Esgobaeth Bangor yn cael ei chydnabod am ymrwymiad parhaus i’r Gymraeg
Mae Esgobaeth Bangor unwaith eto wedi cael ei chydnabod gan Gomisiynydd y Gymraeg am ei hymrwymiad i hyrwyddo a chefnogi’r Gymraeg.
Derbyniodd yr Esgobaeth gydnabyddiaeth Cynnig Cymraeg am y tro cyntaf yn 2022, ac mae bellach wedi sicrhau cydnabyddiaeth am dair blynedd arall yn dilyn adolygiad o’i Chynllun Iaith Gymraeg. Mae’r Esgobaeth wedi ymrwymo i hyrwyddo’r Gymraeg ac annog siaradwyr newydd ar draws bywyd yr Eglwys.
Mae Cynllun Iaith Gymraeg yr esgobaeth yn ymrwymo i drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal ar draws addoliad, cyfathrebu ac ymgysylltu cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys:
- Cynnal gwefan a phresenoldeb cyfryngau cymdeithasol cwbl ddwyieithog,
- Cefnogi staff a chlerigion i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg.
- Darparu hyfforddiant a digwyddiadau dwyieithog.
- Annog pobl i addoli a chyfathrebu gyda’r esgobaeth yneu dewis iaith.
Mae Elin Owen yn arwain y gwaith hwn drwy gefnogi eglwysi, clerigion ac ardaloedd gweinidogaeth i gryfhau a datblygu eu darpariaeth Gymraeg.
Dywedodd Elin Owen, “Rydym wrth ein boddau o gael derbyn y gydnabyddiaeth hon unwaith eto am ein hymrwymiad i’r Gymraeg. Mae’r Gymraeg yn rhan naturiol o fywyd yn Esgobaeth Bangor, ac rydym am i bobl deimlo’n hyderus i addoli, cyfathrebu a chymryd rhan ym mywyd yr Eglwys yn iaith dewis iaith, tra hefyd yn annog a chefnogi siaradwyr newydd.”
Mae dysgwyr sydd yn dymuno addoli yn y Gymraeg hefyd yn cael eu cefnogi drwy fenter Duw a Dysgwyr, gwasanaeth byr i ddysgwyr, a gynhelir yn fisol yng Nghadeirlan Bangor. Cynhelir gwasanaethau ‘pop-up’ hefyd mewn eglwysi ar draws yr esgobaeth, gyda’r un diweddaraf wedi’i gynnal yng Conwy yr wythnos ddiwethaf. Mae Menter Iaith Bangor wedi bod yn cefnogi’r elfen “Cinio a Sgwrs”, sy’n cael ei chynnal ar ôl y gwasanaethau yn y gadeirlan ym Mangor.
Mae cwrs dysgu Cymraeg ar-lein i ddechreuwyr hefyd wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â Dysgu Cymraeg Cymru i helpu clerigion ac aelodau eglwysig i ddysgu Cymraeg a defnyddio mwy o’r iaith yn eu gwasanaethau. Mae hyn yn cynnwys gwasanaeth cymun syml a Gweddi’r Arglwydd.
Bydd Duw a Dysgwyr nesa yn ymweld ag Eglwys y Santes Fair ar 1 Mehefin, ac mae croeso cynnes i bawb.
Darllenwch y stori newyddion lawn ar wefan Esgobaeth Bangor:
Esgobaeth Bangor - Y Newyddion Diweddaraf