English

Mae Archddiacon newydd Wrecsam, yr Hybarch Emma Whittick, wedi cael ei chroesawu a'i sefydlu yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy.

Roedd y gwasanaeth sefydlu yn rhan o Hwyrol Weddi Gorawl y Gadeirlan.

Cyn ei phenodiad yn Archddiacon, gwasanaethodd Emma fel Caplan i Esgob Abertawe ac Aberhonddu, John Lomas, cyn-Archddiacon Wrecsam ei hun. Bu hefyd yn gweinidogaethu yng Nghadeirlan Aberhonddu.

Cyn y gwasanaeth sefydlu, dywedodd Esgob Llanelwy, y Gwir Barchedig Gregory Cameron: “Mae Emma yn dod â doniau rhagorol i’w gweinidogaeth, a bydd yn ategu’r tîm arweinyddiaeth gwych sydd gennym yma yn Llanelwy.”

Mae archddiacon yn cynorthwyo'r esgob i oruchwylio'r esgobaeth ac yn arwain yr eglwysi yn eu harchddiaconiaeth. Bydd Emma yn gofalu am Archddiaconiaeth Wrecsam sy'n cynnwys dinas Wrecsam ac sy’n ymestyn i'r gogledd i Lannau Dyfrdwy. I'r dwyrain mae'n cynnwys eglwysi ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr ac i'r gorllewin, eglwysi yng nghymunedau Coedpoeth, Llanferres a'r Wyddgrug.

Mae dinas Wrecsam yn cynnwys Eglwys Adnoddau cenhadol yr esgobaeth, Hope Street. Agorodd yn ystod y pandemig yn hen siop ddillad Burton yng nghanol Wrecsam a dathlwyd ei phumed pen-blwydd ym mis Ionawr. Y mis nesaf, bydd Hope Street yn cefnogi agoriad ail Eglwys Adnoddau yn Eglwys Sant Tudfil yng Nghoedpoeth. Ychydig dros y ffordd o Hope Street mae Eglwys hanesyddol San Silyn, a ddisgrifir fel un o Saith Rhyfeddod Cymru. Mae'n tyfu fel Eglwys Hwb Cenhadol gyda ffocws ar gerddoriaeth.

Dywedodd Emma: “Rwy’n gyffrous iawn i ymuno ag Esgobaeth Llanelwy ar hyn o bryd ac rwy’n edrych ymlaen at annog, cefnogi a gweithio gyda’r eglwysi a’r cymunedau yn Archddiaconiaeth Wrecsam. Rwy’n teimlo bod gennym ddwy dasg benodol o’n blaenau: meithrin y ffydd sydd eisoes yno, ac ar yr un pryd, cyhoeddi’r Efengyl o’r newydd yn feiddgar i’r rhai nad ydynt wedi’i chlywed eto.”

Mae Emma yn ymuno ag Andy Grimwood a Gerwyn Capon fel Archddiaconiaid yn yr Esgobaeth. Andy yw Archddiacon Llanelwy a Gerwyn yw Archddiacon Trefaldwyn.

Magwyd Emma yn Didcot, ger Rhydychen, ac aeth i Brifysgol Aberystwyth i astudio mathemateg. Daeth i gredu tra roedd hi yn y brifysgol a dechreuodd ei gweinidogaeth ffurfiol fel Efengylwr Lleyg trwyddedig, gan wasanaethu'r eglwysi a'r cymunedau yn Aberystwyth a’r cyffiniau. Mae hi'n siarad Cymraeg yn rhugl. Ar ôl ei hordeinio, gwasanaethodd ei theitl yn eglwysi Dafen a Felinfoel, yn Llanelli, yn Esgobaeth Tyddewi. Yna ymunodd â Chaplaniaeth y Brifysgol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, wedi'i lleoli ar gampysau Llanbedr Pont Steffan a Chaerfyrddin, cyn dod yn Gaplan i Esgob Abertawe ac Aberhonddu.

Cynhaliwyd y gwasanaeth i orseddu Emma fel Archddiacon newydd Wrecsam am 3.30pm ddydd Sul 27 Medi yng Nghadeirlan Llanelwy.

Mae Esgobaeth Llanelwy yn un o'r chwe esgobaeth yn yr Eglwys yng Nghymru, talaith annibynnol yn y Cymundeb Anglicanaidd byd-eang.

Darllenwch y stori newyddion lawn ar wefan Esgobaeth Llanelwy: