Y mae'r pethau dirgel yn eiddo i'r ARGLWYDD ein Duw; ond y mae'r pethau a ddatguddiwyd yn perthyn am byth i ni a'n plant, er mwyn i ni gadw holl ofynion y gyfraith hon.Deuteronomium 29:29
Mae'r daith ddysgu hon yn seiliedig ar ddau ddatganiad o'r hyn sy'n bwysig yn bennaf: ‘Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth a chânt eu hamgyffred, eu dehongli a'u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd' ac 'Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl’. Gellir archwilio cysylltiadau gyda datganiadau eraill o'r hyn sy'n bwysig, ynghyd â Meysydd eraill, drwy'r is-lens hon hefyd.
Canllawiau ar yr Is-Lens
Beth yw'r hyn sy'n gwneud pobl yn bwy ydyn nhw?
Camau Cynnar
Gall dysgwyr:
- ddangos ymwybyddiaeth o bwy ydyn nhw a'u bod yn debyg ac yn wahanol i eraill
- dangos ymwybyddiaeth o hunaniaeth ffydd a sut mae hyn yn debyg neu'n wahanol ar gyfer crefyddau gwahanol.
Ymhellach Ar Hyd y Daith
Gall dysgwyr:
- drafod yr hyn a all ffurfio hunaniaeth (er enghraifft, cydberthnasau, ffyrdd o fyw, credoau a lle) a'r ffordd y mae'r rhain yn dylanwadu ar bobl a'u cymunedau
- dangos ymwybyddiaeth o hunaniaeth ffydd a sut mae hyn yn debyg neu'n wahanol mewn Cristnogaeth ac ar gyfer crefyddau gwahanol.
Yn Ddiweddarach
Gall dysgwyr:
- adolygu a gwerthuso sawl athroniaeth grefyddol ac anghrefyddol, safbwyntiau bywyd ac arferion sy'n ymwneud â'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn berson, cyn ffurfio eu safbwyntiau eu hunain a'u hystyried mewn ffordd feirniadol.
Cymunedau, Cyfraniadau ac Amrywiaeth
Camau Cynnar
Gall dysgwyr:
- ddechrau deall eu bod yn rhan o grwpiau a chymunedau amrywiol, a dechrau deall beth yw perthyn.
- dangos ymwybyddiaeth o amrywiaeth o fewn cymunedau perthnasol a'r ffaith bod eu profiadau o berthyn yn debyg ac yn wahanol i brofiadau pobl eraill.
Ymhellach Ar Hyd y Daith
Gall dysgwyr:
- archwilio ffyrdd o fynegi ymdeimlad o berthyn mewn amrywiaeth o gyd-destunau crefyddol ac anghrefyddol.
- trafod arwyddocâd perthyn ym mywydau pobl, gan gynnwys eu bywydau nhw eu hunain.
- dangos ymwybyddiaeth o amrywiaeth o fewn Cristnogaeth.
Yn Ddiweddarach
Gall dysgwyr:
- adnabod a gwerthuso’r berthynas rhwng perthyn, ymrwymiad a chyfraniadau at gymdeithas, diwylliant a lles a'u taith ffydd.
Lle, Amser a Chydberthnasau
Camau Cynnar
Gall dysgwyr:
- ddechrau dod yn ymwybodol eu bod yn bodoli mewn lle ac amser, a bod hyn yn eu llywio hwy a'r cymunedau o'u cwmpas.
Ymhellach Ar Hyd y Daith
Gall dysgwyr:
- archwilio'r rhyngweithio rhwng amrywiaeth o gymunedau a chymdeithasau yn lleol ac yn ehangach, a thrafod cyfraniadau hunaniaeth ac ymdeimlad o berthyn o safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol
- adnabod parhad a newid mewn hunaniaeth ac ymdeimlad o berthyn, a'r ffyrdd y maen nhw’n cael eu profi yn bersonol ac ar y cyd.
Yn Ddiweddarach
Gall dysgwyr:
- archwilio a gwerthuso cydberthnasau a chyd-ddibyniaethau rhwng amrywiaeth o grwpiau, cymunedau a chymdeithasau (yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang) a'u heffaith ar fywydau pobl a'r byd naturiol.
- ystyried yn feirniadol rolau hunaniaeth ac ymdeimlad o berthyn er mwyn deall materion cyfoes cyffredin, ac wrth ymateb iddyn nhw o safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol.
Dull Enghreifftiol
Mae'r adran hon yn darparu enghreifftiau o ffyrdd y gellid datblygu taith ddysgu blwraliaethol. Gallai'r daith ddechrau ar unrhyw gam ac ni ddylid ei chyfyngu i'r enghreifftiau a roddir. Anogir cwestiynau er mwyn hwyluso datblygiad sy'n cael ei ddylanwadu gan y dysgwr.
Mae pob enghraifft yn ymwneud â cham datblygu penodol ond dylid ei haddasu yn unol â gofynion dysgwyr.

Camau Cynnar

Sut deimlad yw perthyn/bod ar goll? Y Ddafad Golledig - Matthew 18:12-14
Mae Duw yn gofalu am ei holl braidd.
A oes rheolau ar gyfer sut y gallai Cristnogion drin pobl eraill?
- Y Deg Gorchymyn (Exodus 20:1–17)
- Dameg y Samariad Trugarog (Luc 10:25–37)
- Dameg y Mab Afradlon (Luc 15:11–32)
Sut mae rhai Cristnogion yn dangos eu bod yn perthyn i'w gilydd? Trafodwch gyfeillgarwch, dyweddïo, priodasau, bedyddiadau, y Cymun Bendigaid.
- Sut mae rhai Cristnogion yn dangos eu bod yn perthyn i deulu mwy o ran maint?
- Pam mae'r Eglwys yn adeilad pwysig i rai Cristnogion?
Beth yw symbolau crefyddol a beth yw eu hystyr? Beth yw addoldai a pham eu bod yn arbennig?
Beth yw symbolau crefyddol a beth yw eu hystyr? Edrychwch ar symbolau sy'n dangos perthyn i grefyddau eraill – Iddewiaeth, Bwdhaeth, Sikhiaeth.
Beth yw addoldai a pham eu bod yn arbennig? – Iddewiaeth, Bwdhaeth, Sikhiaeth.
Ble mae Sikhiaid yn addoli?
Mae llawer o Sikhiaid yn dewis addoli mewn Gurdwara. Sut mae Gurdwara yn edrych y tu mewn? Ble mae'r Gurdwara agosaf atom ni?
Ble mae pobl o grefyddau eraill yn dod o hyd i'w rheolau i'w dilyn?
- Siddhartha a'r Alarch – Bwdhaeth
- Stori'r Mwnci – Bwdhaeth
- Pam rydyn ni'n dathlu Diwali? – Hindŵaeth
- Y Proffwyd a'r Morgrug – Islam
- Y Llaeth a'r Blodyn Jasmin a stori Duni Chand a'r Nodwydd Arian - Sikhiaeth
Mae'r holl straeon hyn ar gael ar ffurf ffilm animeiddio yma:
A yw pawb yn arddel crefydd? A yw pobl sydd ag argyhoeddiad athronyddol anghrefyddol yn dilyn cyfres o reolau?
- Sut deimlad yw perthyn i gymuned sydd â safbwyntiau athronyddol anghrefyddol? A oes lleoedd neu symbolau arbennig yn perthyn i’r gymuned?
- Sut ydyn ni’n gwybod ein bod yn perthyn i gymuned fyd-eang?
- Sut ydw i'n gwybod y bydd pobl sydd ag argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol yn trin pobl â pharch?
Ymhellach Ar Hyd y Daith

Beth yw nodweddion cymuned mewn crefyddau eraill a sut mae pobl o grefyddau eraill yn arddangos cymuned? Sut mae symbolau ac arteffactau crefyddol yn cael eu defnyddio i ddangos hunaniaeth mewn crefyddau eraill? Beth yw swyddogaeth addoldy yn y gymuned?
Beth sy'n arddangos ymdeimlad o berthyn mewn Iddewiaeth?
Mae Bar Mitzvah a Bat Mitzvah yn ddathliadau allweddol yn y ffydd Iddewig. Sut mae'r dathliadau hyn yn arddangos hunaniaeth Iddewig ac yn portreadu perthyn?
Beth yw 5 K Khalsa?
Gelwir y gymuned Sikh yn Khalsa sy'n golygu 'Cymuned y Pur’.
Beth yw gleiniau mala/gleiniau gweddi? Sut maen nhw'n cael eu defnyddio? Pa grefyddau sy'n eu defnyddio? Sut maen nhw'n cael eu defnyddio i greu ymdeimlad o hunaniaeth a pherthyn?
Beth yw swyddogaeth eglwys mewn cymuned Gristnogol? Iesu yn Porthi'r Pum Mil (Mathew 14:13-21) – Sut mae'r stori hon yn dangos syniadau Iesu am hunaniaeth a pherthyn?
- Beth yw cymuned?
- Beth yw cymuned Gristnogol?
Mae cymuned yn bwysig iawn i Gristnogion, 'Câr dy gymydog fel ti dy hun’.
Efengyl Mathew. Sut mae Cristnogion yn arddangos yr ymddygiad hwn a'r agwedd hon yn eu bywydau bob dydd?
Mewn cymdeithas sy'n newid, beth yw heriau perthyn i ffydd Gristnogol?
Sut mae pobl yn dod o hyd i'w hunaniaeth ac ymdeimlad o berthyn os ydyn nhw wedi symud i dref, dinas neu hyd yn oed wlad arall?
Beth yw hunaniaeth ac ymdeimlad o berthyn? Beth mae'r geiriau hyn yn ei olygu?
Beth mae pobl sydd ag argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol yn ei wneud i ddangos ymdeimlad o berthyn? (Arferion, defodau, symbolau, dillad)
Pa adeiladau a lleoedd sy'n gallu bod yn arbennig i bobl sydd ag argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol? Yn aml, gellir eu cysylltu â'r hyn sy'n bwysig i bobl fel lles, iechyd, addysg, cymuned a chyfeillgarwch. Allwch chi feddwl am rai enghreifftiau o leoedd sy'n cael eu nodi gan bobl fel lleoedd arbennig? Dyma rai enghreifftiau posibl: parc, canolfan hamdden, ysgol, y Senedd.
Mae llawer o ddyneiddwyr yn gwerthfawrogi lleoedd sy'n cynorthwyo pobl i ddysgu, cadw'n iach, cyfarfod â phobl, mwynhau hobïau a diddordebau, a chreu cymdeithas deg. Maen nhw'n credu bod yr adeiladau hyn yn gallu helpu i ddangos rhai enghreifftiau o sut mae pobl wedi gweithio gyda'i gilydd i greu byd gwell.
- Pa leoedd sy'n arbennig i chi a pham?
- A yw hunaniaethau o bob math yn rhai da? A yw unigolyn yn gallu newid ei hunaniaeth?
- Sut mae pobl sydd ag argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol yn arddangos ymdeimlad o gymuned?
- A yw pobl sydd ag argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol yn priodi neu'n cael gwahanol fathau o seremoni?
Yn Ddiweddarach

Beth mae pobl yn ei wisgo er mwyn dangos eu hunaniaeth a theimlo'n agosach at Dduw?
Iddewiaeth
- Beth yw cyfamod?
- Beth yw cyfamodau Abraham gyda Duw?
- Pam mae Israel yn lle pwysig i Iddewon?
- Pa symbolau sy'n perthyn i Iddewiaeth a pham eu bod yn bwysig?
- Beth mae Iddewon yn ei wisgo er mwyn dangos eu hunaniaeth a theimlo'n agosach at Dduw?
- A oes angen dillad crefyddol arnom i deimlo'n nes at Dduw?
Islam
- Beth yw'r Ummah yn Islam?
- Beth yw swyddogaeth y Mosg wrth wasanaethu'r gymuned Fwslimaidd?
- Sut mae'r pum colofn yn dangos hunaniaeth Fwslimaidd? Sut maen nhw'n cael eu gwireddu yn y gymdeithas heddiw?
- Gwerthuso: A oes angen i chi ddilyn pob un o'r pum Colofn i fod yn Fwslim?
Beth yw manteision a heriau gwisgo symbolau neu ddillad crefyddol?
Sut mae Cristnogion yn estyn allan at eu cymunedau?
- Pam mae perthyn i gymuned yn bwysig?
- Beth yw natur cymuned Gristnogol? – enwadau gwahanol
- A oes gan Gristnogion ddyletswydd i ofalu am bobl yn eu cymuned?
Straeon y Beibl – Mae Iesu yn iacháu rhywun cloff (pwyslais ar ffrindiau yn helpu'r dyn sy'n methu cerdded). Sut allwn ni fod yn debyg i'r ffrindiau hynny?
Y Samariad Trugarog – A yw bob amser yn bosibl dilyn arweiniad y Samariaid trugarog?
Sut mae Cristnogion yn darparu allgymorth i’w cymunedau? –rôl eglwys yn y gymuned e.e. banciau bwyd/ceginau cawl.
Gwerthuso: Ai cyfrifoldeb yr Eglwys yw gofalu am y gymuned?
A yw bob amser yn hawdd bod yn Gristion yn yr 21ain ganrif?
Sut mae pobl sydd ag argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol yn mynd ati i ddatblygu eu hunaniaeth a'u hymdeimlad o gymuned?
Ystyriwch safbwyntiau am yr hyn sy'n ein gwneud ni'n ddynol. Ffisegoliaeth yn erbyn Deuoliaeth
- Sut mae pobl sydd ag argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol yn gwybod eu bod yn perthyn i rywle?
- Edrychwch ar sut mae pobl sydd ag argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol yn datblygu eu hunaniaeth a'u hymdeimlad o gymuned?
- Beth yw'r Adeilad Dyneiddwyr? Sut mae'n gwasanaethu'r gymuned ac yn dangos hunaniaeth?
- Sut gallai rhywun baratoi i fudo i wlad wahanol? Pa anawsterau y gallai rhywun eu hwynebu wrth fudo i wlad arall?