Y Tra Pharchedig Ddr Manon Ceridwen James wedi’i hethol yn 82ain Esgob Bangor
Yn dilyn cyfnod o weddi, myfyrdod, a disgwyliad, mae’r Eglwys yng Nghymru yn falch o gyhoeddi bod Y Tra Pharchedig Ddr Manon Ceridwen James wedi’i hethol fel Esgob Bangor - yr 82ain i ddwyn y teitl.
Cynhaliwyd yr etholiad yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Llandudno, yn ystod cyfarfod o’r Coleg Etholiadol, a ddechreuodd ar 16 Mehefin. Gan gynnwys 45 o gynrychiolwyr clerigol a lleyg o bob un o chwe esgobaeth yr Eglwys yng Nghymru, ynghyd â’r esgobion esgobaethol, roedd y Coleg wedi cyfarfod i ddewis olynydd i’r Gwir Barchedig Andrew John, a ymddeolodd yn Awst 2025.
Am Manon Ceridwen James
Manon Ceridwen James yw Deon Eglwys Gadeiriol Bangor lle mae hi wedi bod yn mynd i'r afael â nifer o faterion llywodraethu a chyllid heriol dros y flwyddyn ddiwethaf. Magwyd Manon yn Nefyn, ym Mhen Llŷn, a chafodd ei hordeinio'n ddiacon yn 1994 yn Eglwys Gadeiriol Bangor cyn bod ymhlith y merched cyntaf i gael ei hordeinio'n offeiriad yn yr esgobaeth yn 1997. Mae hi wedi gwasanaethu fel offeiriad plwyf yn esgobaethau Bangor a Llanelwy yn ogystal â dal amrywiaeth o rolau esgobaethol mewn hyfforddiant, addysg a galwedigaethau, yr olaf ohonynt oedd fel Cyfarwyddwraig Gweinidogaeth.
Rhwng 2018 a 2025 roedd Manon yn Ddeon Hyfforddiant Gweinidogol Cychwynnol yn Athrofa Padarn Sant yng Nghaerdydd. Yn ei hamser rhydd, mae Manon yn mwynhau ysgrifennu barddoniaeth a mynd i gemau pêl-droed Cymru a Wrecsam yn ogystal â digwyddiadau comedi gyda'i gŵr, Dylan sy'n Rheolydd Cyllidol Grŵp Prifysgol Bangor. Mae gan Manon radd mewn Diwinyddiaeth o Brifysgol Caergrawnt a PhD mewn Diwinyddiaeth Ymarferol o Brifysgol Birmingham. Ymhlith ei chyhoeddiadau mae llyfr yn seiliedig ar ei hymchwil PhD, Women, Identity and Religion in Wales a chasgliad o farddoniaeth - Notes from a Eucharistic Life. Mae sawl un o'i gwasanaethau ysgol hefyd wedi cael eu cyhoeddi gan SPCK.
Ar ôl i’r bleidlais gyrraedd mwyafrif o ddwy ran o dair o’r pleidleiswyr, gwnaed y cyhoeddiad wrth ddrws Eglwys y Drindod Sanctaidd, gan gadarnhau Manon Ceridwen James fel yr esgob-etholedig i arwain Esgobaeth Bangor—rhanbarth sydd â chysylltiad cyfoethog â phererindod a gweddi, yn ymestyn o Ynys Môn i Benrhyn Llŷn.
Dywedodd Archesgob Cymru, y Parchedicaf Cherry Vann: “Y mae Manon yn adnabyddus i bobl yr esgobaeth ac mi fydd yn gaffaeliad i’r esgobaeth, y Dalaith ac i Fainc yr Esgobion. Rydym wrth ein bodd ei bod wedi ei hethol a dymunwn bob bendith arni wrth iddi gamu i’r weinidogaeth newydd.”
Yn dilyn yr etholiad hwn, mae gan yr esgob-etholedig hyd at 28 diwrnod i dderbyn y swydd yn ffurfiol. Os byddant yn gwneud hynny, bydd yr etholiad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol yng nghyfarfod yr esgobion yn y synod sanctaidd, gyda’r cysegriad a’r gorseddu yn dilyn maes o law.