Câr yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid ac â'th holl feddwl. Dyma'r gorchymyn cyntaf a'r pwysicaf. Ac y mae'r ail yn debyg iddo: ‘Câr dy gymydog fel ti dy hun.’ Ar y ddau orchymyn hyn y mae'r holl Gyfraith a'r proffwydi yn dibynnu.Matthew 22:37-40
Mae'r daith ddysgu hon yn seiliedig ar ddau ddatganiad o'r hyn sy'n bwysig yn bennaf: ‘Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth a chânt eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd’' ac '‘Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol’. Gellir archwilio cysylltiadau gyda datganiadau eraill o'r hyn sy'n bwysig, ynghyd â Meysydd eraill, drwy'r is-lens hon hefyd.
Canllawiau ar yr Is-Lens
Yr hyn sy'n werthfawr i bobl
Camau Cynnar
Gall dysgwyr:
- ddechrau adnabod beth sydd o werth iddyn nhw (er enghraifft, tegwch, ymddiriedaeth, cariad, bywyd a charedigrwydd) a byddan nhw’n gwrando ar farn pobl eraill
- cydnabod yr angen i barchu eraill a dangos sut beth yw hyn yn eu bywydau pob dydd
- adnabod gwerthoedd efengylau Cristnogol a dechrau archwilio dysgeidiaethau.
Ymhellach Ar Hyd y Daith
Gall dysgwyr:
- ddod yn ymwybodol o wahanol ddehongliadau a ffyrdd o fynegi gwerthoedd cyffredin, gan werthfawrogi amrywiaeth o ddylanwadau crefyddol ac anghrefyddol
- dysgu sut mae rhai gwerthoedd a hawliau wedi newid dros amser
- trafod amrywiaeth o safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol o fewn achosion o anghydraddoldeb ac anghyfiawnder, yn ogystal â'r heriau sy'n gysylltiedig ag adnabod a diogelu hawliau dynol
- adnabod gwerthoedd Cristnogol a disgrifio sut maen nhw'n edrych yn ymarferol.
Yn Ddiweddarach
Gall dysgwyr:
- feithrin y gallu i ffurfio, amddiffyn ac ailystyried eu safbwyntiau moesegol ar faterion o bwys crefyddol ac anghrefyddol (er enghraifft, sancteiddrwydd bywyd, rhyddid i lefaru, lles anifeiliaid, Figaniaeth a'r Theori Rhyfel Cyfiawn)
- archwilio cysyniadau goddefgarwch/derbyn/empathi
- gwerthfawrogi gwerthoedd amrywiol crefyddau a chredoau anghrefyddol gwahanol
- adnabod gwerthoedd Cristnogol a sut maen nhw'n effeithio ar eu bywydau nhw a bywyd pobl eraill.
Credoau, Gweithredoedd a Chanlyniadau
Camau Cynnar
Gall dysgwyr:
- ddechrau dangos dealltwriaeth o'r hyn sy'n dda ac yn ddrwg, a'r berthynas rhwng hyn a'u gweithredoedd a'u teimladau.
- dechrau dangos dealltwriaeth o werthoedd Cristnogol a'u dysgeidiaethau Beiblaidd cysylltiedig.
Ymhellach Ar Hyd y Daith
Gall dysgwyr:
- mewn ffordd fwy eang a soffistigedig, esbonio sut y gall eu gweithredoedd arwain at ganlyniadau iddyn nhw eu hunain ac i eraill, ac i'r byd a phethau byw, gan ddefnyddio mewnwelediad o amrywiaeth o argyhoeddiadau athronyddol crefyddol ac anghrefyddol.
- dangos dealltwriaeth o gysyniad Cristnogol y cwymp.
Yn Ddiweddarach
Gall dysgwyr:
- ragdybio a gwerthuso'r ffactorau sy'n dylanwadu ar agweddau, ymddygiad a gweithredoedd disgyblion, yn ogystal â rhai pobl eraill, gan gynnwys ffactorau sy'n ymwneud â chredoau ac arferion crefyddol ac anghrefyddol
- trafod rôl cydwybod wrth wneud penderfyniadau moesol
- archwilio'r cysyniad o ewyllys rydd
- archwilio'r cysyniad o Karma
- dangos dealltwriaeth o gysyniadau Cristnogol gwahanol o'r cwymp.
Gwneud Penderfyniadau
Camau Cynnar
Gall dysgwyr:
- ddechrau adnabod enghreifftiau sylfaenol o gyfyng gyngor moesol a chynnig atebion.
- dechrau cysylltu atebion â dysgeidiaethau Beiblaidd neu ffydd.
Ymhellach Ar Hyd y Daith
Gall dysgwyr:
- ddysgu rheolau a chodau ymddygiad (crefyddol ac anghrefyddol) sy'n berthnasol iddyn nhw ac eraill o'u cwmpas, ac egluro eu heffaith ar fywydau pobl
- deall canllawiau ar gyfer Cristnogion, fel gorchmynion
- esbonio sut mae dysgeidiaeth Iesu yn dylanwadu ar ymddygiad a gwneud penderfyniadau, er enghraifft, llygad am lygad; troi’r foch arall; caru ein gelynion; maddeuant.
Yn Ddiweddarach
Gall dysgwyr:
- adnabod y cyfrifoldebau a'r heriau sy'n gysylltiedig â gwneud penderfyniadau, a'u trafod yn feirniadol, gan ddangos dealltwriaeth o arweinwyr/ffigyrau, prosesau a sefydliadau perthnasol sy'n cyfrannu at wneud penderfyniadau, mewn cyd-destunau crefyddol ac anghrefyddol
- deall canllawiau ar gyfer Cristnogion fel y Deg Gorchymyn a sut maen nhw wedi dylanwadu ar ein cyfreithiau
- adnabod cyfleoedd lle mae angen cymryd camau moesol priodol yn eu cymunedau/Cynefin/Esgobaeth/Cymru a’r byd ehangach.
Dull Enghreifftiol
Mae'r adran hon yn darparu enghreifftiau o ffyrdd y gellid datblygu taith ddysgu blwraliaethol. Gallai'r daith ddechrau ar unrhyw gam ac ni ddylid ei chyfyngu i'r enghreifftiau a roddir. Anogir cwestiynau er mwyn hwyluso datblygiad sy'n cael ei ddylanwadu gan y dysgwr.
Mae pob enghraifft yn ymwneud â cham datblygu penodol ond dylid ei haddasu yn unol â gofynion dysgwyr.

Ymhellach Ar Hyd y Daith

Adda ac Efa a'r Cwymp. Sut mae'r stori hon yn esbonio'r cysyniad o Ewyllys Rydd a bod yn gyfrifol am weithredoedd a'u canlyniadau? Mae Iesu yn dweud y dylai pobl garu eu gelynion: Ydych chi'n meddwl bod hyn yn bosibl?
Mae'r dull hwn yn gyfle i ystyried y ffaith bod rhai Cristnogion yn credu’n llythrennol yn stori Adda ac Efa, ac eraill sy’n Gristnogion ddim yn ei chredu’n llythrennol.
Genesis 3 Adda ac Efa a'r Cwymp.
- Beth yw Ewyllys Rydd?
- Beth yw'r ddysgeidiaeth Gristnogol am Ewyllys Rydd?
- Beth yw ystyr bod â chydwybod?
- Sut y dylai bod â chydwybod effeithio ar weithredoedd Cristnogion a chanlyniadau’r gweithredoedd hynny?
Cysylltwch hyn â stori'r Samariaid Trugarog yn Luc 10:25 – 37 (Roedd y bobl Iddewig a'r Samariaid yn casáu ei gilydd)
- Beth yw'r cysylltiad rhwng y cysyniad hwn â gorchymyn mawr yr Iesu, sef 'Câr dy gymydog fel ti dy hun' a 'Fel y dymunwch i eraill wneud i chwi, gwnewch chwithau yr un fath iddynt hwy’? Matthew 22:37
- A oes cyfrifoldeb ar Gristnogion i ddilyn y gorchymyn hwn?
- Sut y dylai hyn effeithio ar weithredoedd Cristnogion tuag at eraill?
- Beth yw canlyniadau gweithredoedd da/drwg mewn Cristnogaeth, yn y bywyd hwn a'r bywyd nesaf?
Ym mha ffordd y mae dysgeidiaeth Hindŵaidd am karma yn debyg neu'n wahanol i ddysgeidiaethau Bwdhaidd a dysgeidiaethau Cristnogol am sut mae unigolyn yn byw ei fywyd ac am fywyd ar ôl marwolaeth?
Iddewiaeth – Lefiticus 24:17 - 21 - 'llygad am lygad, dant am ddant’
- Yn eich barn chi, beth mae hyn yn ei olygu?
- Yn eich barn chi, beth yw canlyniadau dilyn y datganiad hwn?
- Ym mha ffordd y mae hyn yn berthnasol i farn Iesu am ddial? Matthew 5:38 - 42?
Hindŵaeth - Dywedodd Gandhi y bydd 'llygad am lygad yn gwneud y byd i gyd yn ddall.' Beth mae hyn yn ei olygu yn eich barn chi a sut y byddai'n effeithio ar fywyd Hindŵ?
Mae Bwdhaeth yn dysgu bod pobl/pethau wedi'u cydgysylltu:
- Beth mae'r cysyniad o gydgysylltiad yn ei olygu?
- Sut y dylai hyn ddylanwadu ar weithredoedd Bwdhyddion?
Mae Bwdhyddion yn credu yng nghysyniad karma - y syniad bod gweithredoedd yn arwain at ganlyniadau da/drwg/niwtral, yn y bywyd hwn a'r bywyd nesaf.
- Pa mor debyg neu wahanol yw dysgeidiaeth Fwdhaidd am karma i ddysgeidiaeth Gristnogol am weithredoedd a chanlyniadau?
- Ym mha ffordd y mae dysgeidiaeth Fwdhaidd am karma yn debyg neu'n wahanol i ddysgeidiaeth Gristnogol am fywyd ar ôl marwolaeth?
Mae Hindŵaeth yn credu yng nghysyniad karma hefyd; mae Hindŵiaid yn credu bod gan weithredoedd pobl ganlyniadau yn y bywyd hwn a'r bywyd nesaf.
Archwiliwch yr hyn y gall ymreolaeth Foesol ac ymreolaeth Bersonol ei olygu i ddyneiddiwr. Pa effaith y byddai hyn yn ei chael ar eu bywydau nhw a bywydau pobl eraill?
Dyneiddiaeth mewn saith gair: Meddyliwch drosoch eich hun, gweithredwch dros bawb.
- Ar beth y mae dyneiddwyr yn seilio eu penderfyniadau moesegol?
- Beth yw'r gwahaniaethau neu'r tebygrwydd rhwng barn Dyneiddiaeth am y Rheol Euraid o'i gymharu â barn Cristnogaeth a Chrefyddau eraill y Byd?
Mae dyneiddwyr yn credu bod gan ein gweithredoedd ganlyniadau, i'n hynafiaid a'n disgynyddion, i hanes pobl, ac i'r byd naturiol:
- Beth mae hyn yn ei olygu i ddyneiddwyr?
- Sut y byddai hyn yn cael ei amlygu yn eu bywydau?
Er nad ydyn nhw’n credu mewn bywyd ar ôl marwolaeth, mae dyneiddwyr yn credu y gall rhan ohonom, ar un ystyr, oroesi ein marwolaeth: gall ein hatomau, ein genynnau, ein syniadau a rennir, a'n cyfraniadau at gymdeithas ehangach fyw o hyd ar ôl i ni farw.
- Eglurwch beth mae hyn yn ei olygu.
- Sut y byddai hyn yn effeithio ar fywyd dyneiddiwr?