English
Chwi yw goleuni'r byd. Ni ellir cuddio dinas a osodir ar fryn. Ac nid oes neb yn goleuo cannwyll ac yn ei rhoi dan lestr, ond yn hytrach ar ganhwyllbren, a bydd yn rhoi golau i bawb sydd yn y tŷ. Felly boed i'ch goleuni chwithau lewyrchu gerbron eraill, er mwyn iddynt weld eich gweithredoedd da chwi a gogoneddu eich Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd.
Matthew 5:14-16

Mae'r daith ddysgu hon yn seiliedig ar dri datganiad o'r hyn sy'n bwysig yn bennaf: ‘Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth a chânt eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd', 'Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw'n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl' ac 'Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol’. Gellir archwilio cysylltiadau gyda datganiadau eraill o'r hyn sy'n bwysig, ynghyd â Meysydd eraill, drwy'r is-lens hon hefyd.

Canllawiau ar yr Is-Lens

Awdurdodau a Dylanwadau

Camau Cynnar

Gall dysgwyr:

  • ddechrau sylweddoli bod rhai pobl bwysig yn dylanwadu arnyn nhw, a bod hyn yn effeithio ar y ffordd y maen nhw’n teimlo, yn meddwl ac yn ymddwyn
  • dechrau adnabod arweinwyr Cristnogol a'u swyddogaeth mewn cymunedau eglwysig a ffydd
  • dechrau adnabod pobl bwysig yn y Beibl a sut roedden nhw'n dylanwadu ar eraill.

Ymhellach Ar Hyd y Daith

Gall dysgwyr:

  • drafod yr hyn sy’n gallu ffurfio hunaniaeth (er enghraifft, cydberthnasau, ffyrdd o fyw, credoau a lle) a'r ffordd y mae'r rhain yn dylanwadu ar bobl a'u cymunedau
  • adnabod ac archwilio gwahanol ffynonellau awdurdod mewn cyd-destunau crefyddol ac anghrefyddol (er enghraifft, arweinwyr, cydberthnasau, testunau, codau ymddygiad a thraddodiadau).
  • deall bod ffynonellau awdurdod yn dylanwadu ar fywydau pobl mewn amrywiaeth o ffyrdd
  • deall swyddogaeth arweinwyr ffydd yn eu cymuned
  • archwilio beth allai 'pwrpas' neu "alwedigaeth" ei olygu i bobl llawn ffydd
  • adnabod gwahanol fathau o arweinwyr y Beibl a sut roedden nhw'n dylanwadu ar eraill
  • trafod dylanwad Iesu ar fywydau'r bobl yr oedd yn eu cyfarfod.

Yn Ddiweddarach

Gall dysgwyr:

  • ddadansoddi a gwerthuso cydberthnasau cymhleth sy'n bodoli ymhlith ac ar draws ffynonellau awdurdod (yn cynnwys eu rhai nhw eu hunain)
  • ystyried yn feirniadol awdurdod profiad a chydwybod grefyddol ac ysbrydol, yn y gorffennol a'r presennol, a'u heffaith ar bobl, cymdeithas a diwylliant
  • ymgysylltu ag arweinwyr a chyrff crefyddol gan ofyn cwestiynau priodol am eu rôl/credoau/teithiau ffydd er mwyn gwella dealltwriaeth
  • Astudio addoldai yn eu cynefin a rôl yr arweinydd/swyddogion.
Profiadau a Dehongliadau

Camau Cynnar

Gall dysgwyr:

  • ddechrau dod yn ymwybodol o ddylanwadau pwysig ym mywydau pobl eraill, a'r ffaith bod eu profiadau'n debyg ac yn wahanol i'w profiadau eu hunain.

Ymhellach Ar Hyd y Daith

Gall dysgwyr:

  • archwilio'r ffaith y caiff ffynonellau awdurdod eu dehongli mewn ffyrdd gwahanol gan bobl a grwpiau amrywiol, o fewn cyd-destunau crefyddol ac anghrefyddol
  • adnabod dylanwadau ar ddehongliadau a bod rhai ffynonellau awdurdod yn fwy dylanwadol nag eraill i wahanol bobl, grwpiau a chymdeithasau
  • archwilio ffynonellau awdurdod mewn Cristnogaeth
  • deall sut mae'r Beibl yn ffynhonnell awdurdod i Gristnogion a pham
  • deall sut mae grwpiau gwahanol o fewn Cristnogaeth yn dehongli'r Beibl yn wahanol.

Yn Ddiweddarach

Gall dysgwyr:

  • ddefnyddio sawl ffynhonnell awdurdod i werthuso dehongliadau crefyddol ac anghrefyddol o faterion sy'n berthnasol i'r cyflwr dynol, a gallan nhw gyflwyno eu safbwyntiau gwybodus eu hunain
  • ystyried yn feirniadol sut a pham y gall profiadau a chysyniadau o awdurdod newid dros amser.
Dewisiadau a Gweithredoedd

Camau Cynnar

Gall dysgwyr:

  • ddeall y gall dewisiadau effeithio ar eu gweithredoedd
  • dangos ymwybyddiaeth o ddylanwadau ar eu dewisiadau
  • dangos ymwybyddiaeth o sut mae Cristnogion yn cael eu harwain gan ddysgeidiaeth Iesu.

Ymhellach Ar Hyd y Daith

Gall dysgwyr:

  • sylweddoli sut mae pobl a chymunedau'n defnyddio ffynonellau crefyddol ac anghrefyddol o awdurdod i'w harwain yn eu bywydau a llywio penderfyniadau pwysig
  • deall sut mae cymunedau Cristnogol yn defnyddio'r Beibl i'w harwain
  • deall swyddogaeth arweinwyr yr eglwys wrth gefnogi ac arwain Cristnogion.

Yn Ddiweddarach

Gall dysgwyr:

  • ddefnyddio eu gwybodaeth am amrywiaeth o ffynonellau awdurdod, a'u dealltwriaeth ohonyn nhw, i ymgysylltu'n feirniadol â materion neu drafodaethau moesegol cyfoes, a dylanwadu ar weithredoedd a chanlyniadau posibl (er enghraifft, her, consensws a chymodi).

Dull Enghreifftiol

Mae'r adran hon yn darparu enghreifftiau o ffyrdd y gellid datblygu taith ddysgu blwraliaethol. Gallai'r daith ddechrau ar unrhyw gam ac ni ddylid ei chyfyngu i'r enghreifftiau a roddir. Anogir cwestiynau er mwyn hwyluso datblygiad sy'n cael ei ddylanwadu gan y dysgwr.

Mae pob enghraifft yn ymwneud â cham datblygu penodol ond dylid ei haddasu yn unol â gofynion dysgwyr.

road with signs

Ymhellach Ar Hyd y Daith

Awdurdod a Dylanwad - Ymhellach Ar Hyd y Daith
Awdurdod a Dylanwad - Ymhellach Ar Hyd y Daith
Pam y byddai Sefydliad Iechyd y Byd, fel sefydliad dyngarol, yn ystyried bod llesiant byd-eang yn bwysig?

Pa reolau neu ganllawiau sy'n sylfaen i fywyd pobl sy'n ddyngarol?

Mae egwyddorion dyngarwch, niwtraliaeth, didueddrwydd ac annibyniaeth yn hanfodol i weithredu dyngarol.

Ystyriwch beth oedd yn digwydd yn fyd-eang pan sefydlwyd y Cenhedloedd Unedig a pha effaith y mae gwaith y sefydliad hwn wedi’i gael ar y byd heddiw. Beth yw'r symbolaeth yn logo'r Cenhedloedd Unedig?

Daeth y Cenhedloedd Unedig at ei gilydd i greu rheolau ar gyfer byw. Roedd y rheolau hyn yn cynnwys sefydlu sefydliad iechyd byd-eang a elwir yn Sefydliad Iechyd y Byd. Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn diffinio iechyd fel cyflwr o lesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol llwyr, ac nid dim ond absenoldeb clefyd neu wendid.

Trafodwch y datganiad hwn a'r hyn y mae'n ei olygu. Gwerthuswch pam y byddai Sefydliad Iechyd y Byd fel sefydliad dyngarol yn ystyried bod llesiant byd-eang yn bwysig?

Beth yw'r rheolau neu'r canllawiau sy'n sylfaen i fywyd pobl o grefyddau eraill?

Y Torah a'r Tenakh yw'r prif ffynonellau doethineb ac arweiniad y mae Iddewon yn myfyrio arnyn nhw er mwyn gwella eu perthynas â Duw a byw bywydau da.

Mae'r Tenakh yn destun sanctaidd mewn Iddewiaeth ac mae'n cael ei ddisgrifio fel y Beibl Hebraeg. Mae Iddewon yn cyfeirio at y testun hwn fel y gyfraith ysgrifenedig. Mae'r Torah yn rhan o'r Tenakh. Meddyliwch am arwyddocâd Shavuot - dathliad o ail gyfamod Duw â'r holl bobl Iddewig ar Fynydd Sinai. Mae perthynas Iddewon â Duw yn berthynas gyfamod. Ewch ati i archwilio a dehongli ystyr hyn.

Pa weddïau arbennig sy'n cael eu defnyddio mewn Iddewiaeth?

Mae'r Shema yn weddi arbennig sydd wedi'i hysgrifennu yn y Torah. Mae pobl Iddewig yn adrodd y Shema bob bore a phob gyda'r nos i'w helpu i glywed a siarad â Duw.

Astudiwch arwyddocâd y Shema i Iddewiaeth. Mae mezuzah yn dal y Shema ar gatiau a fframiau drysau – pam mae hyn yn bwysig a beth mae hyn yn ei symboleiddio?

Beth yw'r rheolau neu'r canllawiau sy'n sylfaen i fywyd Cristnogion? O ba ffynonellau y mae Cristnogion yn dod o hyd i ganllawiau i lywio eu bywydau?

Mae rhai Cristnogion yn ceisio cael arweiniad gan y Beibl a'i ddefnyddio i gryfhau eu perthynas bersonol â Duw. I lawer o Gristnogion, mae'r berthynas rhwng pobl a Duw yn cael ei disgrifio weithiau fel y berthynas rhwng plentyn a rhiant.

Pa weddïau sy'n bwysig i Gristnogion a pham?

‘Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd', yw llinell gyntaf y weddi Gristnogol, 'Gweddi'r Arglwydd’. Yn yr iaith Aramaeg (yr iaith yr oedd Iesu yn ei siarad), mae 'abba' yn golygu 'tad' mewn ffordd y byddai plentyn ddim ond yn siarad â'i "dad" ei hun. Mae 'Gweddi'r Arglwydd' yn Nhestament Newydd y Beibl, yn efengylau Mathew a Luc.

Mewn faint o ieithoedd gwahanol y mae Gweddi'r Arglwydd yn cael ei hadrodd?

Roedd yr Iesu yn addysgu Gweddi'r Arglwydd i'w ddilynwyr, ac mae'n un o'r gweddïau mwyaf poblogaidd a ddefnyddir gan lawer o Gristnogion ledled y byd. Mae'n cael ei hadrodd mewn llawer o ieithoedd gwahanol.

Dadansoddwch ystyr 'Gweddi'r Arglwydd'. Pam mae geiriau'r weddi hon yn bwysig i rai Cristnogion? Eglurwch sut y gallai perthynas â Duw effeithio ar sut y gall Cristnogion ddewis byw eu bywydau.

Beth yw ein cyfrifoldebau?

Mae Testament Newydd y Beibl yn esbonio i Gristnogion sut y daeth Duw i fyw yn eu plith yn y pen draw ar ffurf yr Iesu, fel y gallai Ef addysgu pobl sut i fyw yn gyfrifol.