Hafan Ar gyfer clerigion ac aelodau Diogelu Hyfforddiant Diogelu Ymwybyddiaeth o Ddiogelu yr Eglwys yng Nghymru Modiwl A

Ymwybyddiaeth o Ddiogelu yr Eglwys yng Nghymru Modiwl A

Cyflwyno'r cwrs

Mae cwrs Ymwybyddiaeth o Ddiogelu yr Eglwys yng Nghymru wedi’i anelu at bob un ohonom o fewn ein cymunedau Eglwysig, gyda’r nod o’ch harfogi chi i helpu gwneud yr eglwys – a chadw’r eglwys – yn fan diogel.

Mae diogelu yn greiddiol i fywyd yr eglwys, yn greiddiol i genhadaeth a gofal fugeiliol, ac mae’n ymwneud cymaint â diwinyddiaeth, yr ysgrythur a gweinidogaeth ag y mae’n ymwneud â’r gyfraith.

Mae wyth sesiwn yn rhan o’r cwrs hwn:

  1. Cyflwyniad
  2. Beth yw Diogelu?
  3. Diogelu a’r Efengyl
  4. Pwy sydd mewn perygl (Plant ac Oedolion)
  5. Mathau o gamdriniaeth
  6. Cyd-destunau risg eraill
  7. Beth i wneud os (& Cyfrinachedd)
  8. Casgliad

Mae gan y cwrs hwn Amcanion Dysgu penodol. Golyga’r rhain y byddwch, o gwblhau’r cwrs, yn gallu:

  • Esbonio’r term Diogelu ac arddangos dealltwriaeth sylfaenol o’r cyfreithiau sy’n ymwneud â diogelu.
  • Deall diogelu yng nghyd-destun yr eglwys.
  • Adnabod arwyddion o wahanol fathau o niwed, camdriniaeth ac esgeulustod o blant ac oedolion mewn perygl.
  • Arddangos sut caiff unigolion eu gwarchod rhag niwed, camdriniaeth ac esgeulustod.
  • Adnabod eich rôl chi eich hun mewn perthynas â diogelu a’i bod yn ddyletswydd arnoch i adrodd ynghylch pryderon.
  • Gwybod pa gamau i’w cymryd os byddwch yn dyst i gamdriniaeth neu os bydd rhywun yn dweud wrthoch am gamdriniaeth.
  • Adnabod ffiniau cyfrinachedd.