Datganiad gan Archesgob Cymru ar Etholiad y Pab Leo XIV

Ar ran yr Eglwys yng Nghymru, anfonaf fy llongyfarchiadau mwyaf twymgalon i'r Pab Leo XIV ar ei etholiad. Mewn byd sy'n llawn rhaniadau ac ansicrwydd, y mae gwirioneddau tragwyddol y neges Gristnogol yn fwy perthnasol nag eriod, a byddwn yn cadwr’ Pab Leo XIV yn ein gweddïau wrth iddo ymgymryd â’i gyfrifoldebau aruthrol fel arweinydd.
Yng Nghymru, mae gennym yr atgofion hapusaf o'r diweddar Pab Ffransis, a'i rhodd o ddarn o'r Wir Groes, sydd wedi'i ymgorffori yng Nghroes Cymru, y Groes seremonïol sydd bellach yn cael ei rhannu rhwng yr Eglwys Anglicanaidd a'r Eglwys Gatholig yng Nghymru. Yn yr ysbryd hwnnw o undod Cristnogol, gyda’n ffydd gyffredin yn ein hysbrydoli, edrychwn ymlaen at weithio gyda'n brodyr a’n chwiorydd Catholig er lles pawb.