English
Oherwydd myfi sy'n gwybod fy mwriadau a drefnaf ar eich cyfer,’ medd yr ARGLWYDD, ‘bwriadau o heddwch, nid niwed, i roi ichwi ddyfodol gobeithiol.
Jeremeia 29:11

Mae'r daith ddysgu ar gyfer y lens hon yn seiliedig ar ddau ddatganiad o'r hyn sy'n bwysig yn bennaf: "Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth a chânt eu hamgyffred, eu dehongli a'u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd" ac "Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl." Gellir archwilio cysylltiadau gyda datganiadau eraill o'r hyn sy'n bwysig, ynghyd â meysydd dysgu a phrofiad eraill drwy'r is-lens hon hefyd.

Canllawiau ar yr Is-Lens

Cwestiynau Dyfnach Bywyd

Camau Cynnar

Gall dysgwyr:

  • ofyn cwestiynau dyfnach amdanyn nhw eu hunain ac eraill, ac am y byd naturiol a'r pethau byw o'u cwmpas (e.e. Pwy ydw i? Pam mae pethau'n marw?), yn ogystal â gwrando ar farn pobl eraill
  • dechrau gofyn cwestiynau dyfnach am greu'r byd a dysgeidiaeth Feiblaidd
  • dechrau cysylltu dysgeidiaeth crefyddau eraill a bydolygon anghrefyddol.

Ymhellach Ar Hyd y Daith

Gall dysgwyr:

  • gasglu a thrafod mewnwelediad crefyddol ac anghrefyddol ac ystyried eu barn, eu safbwyntiau a'u dehongliadau eu hunain, a rhai pobl eraill, mewn ffordd fwyfwy soffistigedig.
  • dechrau ystyried y tebygrwydd rhwng safbwyntiau gwyddonol a’r creu
  • archwilio cwestiynau mawr fel pam rydyn ni yma, beth sy'n digwydd pan fyddwn ni'n marw
  • datblygu eu cwestiwn mawr eu hunain mewn ymateb i'w taith ddysgu.

Yn Ddiweddarach

Gall dysgwyr:

  • ddeall y gellir trafod a gwerthuso materion yn ymwneud â gwirionedd, ystyr, pwrpas a gwerth wrth i ddysgwyr ystyried amrywiaeth o gwestiynau heriol am y materion hyn yn ddyfnach (er enghraifft bodolaeth dda a drwg, natur dioddefaint, defnyddio cyfoeth)
  • deall enghreifftiau o ddysgeidiaeth Feiblaidd a gwneud cymariaethau â chrefyddau eraill ac argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol
  • deall bod ymatebion i gwestiynau o'r fath yn gymhleth, ac nad ydyn nhw'n gyflawn nac yn bendant yn aml
  • deall safbwyntiau yn ymwneud ag ewyllys rydd a phenderfyniaeth o safbwynt Cristnogol yn ogystal ag o safbwyntiau ystod o argyhoeddiadau athronyddol crefyddol ac anghrefyddol.
Dylanwad, Parhad a Newid

Camau Cynnar

Gall dysgwyr:

  • ddechrau gwybod a mynegi'r hyn y maen nhw'n ei hoffi a'r hyn nad ydyn nhw'n ei hoffi, yr hyn sy'n eu gwneud yn hapus ac yn drist, a'u gobeithion a'u dyheadau ar gyfer y dyfodol, yn ogystal ag ymateb i syniadau pobl eraill.

Ymhellach Ar Hyd y Daith

Gall dysgwyr:

  • adnabod a thrafod mewnwelediad crefyddol ac anghrefyddol mewn perthynas â theimladau ac anghenion bodau dynol, gan gynnwys yr hyn sy'n dylanwadu arnyn nhw a'r ffyrdd y caiff y pethau hynny eu mynegi yn eu bywydau nhw eu hunain ac ym mywydau pobl eraill.
  • dechrau deall sut mae ffydd yn dylanwadu ar deimladau a gweithredoedd.

Yn Ddiweddarach

Gall dysgwyr:

  • adnabod parhad a newid mewn ymateb i gwestiynau am ystyr a phwrpas mewn bywyd, yn eu bywydau eu hunain ac mewn cymdeithas a diwylliant, ar adegau gwahanol ac mewn lleoedd gwahanol
  • gwerthuso gwerthoedd a syniadau cyfoes perthnasol mewn perthynas â hunanwerth o safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol
  • adnabod sut mae ffydd, gan gynnwys bywyd a dysgeidiaeth Iesu, yn dylanwadu ar hunan-werth.
Ymdrechion a Chyfraniadau Bodau Dynol

Camau Cynnar

Gall dysgwyr:

  • ddechrau dangos ymwybyddiaeth o'r bobl a'r ‘syniadau mawr’ sydd wedi llywio eu hardaloedd lleol a'u bywydau bob dydd
  • dechrau dangos ymwybyddiaeth o bobl allweddol a syniadau mawr yn y Beibl
  • dechrau dangos ymwybyddiaeth o sut mae bywyd a dysgeidiaeth Iesu yn dylanwadu ar ein bywydau bob dydd.

Ymhellach Ar Hyd y Daith

Gall dysgwyr:

  • ddychmygu a thrafod yr hyn y gallan nhw ei gyfrannu nawr ac yn y dyfodol, a dod yn fwyfwy ymwybodol o'r berthynas rhwng dyhead a’r hyn sy’n digwydd yn ymarferol, gan ystyried amrywiaeth o gyfraniadau o ffynonellau crefyddol ac anghrefyddol ar yr un pryd
  • trafod sut y gall dysgeidiaeth Iesu gyfrannu at ddewis a gweithredoedd yn y dyfodol.

Yn Ddiweddarach

Gall dysgwyr:

  • wneud cysylltiadau cynyddol gymhleth rhwng agweddau ar iechyd a lles, anghenion a gofynion y byd sydd ohoni, a'u hymdrechion nhw eu hunain i chwilio am ystyr a phwrpas
  • archwilio delweddau crefyddol o bob cwr o'r byd a dechrau deall gwahaniaeth diwylliannol.

Dull Enghreifftiol

Mae'r adran hon yn darparu enghreifftiau o ffyrdd y gellid datblygu taith ddysgu blwraliaethol. Gallai'r daith ddechrau ar unrhyw gam ac ni ddylid ei chyfyngu i'r enghreifftiau a roddir. Anogir cwestiynau er mwyn hwyluso datblygiad sy'n cael ei ddylanwadu gan y dysgwr.

Mae pob enghraifft yn ymwneud â cham datblygu penodol ond dylid ei haddasu yn unol â gofynion dysgwyr.

road with signs

Ymhellach Ar Hyd y Daith

Chwilio am Ystyr a Phwrpas - Ymhellach Ar Hyd y Daith
Chwilio am Ystyr a Phwrpas - Ymhellach Ar Hyd y Daith
Beth yw priodweddau pwysig arweinydd? Pwy yw ein harweinwyr? Pa fath o bethau maen nhw'n dylanwadu arnyn nhw ac yn eu newid? A yw pob arweinydd yn gwneud y peth iawn bob amser?
  • Beth allwn ni ei wneud pan nad ydyn nhw'n gwneud y peth iawn?
  • Sut allwn ni arwain? Pam rydyn ni'n dilyn?

Trafod rôl Comisiynydd Plant Cymru.

Ystyried cyfrifoldeb y Comisiynydd dros ddiogelu hawliau plant a'r hyn y mae hynny'n ei olygu i gymunedau a phlant ledled Cymru.

  • Pam mae rôl y Comisiynydd yn bwysig?
  • Pa fath o berson sy'n gwneud Comisiynydd da?
  • Beth rydym yn ei wneud pan rydym yn credu nad yw ein harweinwyr yn gwneud y peth iawn?
Beth allwn ni ei ddysgu am y proffwydi yn Islam a'u harweinyddiaeth?

Pa enghraifft o arweinyddiaeth allai rhai Mwslimiaid gyfeirio ati?

Y proffwydi - Duw ac awdurdod yn Islam - GCSE Religious Studies Revision - Edexcel - BBC Bitesize

Pa debygrwydd sydd rhwng arweinwyr Cristnogol yn y Beibl a'r proffwydi?

Gall enghreifftiau gynnwys:

  • Ibrahim
  • Isa
  • Musa
  • Dawud

Beth yw'r tebygrwydd i'r arweinwyr yn y Beibl y gallai Cristnogion gyfeirio ato?

Pa arweinwyr Mwslimaidd sy'n ein hysbrydoli? Sut maen nhw'n gwneud i ni feddwl am ein dewisiadau ar gyfer y dyfodol?

Gall arweinwyr ddewis edrych ar bobl fel Malala Yousafzai neu Dr Hany El Banna.

Pa enghreifftiau o arweinyddiaeth allai rhai Cristnogion gyfeirio atyn nhw?

Beth yw effaith yr unigolyn hwn ar gymuned neu grŵp?

Darllenwch stori Moses yn y Beibl. Cyfeiriwch at ddarnau o Exodus.

Nodwch wahanol adegau allweddol yn ei fywyd. Trafodwch y priodweddau a ddangosodd Moses mewn sefyllfaoedd gwahanol. Sut wnaeth Moses ddylanwadu ar newid?

A lwyddodd Moses i wneud y peth iawn bob amser? Sut oedd Moses yn gwybod beth y dylai ei wneud? Darllenwch stori'r berth yn llosgi.

  • At bwy y gallai Cristnogion droi am arweiniad?
  • Pa arweinwyr Cristnogol sy'n ein hysbrydoli? Sut maen nhw'n gwneud i ni feddwl am ein dewisiadau ar gyfer y dyfodol?

Gallai dysgwyr ddewis edrych ar arweinwyr Cristnogol presennol fel eu harweinwyr eglwys lleol neu'r Esgob lleol, neu feddwl am arweinwyr fel yr Archesgob Desmond Tutu neu Martin Luther King Jr.