English

Mae dau berson ifanc o Wrecsam wedi derbyn ysgoloriaeth i ddysgu canu'r organ yn Eglwys San Silyn yn y ddinas.

Mae Jessica Hogan a Nataniel Slowiakowski yn cael gwersi gydag organydd yr eglwys, Chris Pilsbury. Y ddau yw trydydd a phedwerydd ysgolhaig organ yr eglwys ar ôl iddi ail-lansio'r cynllun ddechrau 2020.

Dywedodd Ficer Eglwys San Silin, y Parchedig James Tout: “Rydym wrth ein bodd yn gallu rhannu’r ysgoloriaeth i alluogi dau gerddor ifanc eithriadol yn y ddinas i ddysgu’r offeryn. Mae’r ddau eisoes wedi cyflawni gradd 5 neu uwch yn y piano ac yn dod â’u dawn a’u brwdfrydedd eu hunain dros ddysgu’r organ.

“Dros y ddwy flynedd nesaf, byddant yn dysgu ochr yn ochr â’n organydd, Chris, ac erbyn diwedd eu hysgoloriaeth, byddant wedi ennill y sgiliau sydd eu hangen i allu mynd i mewn i unrhyw eglwys a chwarae yn ystod gwasanaeth.

“Pwrpas yr ysgoloriaeth yw ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o organyddion i sicrhau bod sain draddodiadol cerddoriaeth organ eglwysig yn parhau i’r dyfodol.”

Cefnogir y rhaglen Ysgoloriaeth Organ gan Sefydliad Addysgol Plwyfol Wrecsam. Mae ysgolheigion organ blaenorol wedi ennill ysgoloriaethau i Goleg Cerdd Brenhinol y Gogledd i barhau â'u hastudiaethau.

Y llynedd, lansiwyd Eglwys San Silyn fel Eglwys Hwb Cenhadol sy'n arbenigo mewn cerddoriaeth i bawb. Dechreuwyd côr a ganodd yn ystod Ewcharist Dydd Nadolig yn 2025 a llawer o ddigwyddiadau eraill ledled y ddinas.

Mae Eglwys San Silyn yn un o saith eglwys Hwb Cenhadol ar draws Esgobaeth Llanelwy, bob un yn arbenigo mewn agwedd benodol ar weinidogaeth. Mae Esgobaeth Llanelwy yn un o'r chwe esgobaeth sy'n ffurfio'r Eglwys yng Nghymru, talaith annibynnol o'r Cymundeb Anglicanaidd byd-eang.

Darllenwch y stori newyddion lawn ar wefan Esgobaeth Llanelwy: