English
A picture of square icons representing people

Mae Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru wedi ymrwymo i feithrin gweithlu amrywiol ac yn annog ceisiadau gan bawb. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bobl o ystod amrywiol o gefndiroedd ac yn agored i bobl o bob ffydd ac i bobl heb ffydd.

Mewn rhai achosion, efallai y bydd gofyniad galwedigaethol dilys i fod yn Gristion o arddeliad. Os yw hyn yn berthnasol, bydd yn amlwg yn yr hysbyseb swydd.

Rydyn ni’n cynnig:

  • Cyflogau cystadleuol
  • Wythnos waith llawn amser o 34.75 awr
  • Gwyliau blynyddol yn dechrau ar 25 diwrnod y flwyddyn, gan godi i uchafswm o 30 diwrnod dros gyfnod o 5 mlynedd o wasanaeth.
  • Cyfnod cau’r swyddfa am 3 diwrnod dros y Nadolig
  • Cyfraniad pensiwn cyflogwr hael
  • Amrywiaeth o bolisïau wedi'u cynllunio i fod yn gyfeillgar i deuluoedd
  • Datblygiad proffesiynol drwy weithgaredd DPP
  • Fforwm gweithwyr
  • Diwrnodau gwybodaeth a chymdeithasol i staff

Lawrlwythwch: Hysbysiad preifatrwydd ymgeisydd am swydd (Word)

Ein lleoliadau

Y Swyddfa Genedlaethol – Sgwâr Callaghan

Mae'r Swyddfa Genedlaethol wedi'i lleoli yn Sgwâr Callaghan, Caerdydd, sy'n hygyrch o ran trafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r Swyddfa Genedlaethol yn ofod modern, gyda chyfarpar ar gyfer gwaith unigol a chydweithio.

Swyddog Rhanbarthol Cymorth TG a Gwasanaethau Cwsmeriaid (Gogledd Cymru)

Athrofa Padarn Sant – Llandaf

Mae Athrofa Padarn Sant wedi'i lleoli yn Llandaf mewn adeilad rhestredig hardd, gyda’i chapel ei hun. Mae'r Athrofa yn agos at Eglwys Gadeiriol Llandaf ac yn hygyrch o ran trafnidiaeth gyhoeddus.

Mae gan Athrofa Padarn Sant gyfarpar ar gyfer gwaith unigol a gwaith tîm, ac mae ganddi fannau addysgu hygyrch a llyfrgell.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'w gwefan -

Swyddi gwag yn yr esgobaethau

Mae gan yr Eglwys yng Nghymru 6 esgobaeth ac mae pob un ohonyn nhw’n recriwtio ar gyfer eu swyddi gwag.

Gellir dod o hyd i swyddi gwag yr esgobaethau unigol yma:

Oes gennych chi gwestiwn am eich cais neu eisiau archwilio cyfleoedd gyda ni? Rydyn ni yma i helpu! Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda ni ond na allwch weld rôl addas wedi'i rhestru ar ein gwefan, mae croeso i chi gysylltu â'n Tîm Adnoddau Dynol:

E-bost: hr@cinw.org.uk