Bydd Esgob Cadeiriol, Deon (gan gynnwys Periglor sydd hefyd yn Ddeon) neu Archddiacon yn ymddeol fel y cyfryw ar ei ben-blwydd neu ei phen-blwydd yn ddeg a thrigain oed.
Bydd Canon neu Brebendari yn ymddeol fel y cyfryw ar ei ben-blwydd neu ei phen-blwydd yn ddeg a thrigain oed.
Bydd Clerig a fo’n dal swydd arall neu ddiacones yn ymddeol ar ei ben-blwydd neu ei phen-blwydd yn ddeg a thrigain oed, eithr gall ohirio’r cyfryw ymddeol am gyfnod heb fod yn fwy na thri mis trwy hysbysu’r Esgob mewn ysgrifen o leiaf fis cyn bod yn ddeg a thrigain oed o’r dyddiad diweddarach y mae’n bwriadu ymddeol arno; eithr gall yr Esgob yn ei ddoethineb ganiatáu i Glerig neu ddiacones barhau am y cyfnod ac ymddeol ar y cyfryw ddyddiad diweddarach ag y tybio’r Esgob yn addas o bryd i’w gilydd.
2.
Gall Esgob Cadeiriol ymddeol ar unrhyw adeg rhwng ei bumed pen-blwydd a thrigain a’i ddegfed pen-blwydd a thrigain.
Gall unrhyw Glerig arall neu ddiacones ymddeol ar unrhyw adeg rhwng ei seithfed pen-blwydd a thrigain a’i degfed pen-blwydd a thrigain neu ei degfed pen-blwydd a thrigain drwy roddi rhybudd i’r Esgob mewn ysgrifen dri mis ymlaen llaw o’r bwriad i wneud hynny, ar yr amod y gall: (a) unrhyw Glerig neu ddiacones sydd mewn gwasanaeth pensiynol cyn 1 Ionawr 2017 ac sydd wedi cyflawni deugain mlynedd o wasanaeth pensiynol o’r fath cyn cyrraedd ei seithfed pen-blwydd a thrigain ymddeol ar unrhyw adeg wedi cyflawni hynny drwy roddi rhybudd o’r fath a derbyn y pensiwn y mae ganddo ef neu ganddi hi yr hawl iddo heb unrhyw ostyngiad actiwaraidd os daw’r cyfryw ymddeoliad i rym cyn ei seithfed pen-blwydd a thrigain; (b) unrhyw Glerig neu ddiacones sydd yn dod i mewn i wasanaeth pensiynol ar neu ar ôl 1 Ionawr 2017 ac sydd wedi cyflawni deugain mlynedd o wasanaeth pensiynol o’r fath cyn cyrraedd ei seithfed pen-blwydd a thrigain ymddeol ar unrhyw adeg wedi cyflawni hynny drwy roddi rhybudd o’r fath a derbyn y pensiwn y mae ganddo ef neu ganddi hi yr hawl iddo yn amodol ar ostyngiad actiwaraidd os daw’r cyfryw ymddeoliad i rym cyn ei seithfed pen-blwydd a thrigain.
3.
Gall yr Archesgob neu Esgob Cadeiriol ymddeol cyn bod yn saith a thrigain oed ar sail anallu parhaol i gyflawni ei ddyletswyddau neu ei dyletswyddau, a bod modd profi’r anallu hwnnw trwy dystysgrif feddygol a thystiolaeth arall.
Ar dir cyffelyb, o’i brofi yn yr un modd, gall unrhyw Glerig arall neu ddiacones ymddeol cyn bod yn saith blwydd a thrigain oed, ac ym mhob achos gyda chaniatâd yr Esgob mewn ysgrifen.