English
Ffydd – Cydymaith sy’n Gwrando ar gyfer y Daith

Beth bynnag fo’n ffydd, neu sut bynnag gaiff ei ddisgrifio, rydyn ni i gyd yn fodau ysbrydol, wedi’n creu i fyw bywyd o les: yn bersonol, yn ysbrydol, ac yn gymunedol. Dydy bywyd o ffydd, fel gweddill bywyd, ddim bob amser yn hawdd ac felly, ar adegau, fe all fod o help inni rannu ein meddyliau a’n cwestiynau dyfnaf gyda pherson arall; i fod â chydymaith sy’n gwrando.

Mae cydymaith neu gyfaill mynwesol sy’n gwrando, ac a elwir yn yr eglwys yn gyfarwyddwr ysbrydol, yn rhywun wnaiff gyfarfod â chi a gwrando’n ddwys a gweddïgar arnoch chi. Yn aml, tybir mai rhywbeth yn unig ar gyfer clerigwyr neu’r rhai sy’n arwain addoliad ydy hyn ond, nac ydy, mae hyn ar gyfer unrhyw un a phawb.

Fel cyfarwyddwyr ysbrydol, nid ‘cyfarwyddo’ ydyn ni o gwbl, nac ychwaith yn cynnig atebion nac yn datrys problemau, a dydyn ni ddim yn cwnsela.

Yr hyn rydyn ni’n ei gynnig ydy’r parodrwydd i wrando’n agored heb farnu na dweud wrthoch chi beth i’w wneud. Fe wnawn ein gorau i’ch helpu chi i ddirnad beth yn union sydd arnoch ei eisiau er mwyn cael ymdeimlad dyfnach o les a [neu] berthynas â Duw.

Mae i bob esgobaeth yng Nghymru gyfarwyddwyr ysbrydol wedi’u hyfforddi, sy’n fodlon cyfarfod â chi unwaith neu am fisoedd neu flynyddoedd lawer! Rydyn ni’n eich croesawu fel yr ydych, a pha beth bynnag rydych yn ei geisio.

I ganfod mwy am gyfarwyddyd ysbrydol, beth mae’n ei olygu a sut i gael hyd i gyfarwyddwr ysbrydol a chydymaith ar gyfer eich taith, fe gewch isod restr o gydlynwyr cyfarwyddyd ysbrydol, y rhai hynny sy’n ‘gofalu’ am gyfarwyddyd ysbrydol ymhob esgobaeth yng Nghymru. Fe gewch gymorth ganddyn nhw i gael hyd i’r cydymaith gwrando, y cyfarwyddwr ysbrydol, sy’n iawn i chi.