Bydd eglwys wrth droed yr Wyddfa yn agor ei drysau unwaith eto ddydd Sul ar gyfer gwasanaeth coffa arbennig i gofio’r rhai a gollodd eu bywydau ym mynyddoedd Eryri.
Bydd Cysgod yr Wyddfa yn cael ei gynnal yn Eglwys Peris Sant, Nant Peris, am 5.30pm ddydd Sul 25 Hydref. Bydd cyfle i bobl fyfyrio, gweddïo a chofio anwyliaid a fu farw yn y mynyddoedd, boed hynny yn ddiweddar neu flynyddoedd yn ôl.
Cynhaliwyd y gwasanaeth am y tro cyntaf yn 2025. Fe’i sefydlwyd gan y Parchedig Naomi Starkey yn dilyn cyfres o farwolaethau yn y mynyddoedd. Daeth aelodau o’r gymuned leol, gwirfoddolwyr achub mynydd a phobl â chysylltiadau personol â’r rhai a fu farw yn y mynyddoedd i’r gwasanaeth.
Bydd cyfle eto eleni i gynnau canhwyllau er cof am y rhai a fu farw, a bydd casgliad tuag at Dîm Achub Mynydd Llanberis.
Mae nifer y galwadau i Dîm Achub Mynydd Llanberis wedi cynyddu o 147 yn 2020 i 359 yn 2025, ac mae disgwyl i’r cyfanswm gyrraedd tua 440 eleni. Ymatebodd y tîm i 59 o alwadau ym mis Awst, y mis prysuraf yn ei hanes.*
Dywedodd y Parchedig Naomi, “Mae mynyddoedd Eryri yn rhoi llawenydd ac ysbrydoliaeth i gynifer o bobl, ond gallant hefyd fod yn fannau peryglus sy’n dod â thorcalon. Drwy Gysgod yr Wyddfa, rydyn ni am gynnig lle i gofio’r rhai a fu farw a lle o gysur i’r rhai sy’n gweld eu heisiau.”
Darllenwch y stori lawn ar wefan Esgobaeth Bangor:



