English

Daeth aelodau Undeb y Mamau o bob rhan o Ogledd-orllewin Cymru ynghyd yng Nghadeirlan Bangor ddydd Sul 9 Awst i ddathlu 150 mlynedd ers sefydlu’r mudiad.

Cynhaliwyd y gwasanaeth ar Ddydd Mary Sumner, pan fydd aelodau Undeb y Mamau ledled y byd yn cofio ac yn dathlu sylfaenydd y mudiad, Mary Sumner.

Yn ystod y gwasanaeth, derbyniwyd Undeb y Mamau Esgobaeth Bangor yn aelod o Gymuned Croes yr Hoelion, rhwydwaith Cristnogol byd-eang o eglwysi, elusennau, caplaniaethau ac ysgolion sydd wedi ymrwymo i adeiladu heddwch a hyrwyddo cymod.

Tyfodd Cymuned Croes yr Hoelion o ymrwymiad Cadeirlan Coventry i faddeuant a chymod yn dilyn dinistrio’r gadeirlan yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae ei haelodau’n cydweithio i wella briwiau hanes, dysgu byw gyda gwahaniaeth a meithrin diwylliant o gyfiawnder a heddwch. 

Ymunodd elusen ganolog Undeb y Mamau â Chymuned Croes yr Hoelion yn 2018. Mae derbyn Undeb y Mamau Esgobaeth Bangor yn aelod yn adlewyrchu’r pwyslais ar heddwch a chymod sydd wedi bod yn ganolog i flwyddyn 150 mlwyddiant Undeb y Mamau yng Nghymru.

Dywedodd Sue Rivers, Llywydd Undeb y Mamau yng Nghymru: “Mae Croes yr Hoelion yn symbol grymus ac ysbrydoledig o heddwch a maddeuant ledled y byd, ac rwy’n falch iawn bod Undeb y Mamau Esgobaeth Bangor wedi cael ei dderbyn i’r gymuned bwysig hon.”

Cyflwynwyd Croes yr Hoelion yn ystod y gwasanaeth gan y Canon Kate Massey o Gadeirlan Coventry, a oedd yn bregethwr gwadd. Bydd y groes yn cael ei gosod yn y Gadeirlan, lle bydd ymwelwyr yn cael eu gwahodd i dreulio amser yn gweddïo dros heddwch a chymod.

Dywedodd y Parchedicaf Dr Manon Ceridwen James, Deon Cadeirlan Bangor a darpar Esgob Bangor: “Ers 150 mlynedd, mae Undeb y Mamau wedi troi ffydd yn ofal ymarferol i deuluoedd a chymunedau. Mae ymuno â Chymuned Croes yr Hoelion yn fynegiant naturiol o’r ymrwymiad hwnnw. Bydd y groes hon yn ein hatgoffa’n weladwy o’n galwad gyffredin i weddïo dros heddwch, gweithio dros gymod a dod ag iachâd lle mae rhaniadau.” 

Sefydlwyd Undeb y Mamau yn 1876 gan Mary Sumner, gwraig offeiriad plwyf yn Hampshire. Daeth â menywod ynghyd i gefnogi ei gilydd yn eu rôl fel mamau ac i gryfhau bywyd teuluol drwy weddi, cymdeithas a gweithredu ymarferol.

Heddiw, mae Undeb y Mamau yn fudiad Cristnogol byd-eang sy’n gweithio gyda phobl o bob ffydd a chefndir i gryfhau teuluoedd a chymunedau. Mae ganddo aelodau mewn mwy nag 80 o wledydd.

Darllenwch y stori newyddion lawn ar wefan Esgobaeth Bangor: