English

O Fiat 500 bach i Porsche o 1957, bydd ugain o geir yn teithio ar hyd ffyrdd Gogledd Cymru fis Hydref ar bererindod sy’n cyfuno ymweliadau ag eglwysi hynafol, gyrru drwy dirweddau hardd ac amser i fyfyrio.

Bydd chweched Taith Bererindod REVS yn cael ei chynnal rhwng 9 ac 11 Hydref. Wedi’i hysbrydoli gan Lwybr Cadfan, y llwybr pererindod o Dywyn i Aberdaron, bydd y daith yn mynd â 39 o bobl ar ddau lwybr gyrru o’u man cychwyn yng Nghricieth.

Hon fydd chweched bererindod REVS Richard Rimmer a Judith Cottrell. Fe wnaethant gwblhau’r tair gyntaf mewn Ford Model T o’r 1920au, gan ddringo bryniau serth Gogledd Cymru. Ers hynny, maent wedi dewis mwy o gysur a phŵer yn eu Porsche 356 o 1957.

Dywed y cwpl fod y daith yn rhoi amser iddynt ddianc rhag prysurdeb eu bywydau a mwynhau cwmni pobl eraill sy’n chwilio am gefnogaeth, cyfeillgarwch ac ymdeimlad o gymuned.

Bydd eu Porsche yn ymuno ag MGs o’r 1970au, Alfa Romeo Giulia o 1974, Fiat 500 gwreiddiol, ceir cyflym gan Mercedes a Morgans mwy diweddar sydd yn edrych yn fwy traddodiadol. Bydd pobl yn teithio o bob rhan o’r Daernas Unedig o Bury i Brighton a Southampton, gydag un criw yn dod o Dalybont yng Ngheredigion.

John Kiff sy’n trefnu’r daith. Mae’n dod yn wreiddiol o Benrhyn Llŷn ac yn byw yng Nghaerdydd bellach. Ef yw Cadeirydd Lleyg Ardal Weinidogaeth Garth yn Esgobaeth Llandaf. Mae wedi trefnu pob taith ers i’r digwyddiad ddechrau yn 2021, gan dynnu ar ei brofiad ym myd chwaraeon moduro a chynllunio llwybrau.

Mae’r digwyddiad wedi’i gyfyngu’n fwriadol i 20 o geir er mwyn gallu ymweld â mannau a fyddai’n anodd eu cyrraedd gyda grŵp mwy. Mae’n croesawu pobl sydd â ffydd, pobl heb ffydd a phawb sydd yn y canol.

Wedi’i enwi ar ôl Sant Cadfan, mae Llwybr Cadfan yn cysylltu eglwysi hynafol a mannau cysegredig ar draws Meirionnydd a Phenrhyn Llŷn. Mae’r daith foduro yn cael ei hysbrydoli gan y llwybr. Bydd yr ymweliadau ag eglwysi yn cynnig amser i fyfyrio’n dawel a chyfle i ddysgu am hanes Cristnogaeth yng Nghymru.

Bydd llwybr dydd Sadwrn yn mynd tua’r de i Dywyn, gan ymweld ag eglwysi yn Llanfihangel-y-Pennant, Tywyn, Llandanwg a Llandecwyn. Yn Llanfihangel-y-Pennant, bydd y pererinion yn dysgu am Mari Jones a’i thaith gerdded i’r Bala i brynu Beibl Cymraeg.

Bydd llwybr dydd Sul yn mynd tua’r gorllewin i Eglwys Sant Hywyn yn Aberdaron cyn ymweld ag eglwys Pistyll, sy’n gyfarwydd i’r pererinion o deithiau blaenorol.

Dywedodd y Tad Rhun ap Robert, “Does dim rhaid i chi gyrraedd ar droed i fod yn bererin. Mae’r eglwysi hyn wedi croesawu pobl â chwestiynau, pryderon a gobeithion ers canrifoedd. Y penwythnos hwn, bydd rhai yn cyrraedd mewn ceir clasurol.

“Mae rhywbeth am gamu i mewn i eglwys hynafol sy’n eich gwahodd i arafu. Rydych chi’n sylweddoli faint o bobl sydd wedi sefyll yno o’ch blaen, pob un â’i stori ei hun, yn chwilio am heddwch, yn gweddïo dros rywun maen nhw’n ei garu neu’n meddwl am beth ddaw nesaf. Rwy’n gobeithio y bydd y gyrwyr yn mwynhau’r ffyrdd y daith a’r cwmni, ond hefyd yn dod o hyd i rywbeth yn yr eglwysi hyn a fydd yn aros gyda nhw ar ôl iddynt yrru adref.”

Y Parchg Adam Gompertz sy’n arwain Cymuned REVS. Drwy ddigwyddiadau a chymuned ar-lein, mae’n cynnig lle i bobl sy’n mwynhau moduro rannu eu straeon, cael cefnogaeth mewn cyfnodau anodd ac archwilio ffydd os oes ganddynt ddiddordeb.

Mae croeso i drigolion lleol ddod i weld y ceir a chwrdd â’r pererinion yn y mannau penodol isod. Mae lleoedd parcio yn brin mewn rhai eglwysi.

Dydd Gwener 9 Hydref

  • 6pm: Gwesty Caerwylan, Cricieth, LL52 0HW.

Dydd Sadwrn 10 Hydref

  • 8.30am: Gwesty Caerwylan, Cricieth, LL52 0HW.
  • 10.05am: Abaty Cymer, Dolgellau, LL40 2HE.
  • 10.40am: Gwesty Tyn y Cornel, Tal-y-llyn, LL36 9AJ.
  • 11.10am: Eglwys Llanfihangel-y-Pennant, LL36 9TS. Lle parcio cyfyngedig.
  • 11.55am: Gorsaf Rheilffordd Talyllyn, Tywyn, LL36 9EY.
  • 1pm: Eglwys Sant Cadfan, Tywyn, LL36 9BS. Lle parcio cyfyngedig ger yr eglwys.
  • 4pm: Caffi Maes ac Eglwys Llandanwg, LL46 2SD.
  • 5pm: Eglwys Llandecwyn, LL47 6YT. Lle parcio cyfyngedig iawn.

Dydd Sul 11 Hydref

  • 10am: Eglwys Sant Hywyn a maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Aberdaron, LL53 8BE. 

Darllenwch y stori lawn ar wefan Esgobaeth Bangor: