Offeiriad Newydd wedi'i Drwyddedu ar gyfer Parc Caia yn Wrecsam

Mae Esgob Llanelwy wedi trwyddedu offeiriad newydd ar gyfer cymuned Parc Caia yn Wrecsam.
Trwyddeddwyd y Tad David Morris, cyn-Esgob Enlli, gan y Gwir Barchedig Gregory Cameron mewn gwasanaeth croeso arbennig yn Eglwys Sant Marc ddydd Iau diwethaf (9 Gorffennaf).
Yn ogystal â'i weinidogaeth yn Wrecsam, mae'r Tad David hefyd yn gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Ordinandiaid Esgobaethol. Yn y rôl hon mae'n gyfrifol am arwain y rhai sy'n canfod galwad i weinidogaeth Gristnogol, ynghyd â chefnogi'r rhai sy'n hyfforddi ar gyfer ordeinio.
Yn wreiddiol o Gymer yng Nghwm Rhondda, graddiodd David mewn Diwinyddiaeth o Brifysgol Cymru, Bangor, a hyfforddodd ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg Sant Mihangel, Llandaf, lle cwblhaodd radd Meistr mewn Diwinyddiaeth hefyd.
Cafodd David ei ordeinio'n offeiriad yn 2010 yng Nghadeirlan Llandaf a gwasanaethodd ei guradiaeth ym Merthyr Tudful. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, penodwyd David yn offeiriad plwyf Grangetown yng Nghaerdydd, lle gwasanaethodd am saith mlynedd, ac roedd hefyd yn Ymgynghorydd Galwedigaethau ar gyfer Esgobaeth Llandaf. Yn 2019, fe'i penodwyd yn Gyfarwyddwr Ordinandiaid ac yn ficer ym Mro Morganwg cyn symud i Fangor yn 2022 i ddod yn Gyfarwyddwr Gweinidogaeth Esgobaethol yno. Tra oedd ym Mangor, penodwyd David yn esgob cynorthwyol ym mis Mai 2024.
Dywedodd yr Esgob Gregory: "Mae'n braf croesawu David i Esgobaeth Llanelwy. Edrychwn ymlaen at ei gyfraniad wrth weithio gyda'r rhai sy'n archwilio'r alwad i'r weinidogaeth, yn ogystal â gwasanaethu cymuned Parc Caia o Eglwys Sant Marc sydd newydd ei hail-ddatblygu."
Dywedodd y Tad David: "Rwy'n hynod gyffrous ac awyddus i ddechrau fy ngweinidogaeth newydd yng nghymuned Parc Caia, gan wasanaethu ochr yn ochr â chynulleidfa Sant Marc ac mewn cydweithrediad â chydweithwyr lleyg ac ordeiniedig yn Ardal Genhadaeth ehangach Wrecsam. Rwy'n edrych ymlaen at ganfod gyda Sant Marc sut y gallem ddod o hyd i ffyrdd newydd o rannu cariad Duw a gobaith yr efengyl, gan weithio mewn partneriaeth â mudiadau a sefydliadau lleol eraill, cymunedau ffydd, a chynrychiolwyr etholedig."
Cynhaliwyd gwasanaeth trwyddedu a chroeso'r Tad David Morris ddydd Iau 9 Gorffennaf am 7pm yn Eglwys Sant Marc, Parc Caia, Wrecsam.