Eglwys yng Nghymru yn Cynnal Cynhadledd Genedlaethol Ysgolion yn Stadiwm Principality
Daeth cannoedd o addysgwyr, arweinwyr cymunedol, a phartneriaid cenedlaethol ynghyd yn Stadiwm Principality Caerdydd ar gyfer diwrnod arwyddocaol yn hanes addysg yng Nghymru wrth i’r Eglwys yng Nghymru gynnal ei chynhadledd ysgolion genedlaethol flaenllaw, Ffynnu Gyda'n Gilydd: Dathlu Dathlu Ecwiti a Rhagoriaeth mewn Ysgolion Eglwys yng Nghymru.
Roedd y gynhadledd yn canolbwyntio ar ymrwymiad beiddgar sy'n seiliedig ar weledigaeth: y dylai'r holl bobl ifanc o fewn teulu ysgolion yr Eglwys yng Nghymru – tua 27,000 o ddysgwyr – gael eu hadnabod, eu gwerthfawrogi, a'u cefnogi i gyrraedd eu potensial. Gyda thegwch, cynhwysiant a chydlyniad cymunedol wrth graidd I digwyddiad, cafodd arweinwyr ysgolion o draws rhwydwaith cenedlaethol amrywiol — o ysgolion uwchradd trefol mawr i ysgolion cynradd gwledig bychain — yr offer a'r ysbrydoliaeth i arwain yn hyderus i'r dyfodol.
Diwrnod o Leisiau Cenedlaethol a Gweithredu Lleol
Agorodd y bore gydag anerchiadau allweddol gan Dîm Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth (DARPL), yn archwilio ystyr gwir ymdeimlad o berthyn mewn ysgolion, ac wedyn Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru, yn siarad ar hawliau plant a thegwch addysgol.
Mewn uchafbwynt pwerus a thrawiadol, cafodd trafodaeth banel fyw ei hwyluso'n gyfan gwbl gan ddysgwyr o Ysgol Uwchradd Teilo Sant yr Eglwys yng Nghymru. Rhoddodd y sesiwn dan arweiniad ieuenctid gyfle i bobl ifanc eistedd wrth y bwrdd ochr yn ochr â chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, arweinwyr ffydd, prifathrawon a llywodraethwyr ysgol — gan archwilio polisi cynhwysiant ac addysg yn eu geiriau eu hunain.
Symudodd gweithdai'r prynhawn wedyn y ffocws i flaenoriaethau ymarferol: Addysg Gwerthoedd Crefyddol (AGC) fodern, cydlyniad cymunedol, iechyd meddwl, ac ysbrydolrwydd awyr agored.
Pam Roedd y Gynhadledd Hon yn Bwysig
Dywedodd Lisa Taylor, Cyfarwyddwr Addysg Eglwys yng Nghymru: "Mae ein hysgolion yn sefyll wrth galon eu cymunedau. Dyma lle mae rhagoriaeth academaidd a gweledigaeth Gristnogol yn cwrdd, a lle mae tegwch a chynhwysiant yn cael eu byw bob dydd. Rwy'n ddiolchgar iawn am y gwaith y mae ein haddysgwyr yn ei wneud: arwain ysgolion, cefnogi cymunedau, meithrin ffydd, a siapio bywydau â thosturi, dewrder a gobaith. Boed y dydd hwn ein llenwi â llawenydd wrth i ni geisio ffyniant i bawb gyda'n gilydd."
Ychwanegodd Y Gwir Barchg Dorrien Davies, Esgob Tyddewi a'r Esgob â chyfrifoldeb dros addysg yn yr Eglwys yng Nghymru: "Ym mhob ysgol ledled Cymru mae staff ymroddedig a ffyddlon yn meithrin, yn addysgu ac yn arwain y bobl ifanc a fydd yn llunio dyfodol eu cymunedau. Rwy'n cael fy nghyfareddu bob amser gan safonau ymddygiad uchel, ymgysylltiad bywiog dysgwyr, a'r cwestiynau deallus a ofynnir i mi — maent yn dangos bod ein hysgolion yn galluogi plant i ffynnu go iawn. Fel y dysgodd Dewi Sant: 'Byddwch lawen a chedwch eich ffydd a'ch cred, a gwnewch y pethau bychain.'"
Caeodd y gynhadledd ar nodyn llawen, gyda pherfformiad cerddorol gan iSingPop a disgyblion o Ysgol Gynradd Eglwys yng Nghymru VA Yr Holl Saint.