Eglwys ganoloesol yng Nghonwy yw'r unig eglwys yng Nghymru sydd wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Cyfeillion yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol eleni.
Mae Eglwys Sant Bened, Gyffin, yn Ardal Weinidogaeth Bro Celynnin, yn un o bedair eglwys sydd â chyfle i ennill grant o £10,000. Mae'r eglwys Rhestredig Gradd I yn gartref i nenfwd paentiedig hardd a phrin o'r 15fed ganrif.
Pe bai Sant Bened yn llwyddo i ennill y grant, byddai'r cyllid yn cefnogi gwaith ailaddurno, atgyweirio plastrwaith a phaentio, yn ogystal â gosod toiled hygyrch. Byddai'r prosiect yn galluogi'r eglwys i agor yn amlach ac yn helpu trigolion ac ymwelwyr i ddysgu mwy am yr adeilad hanesyddol a hanes Gyffin.
Dywedodd Rosemary Mart o Eglwys Sant Bened: “Fy ngobaith yw y bydd yr eglwys yn brysurach ac yn fwy amlwg. Rydym am i bobl sylwi arni, ei gweld ar agor yn amlach, a darganfod y dreftadaeth sydd y tu ôl i’w drysau. O’r paentiadau ar y nenfwd i’r fedyddfaen a’r cerrig hanesyddol yn y cyntedd, mae straeon yn aros i gael eu hadrodd. Ar y funud nid yw hyn yn hysbys iawn, hyd yn oed yn lleol.
“Rydym am i’r gymuned wybod bod y lle hwn yn perthyn iddyn nhw a bod croeso iddyn nhw yma.”
Dim ond Cyfeillion yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol sy’n cael pleidleisio. Gall y rhai nad ydynt eisoes yn Gyfeillion ymuno o hyd, ond rhaid iddynt wneud hynny erbyn dydd Llun 17 Awst 2026 er mwyn bod yn gymwys.
Os ydych chi’n Gyfaill, neu’n adnabod rhywun sy’n Gyfaill, anogwch nhw i bleidleisio dros Eglwys Sant Bened cyn i’r bleidlais gau am 9pm ddydd Llun 31 Awst 2026.
Darllenwch y stori newyddion lawn ar wefan Esgobaeth Bangor:



