwch Dim Rheoli fel Cyfarwyddwr Ffurfiant ar gyfer y Weinidogaeth. Mae hwn yn gyfle gwych i fod yn rhan o ffurfiant a hyfforddiant gweinidogion ordeiniedig a lleyg y dyfodol ar draws yr Eglwys yng Nghymru, drwy eu meithrin i ddatblygu dyfnder ysbrydol, sylwedd diwinyddol, gallu gweinidogaethol ac aeddfedrwydd cymeriad Cristnogol.

Wedi’i lleoli yng Nghaerdydd, gyda rhywfaint o deithio ar draws Cymru. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhoi arweiniad strategol i’r rhaglen Ffurfiant ar gyfer y Weinidogaeth, gorchwylio tîm o diwtoriaid, cyfrannu at ddysgu ac addoli a gweithio’n agos gyda’r esgobaethau, Esgobion ac arweinwyr yr Eglwys yn genedlaethol i sicrhau ffurfiant a hyfforddiant o’r radd flaenaf.

Bydd gan yr unigolyn delfrydol:

  • Yr ymrwymiad, aeddfedrwydd emosiynol, aeddfedrwydd ysbrydol a’r weledigaeth i rannu arweinyddiaeth sefydliad diwinyddol sy’n gwasanaethu anghenion yr Eglwys.
  • Radd uwch mewn Diwinyddiaeth Gristnogol (neu ddisgyblaeth berthnasol) a phrofiad dysgu mewn pwnc perthnasol.
  • Brofiad a gallu amlwg o ffurfio clerigion a gweinidogion lleyg.
  • Brofiad o weinidogaeth Anglicanaidd fel gweinidog neu offeiriad.
  • Sgiliau rhyngbersonol gwych, a’r gallu i adeiladu ymddiriedaeth a chyflawni gwaith ymgynghorol effeithiol gyda ffigyrau uwch o fewn yr Eglwys.

Bydd angen i’r ymgeisydd gwblhau gwiriad DBS priodol.

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, anfonwch eich llythyr eglurhaol a'ch ffurflen gais wedi'i chwblhau i: HR@cinw.org.uk

Cofiwch gynnwys yr holl feini prawf hanfodol yn eich cais.

Dyddiad cau: 15 Ionawr 2027 am 10:00yb

Cyfweliadau: 27 Ionawr 2027

I drefnu sgwrs anffurfiol gyda’r Pennaeth, Parch Ddr Jordan Hillebert ynghylch gofynion y swydd cysylltwch â HR@cinw.org.uk.

Lawrlwytho