English

Ymwelodd arweinwyr eglwysig o Ohio â Gogledd Cymru i ddysgu sut mae cymuned Gristnogol yn defnyddio cerdded a phererindod i gyrraedd pobl na fynychai eglwys fel arfer.

Roedd yr ymweliad yn rhan o daith ddeg diwrnod o amgylch y DU i archwilio ffyrdd newydd o fod yn eglwys, gan ymweld â Llundain, Lerpwl a Swydd Lincoln. Gwahoddodd Fresh Expressions UK, sefydliad sy’n cefnogi datblygiad y cymunedau hyn, y Cymuned Grwydrol i gynnal yr unig ymweliad yng Nghymru ar y daith.

Ymunodd yr Esgob Daniel Beaudoin, Esgob Synod Gogledd-orllewin Ohio o’r Eglwys Lutheraidd Efengylaidd yn America, a grŵp o weinidogion â’r gymuned ddydd Sul 11 Hydref i gerdded i Hen Eglwys Llangelynnin. 

Saif yr eglwys fach o’r ddeuddegfed ganrif yn uchel uwchben Dyffryn Conwy, gyda golygfeydd eang dros y bryniau o’i chwmpas. Rhaid cerdded i’w chyrraedd, ac mae’n un o’r mannau aros ar Lwybr Pererinion Gogledd Cymru i Ynys Enlli.

Arweinir y Gymuned Grwydrol gan y Parchedig Eryl Parry, Offeiriad Arloesol yn Esgobaeth Bangor (Ardal Weinidogaeth Bro Celynnin) a Chaplan Ynys Enlli. Mae’r gymuned wedi datblygu dros ddeng mlynedd ac yn helpu pobl i ddarganfod neu ddyfnhau eu perthynas â Duw drwy’r dirwedd, sgyrsiau a llonyddwch. Mae ei theithiau cerdded a’i chyfarfodydd yn cyffwrdd ar yr ysgrythur a straeon Cristnogol hynafol yr ardal.

Roedd hyn yn enghraifft ti'r ymwelwyr o weinidogaeth sy’n rhoi amser i bobl archwilio ffydd ac yn cydnabod na ellir brysio datblygiad cymuned. Mae hefyd yn golygu rhoi gofod i leisiau gwahanol a helpu pobl i ddarganfod yr hyn y gallant ei gyfrannu.

Wrth ddringo at yr eglwys, cerddodd yr ymwelwyr o Ohio ochr yn ochr ag aelodau o dîm arwain y gymuned, gan glywed sut y cychwynodd a sut mae wedi newid. Bu iddynt oedi i fyfyrio cyn cerdded y rhan nesaf mewn distawrwydd.

Yn yr eglwys, cynhaliodd y grŵp wasanaeth o Weddi’r Pererin. Buont yn myfyrio ar Mathew 11:28–30, gan ddefnyddio The Message, yn enwedig ei wahoddiad i ddarganfod “rhythmau naturiol gras” ac i “gerdded gyda mi a gweithio gyda mi”. Aralleiriad cyfoes o’r Beibl gan Eugene Peterson yw The Message, sy’n defnyddio iaith bob dydd i ddod â darnau cyfarwydd yn fyw mewn ffordd newydd.

“Ydych chi wedi blino? Wedi ymlâdd? Wedi cael eich llethu gan grefydd? Dewch ataf fi. Dewch i ffwrdd gyda mi, a chewch eich bywyd yn ôl. Fe ddangosaf i chi sut i orffwys yn iawn. Cerddwch gyda mi a gweithiwch gyda mi; gwyliwch sut rydw i’n gwneud pethau. Dysgwch rythmau naturiol gras. Ni fyddaf yn gosod dim byd trwm arnoch, na dim sy’n anaddas i chi. Arhoswch yn gwmni i mi, a byddwch yn dysgu byw’n rhydd ac yn ysgafn.”

Ysgogodd y darn drafodaeth am y beichiau y mae pobl yn eu cario a phwysigrwydd creu cymuned lle gallant ddod fel y maent. Roedd y ddelwedd o rannu baich hefyd yn berthnasol i brofiad gweinidogaeth arloesol: mae cymunedau Cristnogol newydd yn datblygu drwy weddi, perthnasoedd a phobl yn dysgu cydweithio, yn hytrach na thrwy ymdrechion un person. 

Wrth ysgrifennu ar Facebook, disgrifiodd Sarah Marie Kochy Schaaf o Synod Gogledd-orllewin Ohio ei phrofiad o’r Gymuned Grwydrol:

Mae blas Addoli yn y Gwyllt fel cael croeso gyda phice ar y maen cartref, wedi’u gwneud yn ôl rysáit mam-gu Jill.

Mae'r sain yn un o ddistawrwydd wedi ei drensio gan yr Ysbryd Glân, a’r sgwrs dyner y mae Eryl yn ein gwahodd i’w rhannu wrth i ni fynd ar bererindod gyda’n gilydd.

Mae’n edrych fel y persbectif a gewch wrth ddringo’n uwch a gweld gwaith llaw Duw yn plethu popeth ynghyd.

Mae’n teimlo fel dŵr o ffynnon ddofn, lle mae Mo yn oedi i drochi ei bysedd, gan eich gwahodd i rannu ei defod.

Mae’n arogli fel cannwyll wedi’i chynnau mewn hen eglwys, yn ein cysylltu â’r cenedlaethau a ddaeth y ffordd hon o’n blaenau.

Mae Eryl yn adnabyddus am ddefnyddio pererindod, cerdded a’r awyr agored yn ei gweinidogaeth. Yn 2024, cyfarfu ag enwogion a oedd yn cymryd rhan yn rhaglen Pilgrimage y BBC yn Llangelynnin. Cyflwynodd iddynt y syniad o “le cul”, lle mae’r nefoedd a’r ddaear yn teimlo’n arbennig o agos at ei gilydd.

Dywedodd Eryl, “Roedd yn anrhydedd mawr cael ein gwahodd gan Fresh Expressions UK i gynnal eu hymweliad yng Nghymru fel rhan o’r daith hon o amgylch y DU. Roedd cerdded gyda’n gilydd yn gyfle i rannu’n onest sut mae’r gymuned wedi datblygu dros y deng mlynedd diwethaf, ac i wrando ar ein gilydd a dysgu oddi wrth ein gilydd.

“I’n tîm ni, roedd yn gyfle i edrych yn ôl ar y daith honno a chydnabod faint o bobl sydd wedi helpu i’w llunio. Mae rhai wedi bod yn rhan o’r stori ers amser maith ac eraill wedi ymuno’n fwy diweddar, ond mae gan bawb lais a rhan i’w chwarae wrth i ni benderfynu ar y camau nesaf.

“Gwesteion ac ymwelwyr oedden ni ar ddechrau’r dydd, ond yn fuan iawn roedden ni’n gydbererinion, yn cerdded gyda’n gilydd ac yn rhannu’r gwahanol ffyrdd rydyn ni’n gweld Duw ar waith y tu hwnt i furiau ein heglwysi.”

Am ragor o wybodaeth am y Gymuned Grwydrol, cysylltwch â’r Parchedig Eryl Parry: erylparry@churchinwales.org.uk.

Darllenwch y stori lawn ar wefan Esgobaeth Bangor: