Oherwydd myfi sy'n gwybod fy mwriadau a drefnaf ar eich cyfer,’ medd yr ARGLWYDD, ‘bwriadau o heddwch, nid niwed, i roi ichwi ddyfodol gobeithiol.Jeremeia 29:11
Mae'r daith ddysgu hon yn seiliedig ar ddau ddatganiad o'r hyn sy'n bwysig yn bennaf: ‘Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth a chânt eu hamgyffred, eu dehongli a'u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd' ac 'Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl’. Gellir archwilio cysylltiadau gyda datganiadau eraill o'r hyn sy'n bwysig, ynghyd â Meysydd eraill, drwy'r is-lens hon hefyd.
Canllawiau ar yr Is-Lens
Ystyr, Pwrpas a Dylanwad
Camau Cynnar
Gall dysgwyr:
- ddechrau sylweddoli bod gan bobl straeon personol sy’n deillio o’u bywydau nhw
- dechrau adrodd hanes eu bywydau eu hunain
- dechrau adnabod yr hyn sy'n gwneud pobl yn arbennig
- dechrau cydnabod ystyr gwerthoedd gwahanol
- dechrau deall sut mae pobl yn wahanol, a dathlu'r natur unigryw hon
- dechrau ailadrodd y damhegion a nodi gwerthoedd craidd dysgeidiaeth Iesu.
Ymhellach Ar Hyd y Daith
Gall dysgwyr:
- archwilio amrywiaeth o lwybrau bywyd y mae pobl wedi'u profi, gan gyfeirio at gyd-destunau a dylanwadau crefyddol ac anghrefyddol. Gallan nhw adnabod cysylltiadau â chreu ystyr a phwrpas
- datblygu dealltwriaeth o ystyron dyfnach credoau a gwerthoedd, a'u cyfraniad at roi ystyr a phwrpas i fywydau pobl
- archwilio ystyr damhegion a sut maen nhw’n arwyddocaol wrth addysgu gwerthoedd
- archwilio hawliau a chyfrifoldebau pobl iddyn nhw eu hunain, i eraill, ac i'r byd ehangach
- archwilio'r gwobrau a'r canlyniadau neu'r dewisiadau sydd ganddyn nhw.
Yn Ddiweddarach
Gall dysgwyr:
- ddadansoddi'r cysyniad o alwad yn y gorffennol a'r presennol, a'i ystyried yn feirniadol, o safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol
- archwilio heriau y bydd pobl yn eu hwynebu ar hyd llwybr bywyd, a gwerthuso ymatebion crefyddol ac anghrefyddol
- ymchwilio i pam a sut mae pobl yn cael eu galw at Dduw
- trafod ac archwilio sut mae gwerthoedd yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau a chredoau moesegol pobl drwy gydol eu bywydau
- dadansoddi sut mae pobl yn cyfiawnhau eu gweithredoedd drwy eu gwerthoedd a'u credoau
- cymharu damhegion â phrofiadau cyfredol
- myfyrio ar effaith hawliau a chyfrifoldebau ar bobl wahanol, a sut mae eraill yn dylanwadu ar ein penderfyniadau.
Camau a Digwyddiadau Bywyd
Camau Cynnar
Gall dysgwyr:
- ddechrau dod yn ymwybodol eu bod yn tyfu ac yn newid dros amser
- profi a chymharu'r ffyrdd y caiff eu twf nhw eu hunain a thwf pobl eraill eu cydnabod a'u dathlu
- dangos y cysylltiad rhwng eu bywydau ac adegau a thymhorau arbennig
- dechrau deall ac adnabod digwyddiadau mewn bywyd ysbrydol, er enghraifft bedydd
- dechrau deall cyfnodau sy'n arbennig i Gristnogion.
Ymhellach Ar Hyd y Daith
Gall dysgwyr:
- archwilio digwyddiadau a defodau newid byd arwyddocaol
- trafod rolau’r rhain ym mywydau pobl drwy gyfeirio at fewnwelediadau crefyddol ac anghrefyddol
- adnabod sacramentau a deall pam mae pobl yn dewis cymryd rhan ynddyn nhw.
Yn Ddiweddarach
Gall dysgwyr:
- ddadansoddi gweithredoedd defodol pobl wrth nodi digwyddiadau ac amseroedd arwyddocaol, a'u trafod yn feirniadol
- dechrau gwerthuso athroniaethau perthnasol ynghylch amser, o safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol, a dangos sut gall y rhain effeithio ar gredoau, arferion a gweithredoedd.
- Sacramentau
- Bywyd ar ôl marwolaeth
- Materion moesegol a moesol – ewthanasia.
Teithiau Corfforol ac Ysbrydol
Camau Cynnar
Gall dysgwyr:
- sylweddoli eu bod yn mynd ar lawer o deithiau gwahanol am resymau amrywiol
- dangos diddordeb yn nheithiau pobl eraill a gallu gweld ym mha ffyrdd y mae eu teithiau'n debyg ac yn wahanol i'w profiadau eu hunain
- bod yn ymwybodol bod gan deithiau nodweddion corfforol yn ogystal â nodweddion anfaterol
- adnabod teithiau yn y Beibl; megis taith Mair a Joseff
- cydnabod ystyr bod â chartref ac ymdeimlad o berthyn – 'cynefin’
- datblygu ymwybyddiaeth o'r byd o'u cwmpas.
Ymhellach Ar Hyd y Daith
Gall dysgwyr:
- archwilio profiadau pobl o deithiau pwysig o safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol, a nodi rhesymau dros y teithiau hyn
- deall bod teithiau'n gysylltiedig â lle ac amser
- dychmygu sut beth y gallai taith bwysig fod yn eu bywydau nhw eu hunain
- deall y cysyniad o bererindod Gristnogol
- deall pam oedd pobl wedi gwneud teithiau pwysig yn y Beibl e.e. Moses
- archwilio a nodi ystyr 'cynefin' a lloches.
Yn Ddiweddarach
Gall dysgwyr:
- adnabod a gwerthuso cydberthnasau rhwng teithiau corfforol ac ysbrydol a'u heffeithiau ar fywydau unigolion, cymunedau a chymdeithas yn ehangach (e.e. mewn perthynas â hunaniaeth, ffurfiant bodau dynol, amrywiaeth, diwylliant)
- ystyried yn feirniadol y cydgysylltiad rhwng teithiau, tirweddau a phobl mewn lleoedd ac ar adegau gwahanol, gan gyfeirio at gyd-destunau crefyddol ac anghrefyddol
- dadansoddi'n feirniadol pam mae'n rhaid i bobl ddod o hyd i loches mewn lleoedd eraill.
Dull Enghreifftiol
Mae'r adran hon yn darparu enghreifftiau o ffyrdd y gellid datblygu taith ddysgu blwraliaethol. Gallai'r daith ddechrau ar unrhyw gam ac ni ddylid ei chyfyngu i'r enghreifftiau a roddir. Anogir cwestiynau er mwyn hwyluso datblygiad sy'n cael ei ddylanwadu gan y dysgwr.
Mae pob enghraifft yn ymwneud â cham datblygu penodol ond dylid ei haddasu yn unol â gofynion dysgwyr.

Ymhellach Ar Hyd y Daith

Sut mae pobl o argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol yn dathlu cyfnodau pwysig yn eu bywydau?
Sut mae pobl o argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol yn dangos ymrwymiad gydol eu bywydau?
Seremonïau enwi, priodasau, marwolaeth…
Sut mae dyneiddwyr yn dathlu genedigaethau? Pam y mae hyn yn bwysig iddyn nhw?
Trafodwch safbwynt dyneiddwyr ar 'y bywyd daionus’.
Beth mae dyneiddwyr yn ei gredu sy'n digwydd pan fydd pobl yn marw? Sut mae hyn yn debyg neu'n wahanol i gredoau crefyddol?
Beth yw defodau newid byd i Fwslimiaid? Beth yw'r cysylltiad rhyngddyn nhw â Phum Colofn Islam?
Sut mae pobl o grefyddau eraill yn dangos ymrwymiad gydol eu bywydau?
Beth yw defodau newid byd i Fwslimiaid?
Adhan, Aqeeqah, Hajj, Nikah (priodas)…
Beth yw Aqeeqah? (croesawu)
Beth yw seremoni Bismillah?
Sut mae Mwslimiaid yn dangos maddeuant?
- Everyone deserves forgiveness (Qur'an 64:14) O you who have believed, indeed, among your wives and your children are enemies to you, so beware of them. But if you pardon and overlook and forgive - then indeed, Allah is Forgiving and Merciful.
Sut mae hyn yn cysylltu â Phum Colofn Islam? Pam maen nhw'n bwysig i Fwslimiaid?
- Shahadah, Salat, Zakat, Sawm, Hajj
Beth mae Mwslimiaid yn ei gredu sy'n digwydd pan fydd pobl yn marw?
Beth yw defodau newid byd i Fwdhyddion?
Derbyn, Priodi, Marw, Marwolaeth, Angladd.
Beth yw bendithion y Tair Lloches?
Beth yw'r Pedwar Gwirionedd Nobl a sut mae Bwdhyddion yn gallu rhoi'r Llwybr Wythplyg Nobl ar waith? Pam maen nhw'n bwysig i Fwdhyddion?
A yw maddeuant yn bwysig i Fwdhyddion?
Beth mae Bwdhyddion yn ei gredu sy'n digwydd pan fydd pobl yn marw?
Beth yw sacrament a sut mae enwadau gwahanol yn mynd ati i'w ymarfer? A oes gan bob enwad Cristnogol sacramentau? Os nad oes gan bob un sacramentau, sut mae achlysuron arbennig yn cael eu nodi?
Sut mae rhai Cristnogion yn dangos ymrwymiad gydol eu bywydau?
Beth yw bedydd? (croesawu)
Bedyddio’r Iesu (Mathew 3:13-17)
Trafodwch beth yw pechod a sut mae Duw yn maddau i eraill. Beth yw maddeuant a sawl gwaith y dylai Cristnogion ddangos maddeuant?
- Dameg y Gwas Anfaddeugar (Mathew 18:21-22)
- Bedyddio, Conffyrmasiwn, y Cymun Bendigaid Cyntaf, priodas…
- Pasg
Pam mae rhai Cristnogion yn gwneud eu Cymun Bendigaid Cyntaf?
Swper Olaf Crist – Sut mae hyn yn symbol o'r Cymun Bendigaid mewn Eglwysi heddiw?
Pam mae Cristnogion yn credu bod Iesu wedi marw? Pam y mae'n bwysig i Gristnogion bod Iesu wedi atgyfodi eto?
Beth mae Cristnogion yn ei gredu sy'n digwydd pan fydd pobl yn marw?