English
Cynllunio ar gyfer twf

Os mai chi oedd yr unig Gristion yn eich cymuned, sut byddech chi’n rhannu’r newyddion da am Iesu Grist? Gall hwn fod yn lle da i ddechrau wrth i ni geisio dirnad gweledigaeth a phwrpas Duw. Wedi bod yn agored i Dduw mewn gweddi, bydd proses o gynllunio gweledigaeth yn eich helpu chi a’ch eglwys i dyfu.

Yn ystod y flwyddyn hon bydd eich eglwys yn diffinio ei phwrpas a’i chynllun ar gyfer y dyfodol. Gofynnir i chi ystyried beth sydd gennych chi’n barod (pobl, sgiliau, arian ac adnoddau eraill) a beth yw anghenion eich cymuned leol.

Byddwn ni’n awgrymu adnoddau a all eich helpu i gytuno ar y ffordd ymlaen ac a fydd wedyn yn gymorth i drosglwyddo’r weledigaeth honno i gynulleidfaoedd, cymunedau, sefydliadau a phartneriaid eraill y dymunwch gydweithio â nhw.

Mae sawl dimensiwn i dwf yr eglwys:

  • Twf mewn niferoedd.
  • Twf ysbrydol personol.
  • Dyfnder a gallu bywyd yn y gymuned Gristnogol.
  • Twf yn ein gwasanaeth i’r gymuned.

Adnoddau sydd ar gael

  • Doniau Ysbrydol
  • Eglwysi Iach
  • Arwain Eich Eglwys i Dwf
  • Cynllunio Gweithredu Cenhadol
  • Darparu’r Adnoddau ar gyfer Twf

Adnoddau pellach sydd ar gael: Church House Publishing, Leading your Church into Growth, Giving in Grace