English
Cod, oherwydd dy gyfrifoldeb di yw hyn, ond fe fyddwn ni gyda thi; gweithreda'n wrol.
Esra 10:4

Mae'r daith ddysgu hon yn seiliedig ar ddau ddatganiad o'r hyn sy'n bwysig yn bennaf: ‘Mae ein byd naturiol yn amrywiol a deinamig, wedi’i ddylanwadu gan brosesau a gweithredoedd dynol’ ac '‘Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl’. Gellir archwilio cysylltiadau gyda datganiadau eraill o'r hyn sy'n bwysig, ynghyd â Meysydd eraill, drwy'r is-lens hon hefyd.

Canllawiau ar yr Is-Lens

Sut mae Pobl yn Byw gyda'i Gilydd

Camau Cynnar

Gall dysgwyr:

  • ddeall bod ganddyn nhw lawer o gydberthnasau gwahanol
  • meddwl am yr hyn sy'n eu helpu i fyw gydag eraill
  • cynnig barn ar ffyrdd o ddatrys anghytundeb
  • dysgu mwy am berthynas Cristnogion â Duw.

Ymhellach Ar Hyd y Daith

Gall dysgwyr:

  • adnabod a thrafod ffyrdd y caiff pwysigrwydd cydberthnasau (personol, cymdeithasol, amgylcheddol a throsgynnol) ei fynegi ym mywydau pobl, gan gyfeirio at gyd-destunau crefyddol ac anghrefyddol
  • trafod y Drindod a'r berthynas Gristnogol â'r Ysbryd Glân.

Yn Ddiweddarach

Gall dysgwyr:

  • sylweddoli bod cydberthnasau yn ddeinamig ac yn gymhleth.
  • ystyried yn feirniadol ddylanwadau a all gyfrannu at gytgord ac anghytgord yn fyd-eang, yn lleol ac yn bersonol (gan gynnwys dylanwadau crefyddol ac anghrefyddol).
  • adolygu a gwerthuso heriau sy'n gysylltiedig â chydberthnasau, gan gyfeirio at amrywiaeth o fewnwelediadau a phrofiadau crefyddol ac anghrefyddol.
  • cydnabod safbwyntiau gwahanol grwpiau Cristnogol a'r heriau sy'n gallu deillio o hynny.
Cyfrifoldebau a Chydgysylltiad

Camau Cynnar

Gall dysgwyr:

  • ddechrau dod yn ymwybodol o gysylltiadau rhwng eu bywydau eu hunain a bywydau pobl eraill, y byd naturiol a phethau byw
  • dechrau dangos cyfrifoldeb at eraill drwy weithredoedd syml
  • dechrau bod yn ymwybodol o gysylltiad â Duw (os yw'n briodol i'w credoau).

Ymhellach Ar Hyd y Daith

Gall dysgwyr:

  • adnabod pam a sut mae pobl yn dangos cyfrifoldeb at bobl ac at leoedd y tu hwnt i'w cydberthnasau personol
  • trafod dimensiynau materol ac anfaterol cydberthnasau (gan gynnwys dimensiynau ysbrydol, crefyddol a moesol)
  • adnabod cysylltiadau â thwf bodau dynol a sut y gall pobl fyw gyda'i gilydd yn gyfrifol yn y byd, fel pobl, grwpiau a chymdeithasau.
  • trafod eu perthynas ysbrydol â Duw.

Yn Ddiweddarach

Gall dysgwyr:

  • ddatblygu gwerthfawrogiad beirniadol o faterion arwyddocaol sy'n effeithio ar gydberthnasau ar lefel fyd-eang
  • dychmygu sawl dyfodol posibl
  • ymgysylltu'n feirniadol ag amrywiaeth o athroniaethau crefyddol ac anghrefyddol gan archwilio cydgysylltiad mewn bywyd, yn ogystal â natur a dealltwriaeth bodau dynol oddi mewn iddo.
Lles, Hunaniaeth a Chynhwysiant

Camau Cynnar

Gall dysgwyr:

  • fod yn ymwybodol o'u profiadau a'u teimladau eu hunain pan fyddan nhw’n cymryd rhan mewn gweithgareddau gydag eraill
  • cydnabod bod gan bobl eraill brofiadau a theimladau hefyd, a bod y rheiny’n debyg ac yn wahanol i'w profiadau a'u teimladau nhw
  • dangos chwilfrydedd am fywydau pobl eraill.

Ymhellach Ar Hyd y Daith

Gall dysgwyr:

  • archwilio sut y gall gweithredu olygu ymroddiad ac aberth sylweddol (yn y gorffennol a'r presennol) a chael effaith fawr ar fywydau a llesiant pobl eraill ac ar y byd ehangach.
  • adnabod cysylltiadau rhwng gweithredoedd a hunaniaeth, gan gynnwys dylanwadau crefyddol ac anghrefyddol
  • adnabod annhegwch ac anghydraddoldeb yn eu bywydau personol eu hunain ac mewn cymdeithas yn ehangach, ac awgrymu heriau priodol.

Yn Ddiweddarach

Gall dysgwyr:

  • ystyried yn feirniadol sut bethau yw cydberthnasau iach a beth yw eu cyfraniad at lesiant, gan gyfeirio at amrywiaeth o safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol
  • deall a gwerthuso cydberthnasau rhwng hunaniaeth bersonol a hunaniaeth grŵp berthnasol.

Dull Enghreifftiol

Mae'r adran hon yn darparu enghreifftiau o ffyrdd y gellid datblygu taith ddysgu blwraliaethol. Gallai'r daith ddechrau ar unrhyw gam ac ni ddylid ei chyfyngu i'r enghreifftiau a roddir. Anogir cwestiynau er mwyn hwyluso datblygiad sy'n cael ei ddylanwadu gan y dysgwr.

Mae pob enghraifft yn ymwneud â cham datblygu penodol ond dylid ei haddasu yn unol â gofynion dysgwyr.

road with signs

Ymhellach Ar Hyd y Daith

Cydberthynas a Chyfrifoldeb - Ymhellach Ar Hyd y Daith
Cydberthynas a Chyfrifoldeb - Ymhellach Ar Hyd y Daith
Pa gydberthnasau sydd gan bobl ag argyhoeddiadau anghrefyddol ac athronyddol?
  • Sut maen nhw'n gofalu am eraill?
  • Beth sy'n eu helpu i fyw mewn cytgord ag eraill?
  • Pa ganllawiau fyddan nhw'n eu dilyn i'w helpu i ddatrys problemau?
Pa berthynas sydd gan Hindŵiaid â Duw/duwiau? Sut mae hyn yn effeithio ar eu ffordd o drin eraill yn eu bywyd bob dydd?

A oes gan Hindŵiaid Reol Euraid?

Mae Sikhiaid yn credu mewn gofalu am eraill. Sut mae hyn yn cael ei amlygu yn eu bywydau? Trafodwch gred Guru Nanak (sylfaenydd Sikhiaeth) ym mhwysigrwydd gofalu am bawb. Ymchwiliwch i gegin gymunedol Langar mewn Gurdwara.

A yw Sikhiaid yn byw yn unol â Rheol Euraid sy'n eu helpu i ddatrys eu gwahaniaethau?

Pa gydberthnasau sy'n bwysig i Gristnogion?

Moses fel babi (Exodus 2) – beth yw'r neges am gariad mamau yn y stori hon?

Sut mae Cristnogion yn byw'n hapus gyda'i gilydd? Pa reolau maen nhw'n eu dilyn? – gorchymyn mawr Iesu i garu Duw a charu ein gilydd. (Rheol Euraid)

Trafodwch sut mae Cristnogion yn trin ei gilydd, gan gynnwys yn ystod cyfnodau anodd a heriol. Sut mae Cristnogion yn ymdrin â chenfigen?

  • Stori Joseff a'i frodyr cenfigennus (Genesis).
  • Mae Cristnogion yn gweld Duw fel Tad – gweler stori'r Mab Afradlon. (Luc 15:11-32)
  • Mae Iesu yn cyfeirio at Dduw fel Mam hefyd – gweler adnod yr iâr. (Mathew 23:37/Luc 13:34)
…mor aml y dymunais gasglu dy blant ynghyd, fel y mae iâr yn casglu ei chywion dan ei hadenydd... (cyfeiriad at Dduw fel Mam)