Mae Athrofa Padarn Sant yn falch iawn o gyhoeddi penodiad y Parchg Ganon Dr Jordan Hillebert fel Prifathro nesaf Padarn Sant, sefydliad hyfforddi gweinidogol yr Eglwys yng Nghymru.
Mae Jordan wedi treulio mwy na degawd yn gwasanaethu'r Eglwys yng Nghymru ym maes hyfforddi a ffurfiant, yn gyntaf fel Tiwtor mewn Diwinyddiaeth yng Ngholeg Sant Mihangel a maes o law fel Cyfarwyddwr Ffurfiant ar gyfer Gweinidogaeth yn Padarn Sant. Fel Cyfarwyddwr Ffurfiant, mae Jordan wedi chwarae rhan allweddol ar yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn Padarn Sant, gan oruchwylio hyfforddiant cychwynnol a ffurfiant pob gweinidog lleyg trwyddedig ac ordeiniedig yn yr Eglwys yng Nghymru.
Yn wreiddiol o'r Unol Daleithiau, symudodd Jordan i'r DU yn 2011 i gwblhau PhD mewn Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol St Andrews. Wedi'i ordeinio yn 2015, gwasanaethodd ei guradiaeth yn Eglwys Crist, Parc y Rhath ac ar hyn o bryd mae'n Ganon Diwinydd yn Eglwys Gadeiriol Llandaf. Mae Jordan yn ddiwinydd, yn siaradwr ac yn athro dawnus ac mae'n awdur Henri de Lubac and the Drama of Human Existence.
Wrth adfyfyrio ar ei benodiad, dywedodd Jordan, "Mae Padarn Sant yn dechrau pennod newydd gyffrous yn ei wasanaeth i'r Eglwys yng Nghymru. Mae cenhadaeth yr Eglwys yn galw am weinidogion o ddyfnder ysbrydol, sylwedd diwinyddol, a chymeriad Cristnogol aeddfed sy'n ymroddedig yn angerddol i wneud Crist yn hysbys yn eu bywydau a'u gweinidogaethau. Rwy'n falch iawn o arwain tîm mor dalentog yn y gwaith hanfodol hwn fel Prifathro Padarn Sant."
Wrth groesawu Jordan i'w rôl newydd, dywedodd Esgob Llandaf, y Gwir Barchg Mary Stallard, sy'n gyfrifol am y Weinidogaeth yn yr Eglwys yng Nghymru: "Mae hwn yn benodiad hynod bwysig i'r Eglwys yng Nghymru wrth i ni geisio paratoi ein gweinidogion lleyg ac ordeiniedig yn llawn i ddod â neges Iesu i bobl Cymru. Fel Eglwys, rwy'n gwybod y byddwn yn cadw Jordan yn ein gweddïau wrth iddo ymgymryd â'r dasg hanfodol hon."
Dywedodd Simon Lloyd, Prif Weithredwr Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru, sy'n goruchwylio Padarn Sant ar ran yr Eglwys: "Mae Jordan yn dod â chyfoeth o brofiad i'r swydd arweinyddiaeth genedlaethol hon. Bydd ei ymrwymiad profedig i alluogi eraill i ddatblygu eu galwad Cristnogol yn hanfodol wrth i Padarn Sant fwrw ymlaen â gwaith yr Efengyl yn y Gymru gyfoes."



