English

Mae haelioni yn dechrau a diweddu gyda Duw, a oedd yn dymuno rhannu ei fywyd gydag eraill. Felly, creodd ddynoliaeth ar ei lun a’i ddelw ei hun, sy’n golygu bod yr haelioni dwyfol yn nyfnder yn ein natur – yr awydd i roi o’n hunain i eraill, waeth faint y gost i ni’n bersonol.

Mae haelioni yn sgìl bywyd ac yn ffordd o fyw. Nid faint a roddwn sy’n cyfrif, ond faint a gadwn. Mae’r mwyafrif ohonom y gorfod gweithio’n galed i fod yn haelionus - anaml y daw’n naturiol ac rydym yn dysgu trwy fyfyrio ar haelioni anhygoel Duw i ni a thrwy gael ein hamgylchu gan bobl haelionus ac arfer haelioni yng nghyd-destun yr eglwys. Os na allwn fod yn hael yn ein rhoi i waith Duw (fel y bydd eraill yn profi’r haelioni dwyfol) ble arall y dysgwn ni i fod yn fwy haelionus?

Rydym ni’n gyfrifol am yr hyn wnawn ni â’r adnoddau sydd wedi eu rhoi i ni. Mae angen i ni wynebu’r anfodlonrwydd i roi’n sylweddol, sydd yn aml yn codi o ofn, drwgdybiaeth, ac ansicrwydd.

Yn ystod y flwyddyn hon, bydd eich eglwys yn ystyried beth yw haelioni a sut y gallwn ei gyflawni fel unigolion yn ogystal â chymuned Gristnogol.

Byddwch yn edrych ar sut mae Duw’n esiampl o haelioni, sut mae clerigion ac arweinwyr yn esiampl o haelioni, sut mae’n hiaith a’n gweithredoedd yn adlewyrchu haelioni Duw, a sut mae’r eglwys fel elusen yn arddangos haelioni.

Y gobeithion ar gyfer y flwyddyn hon yw:

  • Twf unigolion mewn disgyblaeth.
  • Adnoddau ariannol i gefnogi twf cenhadaeth a gweinidogaeth.
  • Cyfoethogi cenhadaeth a gweinidogaeth eich eglwys.
Adnoddau sydd ar gael:
  • Adnoddau Pregethu
  • Adnoddau Dysgu
  • Deunydd Astudio

Ar gael o Parish Resources, Stewardship Giving in Grace