Ysgol Glanaethwy a chyfeillion yn cyflwyno cynhyrchiad newydd gan Cefin Roberts, gyda Chadeirlan Bangor yn llwyfan i’w stori ei hun.
Bydd Cadeirlan Bangor yn llwyfan i’w hanes ei hun fis Hydref eleni, gyda chynhyrchiad theatr newydd yn edrych ar ei gorffennol a’i phresennol fel man lloches a noddfa.
Wedi’i hysgrifennu a’i chyfarwyddo gan Cefin Roberts, mae Dinas Noddfa – City of Refuge yn cynnwys perfformwyr o Ysgol Glanaethwy ynghyd â chast cymunedol a chorau lleol. Trwy ddrama, cerddoriaeth a chân, bydd y cynhyrchiad Cymraeg yn tywys cynulleidfaoedd o’r gymuned a sefydlwyd gan Deiniol Sant yn y chweched ganrif i Fangor heddiw.
Ystyr Dinas Noddfa yw “City of Refuge” neu “City of Sanctuary”. Mae’r teitl yn cysylltu dechreuadau Bangor â chwestiwn sy’n codi drwy gydol y cynhyrchiad: beth mae’n ei olygu i gael croeso, lloches ac ymdeimlad o berthyn yn y ddinas heddiw?
Mae’r stori’n dechrau pan fydd Mark a Ruth, cwpl ifanc o Fangor, yn camu i mewn i’r Gadeirlan i ddianc rhag yr oerfel. Wrth iddyn nhw grwydro’r adeilad, mae cymeriadau o orffennol y Gadeirlan yn ymddangos o’u cwmpas, gan ddatgelu hanes yr adeilad a’r ddinas a dyfodd o’i amgylch.
Mae’r cynhyrchiad yn symud rhwng y gorffennol a’r presennol, gyda newidiadau yn y ddrama a’r arddull gerddorol yn dangos y canrifoedd yn mynd heibio. Yn y pen draw, daw Deiniol Sant yn Daniel, dyn ifanc sy’n croesawu ymwelwyr i’r Gadeirlan heddiw.
Y Gadeirlan ei hun yw’r prif gymeriad, gan roi cyfle i’r gynulleidfa brofi ei hanes yn yr union fan lle digwyddodd.
Bydd tri pherfformiad ar 30 a 31 Hydref.
Awdur, actor a chyfarwyddwr cerddoriaeth a theatr o Gymru yw Cefin Roberts. Gyda’i wraig, Rhian, sefydlodd Ysgol Glanaethwy, y daeth ei chôr yn gyfarwydd i gynulleidfaoedd teledu drwy Last Choir Standing ar BBC One yn 2008 a Britain’s Got Talent ar ITV yn 2015. Enillodd Côr Glanaethwy deitl Côr y Byd yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn 2024 hefyd.
Yn ymuno â’r cast a’r corws mae Côr Cofnod o Gaernarfon a Chôr Hogia’r Ddwylan, sydd ag aelodau o ddwy ochr Afon Menai.
Meddai Cefin: “Pan dderbyniais yr her o greu sioe i ddathlu’r pen-blwydd arbennig hwn yn hanes Cadeirlan Bangor, roeddwn i’n gwybod o’r cychwyn y byddai’n gynhyrchiad mawr ym mhob ystyr. Pan ddarganfyddais fod yr hanes yn cynnwys cymeriadau mor lliwgar â Dewi Sant, Dafydd ap Gwilym, Owain Glyndŵr, y Frenhines Elisabeth I a’r Esgob John Warren (y cafodd pistol ei anelu ato yn ystod un cyfnod arbennig o gythryblus yn hanes y Gadeirlan), sylweddolais fod gen i stori epig ar fy nwylo.
“Wrth wraidd y stori hon mae’r bobl sy’n crwydro ar gyrion Cadeirlan Bangor, pobl sydd o hyd yn chwilio am loches a noddfa. Trwy ddawns, cân a drama, rydyn ni’n gobeithio plethu’r holl straeon lliwgar hyn mewn digwyddiad theatrig sy’n deilwng o’r achlysur.”
Meddai Esgob Bangor, Manon Ceridwen James: “Mae croeso a lletygarwch wedi bod yn rhan o’r stori Gristnogol ym Mangor ers i Deiniol Sant sefydlu ei gymuned yma 1,500 o flynyddoedd yn ôl. Maen nhw’n dal yn ganolog i’n ffydd ac i fywyd y Gadeirlan heddiw.
“Rwy’n edrych ymlaen at weld y cynhyrchiad hwn yn dod â hanes Bangor yn fyw. Bydd yn dathlu ein treftadaeth Gristnogol ac yn ein gwahodd i feddwl am sut rydyn ni’n cynnig croeso a noddfa i bobl heddiw.”
Tyfodd Bangor o amgylch y gymuned Gristnogol a sefydlwyd gan Deiniol Sant tua 525 OC. Daw ei henw o’r bangor, sef y lloc wedi’i amgáu â ffens o wiail plethiedig a oedd yn amgylchynu’r gymuned gynnar.
Daw’r cynhyrchiad yn dilyn dathliadau 1,500 mlwyddiant y Gadeirlan yn 2025. Mae’n edrych ar ei lle parhaus yn y ddinas, gan gynnwys ei rôl yn croesawu ac yn cefnogi pobl sy’n chwilio am fwyd, cwmni a lle diogel.
Bydd y perfformiadau yng Nghadeirlan Bangor ddydd Gwener 30 Hydref am 7.30pm a dydd Sadwrn 31 Hydref am 2pm a 7.30pm.
Mae’r cynhyrchiad yn Gymraeg yn bennaf. Mae croeso mawr i ddysgwyr Cymraeg.
Mae tocynnau ar gael ar Eventbrite:
Dinas Noddfa | City of Refuge Tickets, Multiple dates | Eventbrite
Darllenwch y stori lawn ar wefan Esgobaeth Bangor:



