Hyfforddiant Diogelu

Cymuned Gristnogol iach yw un sy’n sicrhau ac yn meithrin lles pawb. Rhaid i ddiogelu fod wedi’i sefydlu ym mhob agwedd ar fywyd a gweinidogaeth yr Eglwys, ac mae hyfforddiant a datblygiad ar ddiogelu yn yr Eglwys yng Nghymru yn cael eu cyflwyno yn y cyd-destun hwn.
Bydd yr hyfforddiant a dderbyniwch yn eich galluogi chi a’ch eglwys i ymgymryd yn gadarnhaol ag amddiffyn plant, pobl ifanc ac oedolion bregus mewn modd ymarferol a deallus.
Mae’r hyfforddiant wedi’i gynllunio a’i gyflwyno gan hyfforddwyr profiadol a medrus sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod yr Eglwys yn lle diogel a chroesawgar i bawb. Maen nhw hefyd yn deall gofynion statudol diogelu plant ac oedolion, a sut mae’r rhain yn cael eu gweithredu yng nghyd-destun yr Eglwys yng Nghymru.
Mae sesiynau hyfforddiant bellach ar gael. Gallwch fynychu unrhyw rai o’r sesiynau yn unrhyw Esgobaeth, ond bydd angen i chi ddewis B1 ynghyd â B2 i gwblhau’r hyfforddiant. Dim ond unwaith bob tair blynedd y bydd angen diweddaru’r hyfforddiant.
Mae’r sesiynau hyn ar gyfer pawb sy’n dal swydd eglwysig, neu’n dal trwydded/PTO/comisiwn gan Esgob yr Esgobaeth (boed yn lleyg neu’n ordeiniedig), ar gyfer y rhai sy’n rhedeg Ysgol Sul neu glybiau Ieuenctid, Organyddion/Cyfarwyddwr Cerdd – pawb sydd angen tystysgrif DBS uwch.
Rhaid archebu eich sesiwn hyfforddi. Pan fyddwch yn llenwi'r ffurflen, ychwanegwch ddyddiad ac enw'r cwrs. Sicrhewch eich bod wedi dewis dwy ran y cwrs os oes angen.
Dyddiad | Dydd | Amser | Lleoliad | Esgobaeth | Cwrs |
---|---|---|---|---|---|
06/07/2022 | Dydd Mercher | 11:00 - 13:30 | Eglwys St Martin's, Llay | Llanelwy | B1 |
Dyddiad | Dydd | Amser | Lleoliad | Esgobaeth | Cwrs |
---|---|---|---|---|---|
13/07/2022 | Dydd Mercher | 12.00-14.30 | Felinfoel Llanelli | Tyddewi | B1 |
14/07/2022 | Dydd Iau | 11:00 - 13:30 | Ystafell fwrdd, Swyddfeydd yr Esgobaeth, Abergwili | Tyddewi | B2 |
20/07/2022 | Dydd Mercher | 12.00-14.30 | Felinfoel Llanelli | Tyddewi | B2 |
27/07/2022 | Dydd Mercher | 11:00 - 15:30 | Ystafell fwrdd, Swyddfeydd yr Esgobaeth, Abergwili | Tyddewi | B2 |
28/07/2022 | Dydd Iau | 11:00 - 13:30 | Ystafell fwrdd, Swyddfeydd yr Esgobaeth, Abergwili | Tyddewi | B2 |
27/07/2022 | Dydd Mercher | 11:00 - 15:30 | Ystafell fwrdd, Swyddfeydd yr Esgobaeth, Abergwili | Tyddewi | B2 |
Dyddiad | Dydd | Amser | Lleoliad | Esgobaeth | Cwrs |
---|---|---|---|---|---|
06/07/2022 | Dydd Mercher | 13:00 - 15:30 | Swyddfa’r Esgobaeth, Casnewydd | Mynwy | B1 |
20/07/2022 | Dydd Mercher | 13:00 - 15:30 | Swyddfa’r Esgobaeth, Casnewydd | Mynwy | B2 |
Dyddiad | Dydd | Amser | Lleoliad | Esgobaeth | Cwrs |
05/07/2022 | Dydd Mawrth | 13:00 - 15:30 | Neuadd Eglwys Nolton | Llandaf | B1 |
13/07/2022 | Dydd Mercher | 13:00 - 15:30 | Ystafell fwrdd, Sgwâr Callaghan | Llandaf | B2 |
19/07/2022 | Dydd Mawrth | 13:00 - 15:30 | Neuadd Eglwys Nolton | Llandaf | B2 |
30/07/2022 | Dydd Sadwrn | 09:30 - 12:00 | Eglwys Sant German, Y Rhath | Llandaf | B1 |
30/07/2022 | Dydd Sadwrn | 13:00 - 15:30 | Eglwys Sant German, Y Rhath | Llandaf | B2 |
Dyddiad | Dydd | Amser | Lleoliad | Esgobaeth | Cwrs |
---|---|---|---|---|---|
06/07/2022 | Dydd Mercher | 11:30 - 14:00 | Canolfan Sant Francis, Eglwys y Drindod Sanctaidd, Llandrindod | Abertawe ac Aberhonddu | B2 |
07/07/2022 | Dydd Iau | 11:00 - 13:30 |
Swyddfa Esgobaethol Aberhonddu |
Abertawe ac Aberhonddu | B1 |
21/07/2022 | Dydd Iau | 11:00 - 13:30 |
Swyddfa Esgobaethol Aberhonddu |
Abertawe ac Aberhonddu | B2 |
Dyddiad | Dydd | Amser | Lleoliad | Esgobaeth | Cwrs |
---|---|---|---|---|---|
11/07/2022 | Dydd Llun | 14.00-16.30 | Neuadd Eglwys y Santes Fair, Betws-y-coed | Bangor | B2 |
04/07/2022 | Dydd Llun | 10.00-12.30 | Neuadd Eglwys y Santes Fair, Betws-y-coed | Bangor | B1 |
Modiwl A: Cwrs Ymwybyddiaeth o Ddiogelu
Nid yw cwrs Modiwl A, Ymwybyddiaeth o Ddiogelu, ar gael ar hyn o bryd gan ein bod wedi bod yn adolygu ac yn ail-ysgrifennu’r cwrs, er mwyn iddo fod yn gyfredol ac yn addas i'r diben. Bydd y modiwl A newydd ar gael yn fuan. Wrth i ni aros i’r cwrs hwnnw gael ei gwblhau, rydym yn dal i gyflwyno modiwl B, sy’n rhoi sylw i fwy o hyfforddiant sy'n benodol i ddiogelu o fewn cyd-destun eglwysig ac yn cynnwys yr hyn sy'n berthnasol o Fodiwl A. Ni fydd peidio â chwblhau Modiwl A yn rhwystr i ddilyn Modiwl B yn ystod y cyfnod hwn.