Heddlu De Cymru yn apelio am ddioddefwyr-oroeswyr i ddod ymlaen yn dilyn euogfarn Anthony Pierce
Mae Heddlu De Cymru yn apelio ar ddioddefwyr-oroeswyr i ddod ymlaen yn dilyn collfarn Anthony Pierce am nifer o droseddau rhyw yn erbyn plant.
Plediodd Anthony Pierce, 85 oed, cyn Esgob Abertawe ac Aberhonddu, yn euog i bum cyhuddiad o ymosodiad anweddus ar blentyn o dan 16 oed yn Llys y Goron Abertawe ym mis Chwefror 2025. Cafodd ei ddedfrydu i bedair blynedd ac un mis yn y carchar a bydd yn destun Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol ar ôl ei ryddhau. Bydd hefyd ar y gofrestr troseddwyr rhyw am oes.
Ers y ddedfryd, mae Heddlu De Cymru wedi derbyn tri adroddiad pellach yn ymwneud â honiadau o droseddau yn dyddio’n ôl i’r 1970au a’r 1980au, sydd bellach yn destun ymchwiliad.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Tom Richardson fod yr heddlu’n deall pa mor anodd y gall fod i ddioddefwyr-oroeswyr ddod ymlaen, a chanmolodd ddewrder y rhai sydd eisoes wedi rhoi gwybod am gamdriniaeth. Mae swyddogion yn credu y gallai fod eraill wedi eu heffeithio ac maent yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth neu bryderon i gysylltu â’r heddlu, gan sicrhau y bydd unrhyw adroddiadau’n cael eu trin yn sensitif ac yn dosturiol.
Gall unrhyw un sy’n dymuno cysylltu â Heddlu De Cymru ffonio 101 gan ddyfynnu rhif digwyddiad 2600140999.
Mae’r Eglwys yng Nghymru yn cymryd diogelu o ddifrif iawn ac yn parhau’n ymrwymedig i sicrhau bod eglwysi yn llefydd diogel i bawb.
Rydym yn annog unrhyw un sydd â phryderon diogelu i gysylltu ag aelod o dîm diogelu’r Eglwys yng Nghymru:
Mae rhagor o wybodaeth am ddiogelu, cefnogaeth i oroeswyr ac adnoddau sydd ar gael ar gael yma:
Fel arall, mae Safe Spaces yn wasanaeth cymorth annibynnol am ddim sy’n darparu lle cyfrinachol, personol a diogel i unrhyw un sydd wedi cael ei gam-drin drwy ei berthynas â’r Eglwys yng Nghymru, Eglwys Loegr, neu’r Eglwys Gatholig yng Nghymru a Lloegr.
Gellir cysylltu â Safe Spaces drwy:
- Gwefan: Safe Spaces
- Ffôn: 0300 303 1056 (mae peiriant ateb ar gael y tu allan i oriau agor)
- E-bost: safespaces@firstlight.org.uk