Grŵp newydd i archwilio cerdded myfyriol ym Mhen Llŷn
Mae cyfres newydd o deithiau cerdded tywysedig yn cael ei lansio ym Mhen Llŷn ar gyfer pobl sydd â diddordeb mewn cerdded, myfyrio a gweddïo.
Wedi ei drefnu gan Ardal Weinidogaeth Bro Madryn, mae Ramble and Reflect yn cynnig cyfle i archwilio cerdded myfyriol ar hyd rhannau o Lwybr Pererindod Gogledd Cymru, gan gyfuno amser yn yr awyr agored â myfyrdod tawel a sgwrsio. Mae’r teithiau cerdded wedi’u hysbrydoli gan Addoli yn y Gwyllt, a ddatblygwyd yn Ardal Weinidogaeth Bro Celynnin.
Bydd pob taith yn para tua dwy i dair awr ac yn ymestyn dros oddeutu tair milltir. Mae’r llwybrau’n cynnwys golygfeydd arfordirol a gwledig, gyda rhai rhannau serth. Mae’r rhaglen yn cynnwys teithiau o Langwnnadl i Borth Iago ar 2 Awst, o amgylch Nefyn ar 15 Awst, ac o Mount Pleasant i Drefor ar 19 Medi.
Darllenwch y stori newyddion lawn ar wefan Esgobaeth Bangor:
Esgobaeth Bangor - Y Newyddion Diweddaraf