Diogelu
... mae'n gyfrifoldeb ar bawb

Gelwir ar bobl Gristnogol i fyw fel disgyblion i Iesu Grist sy'n golygu y dylent drin, parchu ac amddiffyn y rhai sy'n agored i niwed fel y byddai yntau. Siaradodd Iesu'n aml am yr angen i amddiffyn a gofalu am blant, gan atgoffa eraill bod unrhyw un a fyddai'n achosi niwed a dioddefaint i rai diniwed fel hynny'n haeddu cael eu condemnio. Roedd hefyd yn chwilio am oedolion a oedd yn agored i niwed am ryw reswm neu'i gilydd, yn gofalu amdanynt ac yn gweinidogaethu iddynt. Gelwir ar Gristnogion unigol a'r Eglwys fel sefydliad i adlewyrchu'r un rhinweddau ac i fyw yn ôl yr un egwyddorion hyn.
Am y rhesymau hyn, mae'r Eglwys yng Nghymru wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau'r safonau ymddygiad uchaf yn ei gwaith gyda phlant ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae gennym ddyletswydd i amddiffyn pob un o'r unigolion hynny sy'n aelodau o'r Eglwys, ac eraill sydd, am ba reswm bynnag, yn dod atom, a rhaid i'n heglwysi fod yn fannau diogel lle nad oes neb yn cam-fanteisio arnynt nac yn eu niweidio mewn unrhyw ffordd o gwbl. Rhaid inni fod yn wyliadwrus er mwyn sicrhau bod ein gwaith gyda nhw'n darparu'r lefel o ofal ac amddiffyn y mae ganddynt hawl i'w disgwyl.
Ategir y gwaith hwn gan ein polisi diogelu, dogfen fyw a gaiff ei hadnewyddu a'i diweddaru'n rheolaidd wrth i anghenion godi ac sy'n nodi fframwaith ac arweiniad i bawb sy'n arfer gweinidogaeth gyda phobl ifanc a phobl sy'n agored i niwed.
Gobeithiaf y bydd yn galluogi pawb sy'n ymwneud â diogelu ar draws yr Eglwys yng Nghymru i arfer cyfrifoldeb cariadus, gofalgar a chefnogol yn y maes hollbwysig hwn o fywyd yr eglwys.
Archesgob Cymru
Polisi Diogelu Taleithiol yr Eglwys yng Nghymru
I lawrlwytho copi o Bolisi Diogelu yr Eglwys yng Nghymru, y Poster Polisi a'r gweithdrefnau Gweithredol a'r canllawiau ymarfer, ewch i: